Exodus 34:29-35
Exodus 34:29-35 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan ddaeth Moses i lawr o ben Mynydd Sinai gyda dwy lechen y dystiolaeth yn ei law, doedd e ddim yn sylweddoli fod ei wyneb wedi bod yn disgleirio wrth i’r ARGLWYDD siarad ag e. Pan welodd Aaron a phobl Israel Moses yn dod, roedd ei wyneb yn dal i ddisgleirio, ac roedd ganddyn nhw ofn mynd yn agos ato. Ond dyma Moses yn galw arnyn nhw, a dyma Aaron a’r arweinwyr eraill yn dod yn ôl i siarad ag e. Wedyn dyma’r bobl i gyd yn dod draw ato, a dyma Moses yn dweud wrthyn nhw beth oedd y gorchmynion roedd Duw wedi’i rhoi iddo ar Fynydd Sinai. Pan oedd Moses wedi gorffen siarad â nhw, dyma fe’n rhoi gorchudd dros ei wyneb. Ond pan fyddai’n mynd i mewn i siarad â’r ARGLWYDD, byddai’n tynnu’r gorchudd i ffwrdd nes byddai’n dod allan eto. Wedyn byddai’n dweud wrth bobl Israel beth roedd yr ARGLWYDD wedi’i orchymyn iddo, a byddai pobl Israel yn gweld wyneb Moses yn disgleirio. Yna byddai’n rhoi’r gorchudd yn ôl dros ei wyneb nes byddai’n mynd yn ôl i siarad â’r ARGLWYDD eto.
Exodus 34:29-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaeth Moses i lawr o Fynydd Sinai gyda dwy lech y dystiolaeth yn ei law, ni wyddai fod croen ei wyneb yn disgleirio ar ôl iddo siarad â Duw. Pan welodd Aaron a holl bobl Israel fod croen wyneb Moses yn disgleirio, yr oedd arnynt ofn dod yn agos ato. Ond galwodd Moses arnynt, a throdd Aaron a holl arweinwyr cynulliad Israel ato, a siaradodd Moses â hwy. Yna daeth holl bobl Israel ato, a gorchmynnodd iddynt yr holl bethau yr oedd yr ARGLWYDD wedi eu dweud wrtho ar Fynydd Sinai. Pan orffennodd Moses siarad â hwy, rhoddodd orchudd ar ei wyneb, ond pan fyddai'n mynd o flaen yr ARGLWYDD i siarad ag ef, byddai'n tynnu'r gorchudd nes iddo ddod allan, ac wedi dod allan, byddai'n dweud wrth bobl Israel yr hyn a orchmynnwyd iddo. A phan welent hwy fod croen ei wyneb yn disgleirio, byddai Moses yn rhoi'r gorchudd yn ôl ar ei wyneb nes y byddai'n mynd i mewn eto i siarad â Duw.
Exodus 34:29-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddaeth Moses i waered o fynydd Sinai, a dwy lech y dystiolaeth yn llaw Moses, pan ddaeth efe i waered o’r mynydd, ni wyddai Moses i groen ei wyneb ddisgleirio wrth lefaru ohono ef wrtho. A phan welodd Aaron a holl feibion Israel Moses, wele, yr oedd croen ei wyneb ef yn disgleirio; a hwy a ofnasant nesáu ato ef. A Moses a alwodd arnynt. Ac Aaron a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddychwelasant ato ef: a Moses a lefarodd wrthynt hwy. Ac wedi hynny nesaodd holl feibion Israel: ac efe a orchmynnodd iddynt yr hyn oll a lefarasai yr ARGLWYDD ym mynydd Sinai. Ac nes darfod i Moses lefaru wrthynt, efe a roddes len gudd ar ei wyneb. A phan ddelai Moses gerbron yr ARGLWYDD i lefaru wrtho, efe a dynnai ymaith y llen gudd nes ei ddyfod allan: a phan ddelai efe allan, y llefarai wrth feibion Israel yr hyn a orchmynnid iddo. A meibion Israel a welsant wyneb Moses, fod croen wyneb Moses yn disgleirio: a Moses a roddodd drachefn y llen gudd ar ei wyneb, hyd oni ddelai i lefaru wrth DDUW.