Eseciel 3:17-19
Eseciel 3:17-19 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“Ddyn, dw i’n dy benodi di yn wyliwr i warchod pobl Israel. Rhaid i ti eu rhybuddio nhw pan fydda i’n rhoi neges i ti. Pan dw i’n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti’n siŵr o farw,’ a tithau ddim wedi’i rybuddio a’i annog i newid ei ffyrdd a byw, bydd e’n marw am ei fod wedi pechu a bydda i’n dy ddal di’n gyfrifol ei fod wedi marw. Ond os byddi di wedi’i rybuddio, ac yntau wedi gwrthod newid ei ffyrdd, bydd e’n marw am ei fod wedi pechu ond byddi di wedi achub dy hun.
Eseciel 3:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Fab dyn, gosodais di yn wyliwr i dŷ Israel; byddi'n clywed gair o'm genau ac yn rhoi rhybudd iddynt oddi wrthyf. Os dywedaf wrth y drygionus, ‘Byddi'n sicr o farw’, a thithau heb ei rybuddio a heb lefaru wrtho i'w droi o'i ffordd ddrygionus er mwyn iddo fyw, bydd y drygionus hwnnw farw am ei gamwedd, ond byddaf yn dy ddal di yn gyfrifol am ei waed. Ond os byddi wedi rhybuddio'r drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni ac o'i ffordd ddrygionus, bydd yn marw am ei gamwedd, ond byddi di wedi dy arbed dy hunan.
Eseciel 3:17-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Mab dyn, mi a’th wneuthum di yn wyliedydd i dŷ Israel: am hynny gwrando y gair o’m genau, a rhybuddia hwynt oddi wrthyf fi. Pan ddywedwyf wrth y drygionus, Gan farw y byddi farw; oni rybuddi ef, ac oni leferi i rybuddio y drygionus oddi wrth ei ddrycffordd, fel y byddo byw; y drygionus hwn a fydd farw yn ei anwiredd: ond ei waed ef a ofynnaf fi ar dy law di. Ond os rhybuddi y drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni, na’i ffordd ddrygionus, efe a fydd marw yn ei ddrygioni; ond ti a achubaist dy enaid.