Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Galatiaid 3:10-29

Galatiaid 3:10-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae’r rhai sy’n meddwl y byddan nhw’n iawn am eu bod nhw’n cadw manion y Gyfraith Iddewig yn dal i fyw dan gysgod melltith. Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Melltith ar bawb sydd ddim yn dal ati i wneud pob peth mae Llyfr y Gyfraith yn ei ddweud.” Felly mae’n gwbl amlwg fod y Gyfraith ddim yn gallu dod â neb i berthynas iawn gyda Duw, am mai “Drwy ffydd mae’r un sy’n iawn gyda Duw yn byw.” Mae’r syniad o gadw rheolau’r Gyfraith yn hollol wahanol – does dim angen ffydd. Dweud mae’r Gyfraith: “Y rhai sy’n gwneud y pethau hyn i gyd sy’n cael byw.” Roedd y Gyfraith yn ein melltithio ni – roedden ni i gyd yn gaeth! Ond wedyn daeth y Meseia a thalu’r pris i’n gollwng ni’n rhydd. Cafodd e ei felltithio yn ein lle ni. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae pawb sy’n cael eu crogi ar bren wedi’u melltithio.” Talodd y Meseia Iesu y pris i’n gollwng ni’n rhydd, er mwyn i bobl o’r cenhedloedd eraill i gyd gael profi’r un fendith ag Abraham. Ac wrth gredu dŷn ni hefyd yn derbyn yr Ysbryd gafodd ei addo. Frodyr a chwiorydd, gadewch i mi esbonio’r peth drwy ddefnyddio darlun o fywyd bob dydd. Mae’r un fath ag ewyllys. Os ydy ewyllys wedi’i gwneud yn gyfreithlon does gan neb hawl i’w dileu hi nac ychwanegu dim ati. Nawr, roedd Duw wedi rhoi addewid i Abraham ac i un o’i ddisgynyddion – sylwch mai ‘hedyn’ ydy’r gair sy’n cael ei ddefnyddio yn yr ysgrifau sanctaidd, dim y gair lluosog ‘hadau’ fyddai’n cyfeirio at lawer o bobl. Y ffurf unigol sy’n cael ei ddefnyddio, ac felly mae’n sôn am un person yn unig, sef y Meseia. Dyma beth dw i’n ei ddweud: Allai’r Gyfraith, oedd wedi’i rhoi ar ôl 430 mlynedd, ddim dileu yr ymrwymiad hwnnw oedd Duw wedi’i wneud gynt ac wedi addo ei gadw. Os ydy derbyn y cwbl mae Duw am ei roi i ni yn dibynnu ar gadw’r Gyfraith Iddewig, dydy e ddim yn ganlyniad i’r ffaith fod Duw wedi gwneud addewid! Ond beth wnaeth Duw yn ei haelioni oedd gwneud addewid i Abraham. Felly beth oedd diben rhoi’r Gyfraith? Cafodd ei rhoi i ddangos i bobl beth ydy ystyr pechu, hyd nes i’r ‘hedyn’ y soniwyd amdano gyrraedd – sef yr un oedd yr addewid yn cyfeirio ato. Cofiwch hefyd fod Duw wedi defnyddio angylion i roi’r Gyfraith i ni, a hynny drwy ganolwr, sef Moses. Does ond angen canolwr pan mae mwy nag un ochr. Ond pan wnaeth Duw addewid i Abraham roedd yn gweithredu ar ei ben ei hun. Felly, ydy hyn yn golygu bod y Gyfraith yn gwrth-ddweud beth wnaeth Duw ei addo? Na, dim o gwbl! Petai Duw wedi rhoi cyfraith oedd yn gallu rhoi bywyd i bobl, yna’n sicr byddai pobl yn gallu cael perthynas iawn gyda Duw drwy gadw rheolau’r gyfraith honno. Ond mae’r ysgrifau sanctaidd yn dangos yn glir fod pawb drwy’r byd i gyd yn gaeth i bechod. Y rhai sy’n credu sy’n derbyn beth wnaeth Duw ei addo, a hynny am fod Iesu Grist wedi bod yn ffyddlon. Cyn i’r Meseia ddod roedd y Gyfraith yn ein dal ni’n gaeth – roedden ni dan glo nes i’w ffyddlondeb e gael ei ddangos i ni. Pwrpas y Gyfraith oedd ein gwarchod ni a’n harwain ni at y Meseia, er mwyn i ni ddod i berthynas iawn gyda Duw drwy gredu ynddo. Mae e wedi bod yn ffyddlon, ac felly dim y Gyfraith sy’n ein gwarchod ni bellach. Dych chi i gyd yn blant Duw drwy gredu yn y Meseia Iesu. Mae pob un ohonoch chi wedi uniaethu gyda’r Meseia drwy eich bedydd – mae’r un fath â’ch bod wedi gwisgo’r Meseia amdanoch. Sdim ots os ydych chi’n Iddew neu’n perthyn i genedl arall, yn gaethwas neu ddinesydd rhydd, gwryw a benyw – dych chi i gyd fel un teulu sy’n perthyn i’r Meseia Iesu. Os dych chi’n perthyn i’r Meseia, dych chi’n blant i Abraham, a byddwch yn derbyn yr holl bethau da mae Duw wedi’u haddo.

