Mab dyn, mi a’th wneuthum di yn wyliedydd i dŷ Israel: am hynny gwrando y gair o’m genau, a rhybuddia hwynt oddi wrthyf fi. Pan ddywedwyf wrth y drygionus, Gan farw y byddi farw; oni rybuddi ef, ac oni leferi i rybuddio y drygionus oddi wrth ei ddrycffordd, fel y byddo byw; y drygionus hwn a fydd farw yn ei anwiredd: ond ei waed ef a ofynnaf fi ar dy law di. Ond os rhybuddi y drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni, na’i ffordd ddrygionus, efe a fydd marw yn ei ddrygioni; ond ti a achubaist dy enaid.
Darllen Eseciel 3
Gwranda ar Eseciel 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseciel 3:17-19
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos