Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Galatiaid 4:8-20

Galatiaid 4:8-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gynt, yn wir, a chwithau heb adnabod Duw, caethweision oeddech i fodau nad ydynt o ran eu natur yn dduwiau. Ond yn awr, a chwithau wedi adnabod Duw, neu yn hytrach, wedi eich adnabod gan Dduw, sut y gallwch droi yn ôl at yr ysbrydion elfennig llesg a thlawd, a mynnu mynd yn gaethweision iddynt hwy unwaith eto? Cadw dyddiau, a misoedd, a thymhorau, a blynyddoedd, yr ydych. Y mae arnaf ofn mai yn ofer yr wyf wedi llafurio ar eich rhan. Rwy'n ymbil arnoch, gyfeillion, byddwch fel yr wyf fi, oherwydd fe fûm i, yn wir, fel yr oeddech chwi. Ni wnaethoch ddim cam â mi. Fel y gwyddoch, ar achlysur gwendid corfforol y pregethais yr Efengyl i chwi y tro cyntaf; ac er i gyflwr fy nghorff fod yn demtasiwn i chwi, ni fuoch na dibris na dirmygus ohonof, ond fy nerbyn a wnaethoch fel angel Duw, fel Crist Iesu ei hun. Ble'r aeth eich llawenydd? Oherwydd gallaf dystio amdanoch, y buasech wedi tynnu'ch llygaid allan a'u rhoi i mi, petasai hynny'n bosibl. A wyf fi, felly, wedi mynd yn elyn ichwi, am imi ddweud y gwir wrthych? Y mae yna bobl sy'n rhoi sylw mawr ichwi, ond nid er eich lles; ceisio eich cau chwi allan y maent, er mwyn i chwi roi sylw iddynt hwy. Peth da bob amser yw ichwi gael sylw, pan fydd hynny er lles, ac nid yn unig pan fyddaf fi'n bresennol gyda chwi. Fy mhlant bach, yr wyf unwaith eto mewn gwewyr esgor arnoch, hyd nes y ceir ffurf Crist ynoch. Byddai'n dda gennyf fod gyda chwi yn awr, a gostegu fy llais, oherwydd yr wyf mewn penbleth yn eich cylch.

Galatiaid 4:8-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

O’r blaen, cyn i chi ddod i wybod am Dduw roeddech chi’n gaeth i bwerau sy’n cael eu galw’n ‘dduwiau’ ond sydd ddim wir yn dduwiau. Ond bellach dych chi wedi cyfarfod, a dod i nabod, y gwir Dduw (er, Duw ddaeth i’ch cyfarfod chi go iawn). Felly pam dych chi eisiau troi’n ôl at y pethau hynny sydd mor wan a thila? Ydych chi eisiau cael eich caethiwo ganddyn nhw unwaith eto? Ydych chi’n meddwl mai cadw rhyw fân reolau am ddyddiau arbennig a misoedd a thymhorau’r gwyliau crefyddol blynyddol sy’n plesio Duw? Mae’n gwneud i mi deimlo mod i wedi gwastraffu f’amser gyda chi! Frodyr a chwiorydd, dw i’n erfyn arnoch chi i fyw’n rhydd o bethau felly, fel dw i’n gwneud. Dw i wedi dod fel un ohonoch chi. Dych chi erioed wedi gwneud dim drwg i mi o’r blaen. Gwyddoch mai salwch roddodd gyfle i mi gyhoeddi’r newyddion da i chi y tro cyntaf. A wnaethoch chi ddim gwneud hwyl am fy mhen i na ngwrthod i, er bod fy salwch yn demtasiwn i chi wneud hynny. Yn wir, ces i’r fath groeso gynnoch chi – fel petawn i’n angel oddi wrth Dduw, neu hyd yn oed y Meseia Iesu ei hun! Roeddech chi mor hapus! Beth sydd wedi digwydd? Dw i’n reit siŵr y byddech chi bryd hynny wedi tynnu’ch llygaid eich hunain allan a’u rhoi nhw i mi petai’n bosib. Ydw i bellach yn elyn i chi am fy mod i wedi dweud y gwir? Mae’r athrawon ffals yna mor awyddus i geisio’ch cael chi i’w dilyn nhw, ond dŷn nhw’n poeni dim am eich lles chi. Y cwbl maen nhw eisiau ydy’ch cael chi i dorri cysylltiad â ni, a dechrau eu cefnogi nhw. “Mae’n beth da ceisio pobl gyda’r bwriad o wneud lles iddyn nhw” – felly y dylai fod bob amser, nid dim ond pan dw i o gwmpas. Fy mhlant annwyl i – dw i’n teimlo fel mam yn cael poenau wrth eni plentyn, a fydd y poen ddim yn diflannu nes bydd bywyd y Meseia i’w weld yn eich bywydau chi. O! byddwn i’n rhoi unrhyw beth am gael bod acw gyda chi, er mwyn i chi glywed oddi wrth dôn fy llais sut dw i’n teimlo go iawn. Dw i wir yn poeni! – dw i ddim yn gwybod beth i’w wneud!