Galatiaid 3:10-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Oherwydd y mae pawb sy'n dibynnu ar gadw gofynion cyfraith dan felltith, achos y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un nad yw'n cadw at bob peth sy'n ysgrifenedig yn llyfr y Gyfraith, a'i wneud!” Y mae'n amlwg na chaiff neb ei gyfiawnhau gerbron Duw ar dir cyfraith, oherwydd, “Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw.” Eithr nid “trwy ffydd” yw egwyddor y Gyfraith; dweud y mae hi yn hytrach, “Y sawl sy'n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt hwy.” Prynodd Crist ryddid i ni oddi wrth felltith y Gyfraith pan ddaeth, er ein mwyn, yn wrthrych melltith, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un a grogir ar bren!” Y bwriad oedd cael bendith Abraham i ymledu i'r Cenhedloedd yng Nghrist Iesu, er mwyn i ni dderbyn, trwy ffydd, yr Ysbryd a addawyd. Gyfeillion, i gymryd enghraifft o'r byd dynol, pan fydd ewyllys, sef cyfamod olaf rhywun, wedi ei chadarnhau, ni chaiff neb ei dirymu nac ychwanegu ati. Yn awr, i Abraham y rhoddwyd addewidion y cyfamod, ac i'w had ef. Ni ddywedir, “ac i'th hadau”, yn y lluosog, ond, “ac i'th had di”, yn yr unigol, a'r un hwnnw yw Crist. Dyma yr wyf yn ei olygu: yn achos cyfamod oedd eisoes wedi ei gadarnhau gan Dduw, nid yw cyfraith, sydd bedwar cant tri deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn ei ddirymu, nes gwneud yr addewid yn ddiddim. Oherwydd, os trwy gyfraith y mae'r etifeddiaeth, yna nid yw mwyach trwy addewid; ond trwy addewid y mae Duw o'i ras wedi ei rhoi i Abraham. Beth, ynteu, am y Gyfraith? Ar gyfrif troseddau yr ychwanegwyd hi, i aros hyd nes y byddai'r had, yr un y gwnaed yr addewid iddo, yn dod. Fe'i gorchmynnwyd trwy angylion, gyda chymorth canolwr. Ond nid oes angen canolwr lle nad oes ond un; ac un yw Duw. A yw'r Gyfraith, ynteu, yn groes i addewidion Duw? Nac ydyw, ddim o gwbl! Oherwydd pe bai cyfraith wedi ei rhoi â'r gallu ganddi i gyfrannu bywyd, yna, yn wir, fe fyddai cyfiawnder trwy gyfraith. Ond nid felly y mae; yn ôl dyfarniad yr Ysgrythur, y mae'r byd i gyd wedi ei gaethiwo gan bechod, er mwyn peri mai trwy ffydd yn Iesu Grist, ac i'r rhai sy'n meddu'r ffydd honno, y rhoddid yr hyn a addawyd. Cyn i'r ffydd hon ddod, yr oeddem dan warchodaeth gaeth cyfraith, yn disgwyl am y ffydd oedd i gael ei datguddio. Felly, bu'r Gyfraith yn was i warchod trosom hyd nes i Grist ddod, ac inni gael ein cyfiawnhau trwy ffydd. Ond gan fod y ffydd hon bellach wedi dod, nid ydym mwyach dan warchodaeth gwas. Oblegid yr ydych bawb, trwy ffydd, yn blant Duw yng Nghrist Iesu. Oherwydd y mae pob un ohonoch sydd wedi ei fedyddio i Grist wedi gwisgo Crist amdano. Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw, oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu. Ac os ydych yn eiddo Crist, yna had Abraham ydych, etifeddion yn ôl yr addewid.

Galatiaid 3:10-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Canys cynifer ag y sydd o weithredoedd y ddeddf, dan felltith y maent: canys ysgrifennwyd, Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifennir yn llyfr y ddeddf, i’w gwneuthur hwynt. Ac na chyfiawnheir neb trwy’r ddeddf gerbron Duw, eglur yw: oblegid, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd. A’r ddeddf nid yw o ffydd: eithr, Y dyn a wna’r pethau hynny, a fydd byw ynddynt. Crist a’n llwyr brynodd oddi wrth felltith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felltith trosom: canys y mae yn ysgrifenedig, Melltigedig yw pob un sydd yng nghrog ar bren: Fel y delai bendith Abraham ar y Cenhedloedd, trwy Grist Iesu; fel y derbyniem addewid yr Ysbryd trwy ffydd. Y brodyr, dywedyd yr wyf ar wedd ddynol; Cyd na byddo ond amod dyn, wedi y cadarnhaer, nid yw neb yn ei ddirymu, neu yn rhoddi ato. I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac i’w had ef. Nid yw yn dywedyd, Ac i’w hadau, megis am lawer; ond megis am un, Ac i’th had di, yr hwn yw Crist. A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, am yr amod a gadarnhawyd o’r blaen gan Dduw yng Nghrist, nad yw’r ddeddf, oedd bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi, yn ei ddirymu, i wneuthur yr addewid yn ofer. Canys os o’r ddeddf y mae’r etifeddiaeth, nid yw haeach o’r addewid: ond Duw a’i rhad roddodd i Abraham trwy addewid. Beth gan hynny yw’r ddeddf? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddelai’r had, i’r hwn y gwnaethid yr addewid; a hi a drefnwyd trwy angylion yn llaw cyfryngwr. A chyfryngwr nid yw i un; ond Duw sydd un. A ydyw’r ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na ato Duw: canys pe rhoesid deddf a allasai fywhau, yn wir o’r ddeddf y buasai cyfiawnder. Eithr cydgaeodd yr ysgrythur bob peth dan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist i’r rhai sydd yn credu. Eithr cyn dyfod ffydd, y’n cadwyd dan y ddeddf, wedi ein cyd-gau i’r ffydd, yr hon oedd i’w datguddio. Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd. Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athro. Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy ffydd yng Nghrist Iesu. Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist, a wisgasoch Grist. Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. Ac os eiddo Crist ydych, yna had Abraham ydych, ac etifeddion yn ôl yr addewid.