Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Galatiaid 5:13-26

Galatiaid 5:13-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Fe'ch galwyd chwi, gyfeillion, i ryddid, ond yn unig peidiwch ag arfer eich rhyddid yn gyfle i'r cnawd; yn hytrach trwy gariad byddwch yn weision i'ch gilydd. Oherwydd y mae'r holl Gyfraith wedi ei mynegi'n gyflawn mewn un gair, sef yn y gorchymyn, “Câr dy gymydog fel ti dy hun.” Ond os cnoi a darnio'ch gilydd yr ydych, gofalwch na chewch eich difa gan eich gilydd. Dyma yr wyf yn ei olygu: rhodiwch yn yr Ysbryd, ac ni fyddwch fyth yn cyflawni chwantau'r cnawd. Oherwydd y mae chwantau'r cnawd yn erbyn yr Ysbryd, a chwantau'r Ysbryd yn erbyn y cnawd. Y maent yn tynnu'n groes i'w gilydd, fel na allwch wneud yr hyn a fynnwch. Ond os ydych yn cael eich arwain gan yr Ysbryd, nid ydych dan gyfraith. Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg, sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd, eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio, cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw. Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth. Nid oes cyfraith yn erbyn rhinweddau fel y rhain. Y mae pobl Crist Iesu wedi croeshoelio'r cnawd ynghyd â'i nwydau a'i chwantau. Os yw ein bywyd yn yr Ysbryd, ynddo hefyd bydded ein buchedd. Bydded inni ymgadw rhag gwag ymffrost, rhag herio ein gilydd, a rhag cenfigennu wrth ein gilydd.

Galatiaid 5:13-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ydych, ffrindiau annwyl, dych chi wedi’ch galw i fod yn rhydd. Ond dw i ddim yn sôn am benrhyddid, sy’n esgus i adael i’r chwantau eich rheoli chi. Sôn ydw i am y rhyddid i garu a gwasanaethu eich gilydd. Mae yna un gorchymyn sy’n crynhoi’r cwbl mae’r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.” Ond os dych chi’n gwneud dim byd ond cega ac ymosod ar eich gilydd, gwyliwch eich hunain! Byddwch chi’n dinistrio’ch gilydd. Beth dw i’n ei ddweud ydy y dylech adael i’r Ysbryd reoli’ch bywydau chi, wedyn fyddwch chi ddim yn gwneud beth mae’r chwantau eisiau. Mae ein natur bechadurus ni am i ni wneud drwg – yn hollol groes i beth mae’r Ysbryd eisiau. Ond mae’r Ysbryd yn rhoi’r awydd i ni wneud fel arall, sef y gwrthwyneb i beth mae’r natur bechadurus eisiau. Mae brwydr barhaus yn mynd ymlaen – allwch chi ddim dianc rhagddi. Ond os ydy’r Ysbryd yn eich arwain chi, dych chi ddim yn gaeth i’r Gyfraith Iddewig bellach. Mae canlyniadau gwrando ar y natur bechadurus yn gwbl amlwg: anfoesoldeb rhywiol, meddyliau mochaidd a phenrhyddid llwyr; hefyd addoli eilun-dduwiau a dewiniaeth; a phethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio, uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol, eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg. Dw i’n eich rhybuddio chi eto, fel dw i wedi gwneud o’r blaen, fydd pobl sy’n byw felly ddim yn cael perthyn i deyrnas Dduw. Ond dyma’r ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth. Does dim cyfraith yn erbyn pethau felly. Mae pobl y Meseia Iesu wedi lladd y natur bechadurus gyda’i nwydau a’i chwantau drwy ei hoelio hi ar y groes. Felly os ydy’r Ysbryd wedi rhoi bywyd i ni rhaid i ni adael i’r Ysbryd ein harwain ni. Gadewch i ni beidio bod yn falch, a phryfocio’n gilydd a bod yn eiddigeddus o’n gilydd.

Galatiaid 5:13-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Canys i ryddid y’ch galwyd chwi, frodyr: yn unig nac arferwch y rhyddid yn achlysur i’r cnawd, ond trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd. Canys yr holl ddeddf a gyflawnir mewn un gair, sef yn hwn; Câr dy gymydog fel ti dy hun. Ond os cnoi a thraflyncu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddifether chwi gan eich gilydd. Ac yr wyf yn dywedyd, Rhodiwch yn yr Ysbryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd. Canys y mae’r cnawd yn chwenychu yn erbyn yr Ysbryd, a’r Ysbryd yn erbyn y cnawd: a’r rhai hyn a wrthwynebant ei gilydd, fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch. Ond os gan yr Ysbryd y’ch arweinir, nid ydych dan y ddeddf. Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw, torpriodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, Delw-addoliaeth, swyn-gyfaredd, casineb, cynhennau, gwynfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresïau, Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i’r rhai hyn: am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych, megis ag y rhagddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw. Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw, cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest: Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf. A’r rhai sydd yn eiddo Crist, a groeshoeliasant y cnawd, â’i wyniau a’i chwantau. Os byw yr ydym yn yr Ysbryd, rhodiwn hefyd yn yr Ysbryd. Na fyddwn wag-ogoneddgar, gan ymannog ein gilydd, gan ymgenfigennu wrth ein gilydd.