Exodus 34:4-7
Exodus 34:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly naddodd Moses ddwy lech garreg, fel y rhai cyntaf, a chododd yn fore ac aeth i fyny i Fynydd Sinai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo, a chymerodd yn ei law y ddwy lech garreg. Disgynnodd yr ARGLWYDD mewn cwmwl, a safodd yno gydag ef, a chyhoeddi ei enw, ARGLWYDD. Aeth yr ARGLWYDD heibio o'i flaen, a chyhoeddi: “Yr ARGLWYDD, yr ARGLWYDD, Duw trugarog a graslon, araf i ddigio, llawn cariad a ffyddlondeb; yn dangos cariad i filoedd, yn maddau drygioni a gwrthryfel a phechod, ond heb adael yr euog yn ddi-gosb, ac yn cosbi plant, a phlant eu plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth, am ddrygioni eu hynafiaid.”
Exodus 34:4-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly dyma Moses yn cerfio dwy lechen garreg fel y rhai cyntaf. Yna’n gynnar y bore wedyn aeth i fyny i ben Mynydd Sinai, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Aeth â’r ddwy lechen gydag e. A dyma’r ARGLWYDD yn dod i lawr yn y cwmwl, yn sefyll yna gydag e, a chyhoeddi mai ei enw ydy yr ARGLWYDD. Dyma’r ARGLWYDD yn pasio heibio o’i flaen a chyhoeddi, “Yr ARGLWYDD! Yr ARGLWYDD! Mae’n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a’i haelioni a’i ffyddlondeb yn anhygoel! Mae’n dangos cariad di-droi’n-ôl am fil o genedlaethau, ac yn maddau beiau, gwrthryfel a phechod. Ond dydy e ddim yn gadael i’r euog fynd heb ei gosbi. Bydd yn ymateb i bechodau’r tadau sy’n gadael eu hôl ar eu plant a’u plant hwythau – am dair neu bedair cenhedlaeth.”
Exodus 34:4-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a naddodd ddwy o lechau cerrig, o fath y rhai cyntaf: a Moses a gyfododd yn fore, ac a aeth i fynydd Sinai, fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD iddo; ac a gymerodd yn ei law y ddwy lech garreg. A’r ARGLWYDD a ddisgynnodd mewn cwmwl, ac a safodd gydag ef yno, ac a gyhoeddodd enw yr ARGLWYDD. A’r ARGLWYDD a aeth heibio o’i flaen ef, ac a lefodd JEHOFAH, JEHOFAH, y DUW trugarog a graslon, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd; Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddau anwiredd, a chamwedd, a phechod, a heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn; yr hwn a ymwêl ag anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blant y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth.