Exodus 34:1-10
Exodus 34:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Nadd ddwy lech garreg, fel y rhai cyntaf, ac fe ysgrifennaf arnynt y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, a dorraist. Bydd barod erbyn y bore, a thyrd i fyny'n gynnar i Fynydd Sinai, ac aros amdanaf yno ar ben y mynydd. Nid oes neb i ddod i fyny gyda thi, nac i ymddangos yn unman ar y mynydd; a phaid â gadael i ddefaid na gwartheg bori ar gyfyl y mynydd hwn.” Felly naddodd Moses ddwy lech garreg, fel y rhai cyntaf, a chododd yn fore ac aeth i fyny i Fynydd Sinai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo, a chymerodd yn ei law y ddwy lech garreg. Disgynnodd yr ARGLWYDD mewn cwmwl, a safodd yno gydag ef, a chyhoeddi ei enw, ARGLWYDD. Aeth yr ARGLWYDD heibio o'i flaen, a chyhoeddi: “Yr ARGLWYDD, yr ARGLWYDD, Duw trugarog a graslon, araf i ddigio, llawn cariad a ffyddlondeb; yn dangos cariad i filoedd, yn maddau drygioni a gwrthryfel a phechod, ond heb adael yr euog yn ddi-gosb, ac yn cosbi plant, a phlant eu plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth, am ddrygioni eu hynafiaid.” Brysiodd Moses i ymgrymu tua'r llawr ac addoli. Yna dywedodd, “Os cefais yn awr ffafr yn d'olwg, O ARGLWYDD, boed i ti fynd gyda ni. Er bod y bobl yn wargaled, maddau ein gwrthryfel a'n pechod, a chymer ni yn etifeddiaeth i ti.” Dywedodd yr ARGLWYDD, “Edrych, yr wyf am wneud cyfamod. Yng ngŵydd dy holl bobl gwnaf ryfeddodau na wnaed eu tebyg ymhlith unrhyw genedl ar yr holl ddaear; yna bydd yr holl bobl yr wyt yn eu mysg yn gweld gwaith yr ARGLWYDD, oherwydd yr wyf am wneud â thi beth syfrdanol.
Exodus 34:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Cerfia ddwy lechen garreg fel y rhai cyntaf. Gwna i ysgrifennu arnyn nhw beth oedd ar y llechi wnest ti eu malu. Bydd barod i ddringo mynydd Sinai yn y bore, a sefyll yno ar ben y mynydd i’m cyfarfod i. Does neb arall i ddod gyda ti. Does neb arall i ddod yn agos i’r mynydd. Paid hyd yn oed gadael i’r defaid a’r geifr a’r gwartheg bori o flaen y mynydd.” Felly dyma Moses yn cerfio dwy lechen garreg fel y rhai cyntaf. Yna’n gynnar y bore wedyn aeth i fyny i ben Mynydd Sinai, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Aeth â’r ddwy lechen gydag e. A dyma’r ARGLWYDD yn dod i lawr yn y cwmwl, yn sefyll yna gydag e, a chyhoeddi mai ei enw ydy yr ARGLWYDD. Dyma’r ARGLWYDD yn pasio heibio o’i flaen a chyhoeddi, “Yr ARGLWYDD! Yr ARGLWYDD! Mae’n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a’i haelioni a’i ffyddlondeb yn anhygoel! Mae’n dangos cariad di-droi’n-ôl am fil o genedlaethau, ac yn maddau beiau, gwrthryfel a phechod. Ond dydy e ddim yn gadael i’r euog fynd heb ei gosbi. Bydd yn ymateb i bechodau’r tadau sy’n gadael eu hôl ar eu plant a’u plant hwythau – am dair neu bedair cenhedlaeth.” Ac ar unwaith dyma Moses yn ymgrymu yn isel i addoli, a dweud, “Meistr, os ydw i wedi dy blesio di, wnei di, Meistr, fynd gyda ni? Mae’r bobl yma’n ystyfnig, ond plîs wnei di faddau ein beiau a’n pechod ni, a’n derbyn ni yn bobl arbennig i ti dy hun?” ARGLWYDD Atebodd Duw, “Iawn. Dw i’n gwneud ymrwymiad. Dw i’n mynd i wneud pethau rhyfeddol does neb yn unman wedi’u dychmygu o’r blaen. Bydd y bobl rwyt ti’n byw yn eu canol nhw yn gweld beth mae’r ARGLWYDD yn ei wneud. Dw i’n gwneud rhywbeth anhygoel gyda ti.
Exodus 34:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Nadd i ti ddwy o lechau cerrig, fel y rhai cyntaf: a mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist. A bydd barod erbyn y bore; a thyred i fyny yn fore i fynydd Sinai, a saf i mi yno ar ben y mynydd. Ond na ddeued neb i fyny gyda thi, ac na weler neb ar yr holl fynydd: na phored hefyd na dafad, nac eidion, ar gyfer y mynydd hwn. Ac efe a naddodd ddwy o lechau cerrig, o fath y rhai cyntaf: a Moses a gyfododd yn fore, ac a aeth i fynydd Sinai, fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD iddo; ac a gymerodd yn ei law y ddwy lech garreg. A’r ARGLWYDD a ddisgynnodd mewn cwmwl, ac a safodd gydag ef yno, ac a gyhoeddodd enw yr ARGLWYDD. A’r ARGLWYDD a aeth heibio o’i flaen ef, ac a lefodd JEHOFAH, JEHOFAH, y DUW trugarog a graslon, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd; Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddau anwiredd, a chamwedd, a phechod, a heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn; yr hwn a ymwêl ag anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blant y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth. A Moses a frysiodd, ac a ymgrymodd tua’r llawr, ac a addolodd; Ac a ddywedodd, Os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, O Arglwydd, eled fy Arglwydd, atolwg, yn ein plith ni, (canys pobl wargaled yw,) a maddau ein hanwiredd, a’n pechod, a chymer ni yn etifeddiaeth i ti. Yntau a ddywedodd, Wele fi yn gwneuthur cyfamod yng ngŵydd dy holl bobl: gwnaf ryfeddodau, y rhai ni wnaed yn yr holl ddaear, nac yn yr holl genhedloedd; a’r holl bobl yr wyt ti yn eu mysg a gânt weled gwaith yr ARGLWYDD: canys ofnadwy yw yr hyn a wnaf â thi.