Ydych, ffrindiau annwyl, dych chi wedi’ch galw i fod yn rhydd. Ond dw i ddim yn sôn am benrhyddid, sy’n esgus i adael i’r chwantau eich rheoli chi. Sôn ydw i am y rhyddid i garu a gwasanaethu eich gilydd. Mae yna un gorchymyn sy’n crynhoi’r cwbl mae’r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.” Ond os dych chi’n gwneud dim byd ond cega ac ymosod ar eich gilydd, gwyliwch eich hunain! Byddwch chi’n dinistrio’ch gilydd.
Beth dw i’n ei ddweud ydy y dylech adael i’r Ysbryd reoli’ch bywydau chi, wedyn fyddwch chi ddim yn gwneud beth mae’r chwantau eisiau. Mae ein natur bechadurus ni am i ni wneud drwg – yn hollol groes i beth mae’r Ysbryd eisiau. Ond mae’r Ysbryd yn rhoi’r awydd i ni wneud fel arall, sef y gwrthwyneb i beth mae’r natur bechadurus eisiau. Mae brwydr barhaus yn mynd ymlaen – allwch chi ddim dianc rhagddi. Ond os ydy’r Ysbryd yn eich arwain chi, dych chi ddim yn gaeth i’r Gyfraith Iddewig bellach.
Mae canlyniadau gwrando ar y natur bechadurus yn gwbl amlwg: anfoesoldeb rhywiol, meddyliau mochaidd a phenrhyddid llwyr; hefyd addoli eilun-dduwiau a dewiniaeth; a phethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio, uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol, eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg. Dw i’n eich rhybuddio chi eto, fel dw i wedi gwneud o’r blaen, fydd pobl sy’n byw felly ddim yn cael perthyn i deyrnas Dduw.
Ond dyma’r ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth. Does dim cyfraith yn erbyn pethau felly. Mae pobl y Meseia Iesu wedi lladd y natur bechadurus gyda’i nwydau a’i chwantau drwy ei hoelio hi ar y groes. Felly os ydy’r Ysbryd wedi rhoi bywyd i ni rhaid i ni adael i’r Ysbryd ein harwain ni. Gadewch i ni beidio bod yn falch, a phryfocio’n gilydd a bod yn eiddigeddus o’n gilydd.