Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 34

34
1A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Nadd i ti ddwy o lechau cerrig, fel y rhai cyntaf: a mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist. 2A bydd barod erbyn y bore; a thyred i fyny yn fore i fynydd Sinai, a saf i mi yno ar ben y mynydd. 3Ond na ddeued neb i fyny gyda thi, ac na weler neb ar yr holl fynydd: na phored hefyd na dafad, nac eidion, ar gyfer y mynydd hwn.
4Ac efe a naddodd ddwy o lechau cerrig, o fath y rhai cyntaf: a Moses a gyfododd yn fore, ac a aeth i fynydd Sinai, fel y gorchmynasai yr Arglwydd iddo; ac a gymerodd yn ei law y ddwy lech garreg. 5A’r Arglwydd a ddisgynnodd mewn cwmwl, ac a safodd gydag ef yno, ac a gyhoeddodd enw yr Arglwydd. 6A’r Arglwydd a aeth heibio o’i flaen ef, ac a lefodd JEHOFAH, JEHOFAH, y Duw trugarog a graslon, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd; 7Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddau anwiredd, a chamwedd, a phechod, a heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn; yr hwn a ymwêl ag anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blant y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth. 8A Moses a frysiodd, ac a ymgrymodd tua’r llawr, ac a addolodd; 9Ac a ddywedodd, Os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, O Arglwydd, eled fy Arglwydd, atolwg, yn ein plith ni, (canys pobl wargaled yw,) a maddau ein hanwiredd, a’n pechod, a chymer ni yn etifeddiaeth i ti.
10Yntau a ddywedodd, Wele fi yn gwneuthur cyfamod yng ngŵydd dy holl bobl: gwnaf ryfeddodau, y rhai ni wnaed yn yr holl ddaear, nac yn yr holl genhedloedd; a’r holl bobl yr wyt ti yn eu mysg a gânt weled gwaith yr Arglwydd: canys ofnadwy yw yr hyn a wnaf â thi. 11Cadw yr hyn a orchmynnais i ti heddiw: wele, mi a yrraf allan o’th flaen di yr Amoriad, a’r Canaanead, a’r Hethiad, a’r Pheresiad, yr Hefiad hefyd, a’r Jebusiad. 12A chadw arnat, rhag gwneuthur cyfamod â phreswylwyr y wlad yr wyt yn myned iddi; rhag eu bod yn fagl yn dy blith. 13Eithr dinistriwch eu hallorau hwynt, drylliwch eu delwau hwynt, a thorrwch i lawr eu llwynau hwynt. 14Canys ni chei ymgrymu i dduw arall: oblegid yr Arglwydd, Eiddigus yw ei enw; Duw eiddigus yw efe; 15Rhag i ti wneuthur cyfamod â phreswylwyr y tir; ac iddynt buteinio ar ôl eu duwiau, ac aberthu i’w duwiau, a’th alw di, ac i tithau fwyta o’u haberth; 16A chymryd ohonot o’u merched i’th feibion; a phuteinio o’u merched ar ôl eu duwiau hwynt, a gwneuthur i’th feibion di buteinio ar ôl eu duwiau hwynt. 17Na wna i ti dduwiau tawdd.
18Cadw ŵyl y bara croyw: saith niwrnod y bwytei fara croyw, fel y gorchmynnais i ti, ar yr amser ym mis Abib: oblegid ym mis Abib y daethost allan o’r Aifft. 19Eiddof fi yw pob peth a agoro y groth; a phob gwryw cyntaf o’th anifeiliaid, yn eidionau, ac yn ddefaid. 20Ond y cyntaf i asyn a bryni di ag oen; ac oni phryni, tor ei wddf: prŷn hefyd bob cyntaf-anedig o’th feibion: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw.
21Chwe diwrnod y gweithi; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi: yn amser aredig, ac yn y cynhaeaf, y gorffwysi.
22Cadw i ti hefyd ŵyl yr wythnosau, o flaenffrwyth y cynhaeaf gwenith; a gŵyl y cynnull, ar ddiwedd y flwyddyn.
23Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr Arglwydd Dduw, Duw Israel. 24Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o’th flaen di, ac a helaethaf dy derfynau di: ac ni chwennych neb dy dir di, pan elych i fyny i ymddangos gerbron yr Arglwydd dy Dduw, dair gwaith yn y flwyddyn. 25Nac offryma waed fy aberth gyda bara lefeinllyd; ac nac arhoed aberth gŵyl y Pasg dros nos hyd y bore. 26Dwg y gorau o flaenffrwyth dy dir i dŷ yr Arglwydd dy Dduw. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam. 27Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifenna i ti y geiriau hyn: oblegid yn ôl y geiriau hyn y gwneuthum gyfamod â thi, ac ag Israel. 28Ac efe a fu yno gyda’r Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwytaodd fara, ac nid yfodd ddwfr: ac efe a ysgrifennodd ar y llechau eiriau’r cyfamod, sef y deg gair.
29A phan ddaeth Moses i waered o fynydd Sinai, a dwy lech y dystiolaeth yn llaw Moses, pan ddaeth efe i waered o’r mynydd, ni wyddai Moses i groen ei wyneb ddisgleirio wrth lefaru ohono ef wrtho. 30A phan welodd Aaron a holl feibion Israel Moses, wele, yr oedd croen ei wyneb ef yn disgleirio; a hwy a ofnasant nesáu ato ef. 31A Moses a alwodd arnynt. Ac Aaron a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddychwelasant ato ef: a Moses a lefarodd wrthynt hwy. 32Ac wedi hynny nesaodd holl feibion Israel: ac efe a orchmynnodd iddynt yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd ym mynydd Sinai. 33Ac nes darfod i Moses lefaru wrthynt, efe a roddes len gudd ar ei wyneb. 34A phan ddelai Moses gerbron yr Arglwydd i lefaru wrtho, efe a dynnai ymaith y llen gudd nes ei ddyfod allan: a phan ddelai efe allan, y llefarai wrth feibion Israel yr hyn a orchmynnid iddo. 35A meibion Israel a welsant wyneb Moses, fod croen wyneb Moses yn disgleirio: a Moses a roddodd drachefn y llen gudd ar ei wyneb, hyd oni ddelai i lefaru wrth Dduw.

Dewis Presennol:

Exodus 34: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda