Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 33:8-23

Exodus 33:8-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Pan fyddai Moses yn mynd allan i’r babell, byddai’r bobl i gyd yn sefyll tu allan i’w pebyll eu hunain, ac yn gwylio Moses nes iddo fynd i mewn i’r babell. Bob tro y byddai Moses yn mynd i mewn iddi, byddai colofn o niwl yn dod i lawr ac yn sefyll tu allan i’r fynedfa tra oedd yr ARGLWYDD yn siarad â Moses. Pan oedd pawb yn gweld y golofn o niwl yn sefyll wrth y fynedfa, bydden nhw’n dod i sefyll wrth fynedfa eu pebyll eu hunain, ac yn addoli. Byddai’r ARGLWYDD yn siarad wyneb yn wyneb gyda Moses, fel byddai rhywun yn siarad â ffrind. Yna byddai Moses yn dod yn ôl i’r gwersyll. Ond roedd ei was, y bachgen ifanc Josua fab Nwn, yn aros yn y babell drwy’r amser. Dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Ti wedi bod yn dweud wrtho i, ‘Tyrd â’r bobl yma allan,’ ond ti ddim wedi gadael i mi wybod pwy fydd yn mynd hefo fi. Rwyt ti hefyd wedi dweud, ‘Dw i wedi dy ddewis di, ac wedi bod yn garedig atat ti.’ Os ydy hynny’n wir, dangos i mi beth rwyt ti am ei wneud, i mi ddeall yn well a dal ati i dy blesio di. A cofia mai dy bobl di ydy’r rhain.” Atebodd yr ARGLWYDD e, “Bydda i fy hun yn mynd, ac yn gwneud yn siŵr y byddi di’n iawn.” A dyma Moses yn dweud, “Wnawn ni ddim symud cam os na ddoi di gyda ni. Sut arall mae pobl yn mynd i wybod mor garedig rwyt ti wedi bod ata i a dy bobl? Sut arall maen nhw i wybod ein bod ni’n sbesial ac yn wahanol i bawb arall drwy’r byd i gyd?” Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Iawn, bydda i’n gwneud beth rwyt ti’n ei ofyn. Ti wedi fy mhlesio i, a dw i wedi dy ddewis di.” “Dangos dy ysblander i mi,” meddai Moses. A dyma’r ARGLWYDD yn ateb, “Dw i am adael i ti gael cipolwg bach o mor dda ydw i. A dw i’n mynd i gyhoeddi fy enw, ‘yr ARGLWYDD’ o dy flaen di. Fi sy’n dewis pwy i drugarhau wrthyn nhw, a phwy dw i’n mynd i dosturio wrthyn nhw. Ond gei di ddim gweld fy wyneb i. Does neb yn edrych arna i ac yn byw wedyn.” Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Edrych, mae yna le i ti sefyll ar y graig yn y fan yma. Pan fydd fy ysblander i’n mynd heibio, bydda i’n dy guddio di mewn hollt yn y graig, a rhoi fy llaw drosot ti wrth i mi fynd heibio. Wedyn bydda i’n cymryd fy llaw i ffwrdd, a gadael i ti edrych ar fy nghefn i. Does neb yn cael gweld fy wyneb i.”

Exodus 33:8-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pan fyddai Moses yn mynd allan at y babell, byddai'r bobl i gyd yn codi a phob un yn sefyll wrth ddrws ei babell ei hun, ac yn gwylio Moses nes iddo fynd i mewn. Pan fyddai Moses yn mynd i mewn i'r babell, byddai colofn o gwmwl yn disgyn ac yn aros wrth y drws, a byddai'r ARGLWYDD yn siarad â Moses. Pan welai'r holl bobl y golofn o gwmwl yn aros wrth ddrws y babell, byddai pob un ohonynt yn codi ac yn addoli wrth ddrws ei babell ei hun. Byddai'r ARGLWYDD yn siarad â Moses wyneb yn wyneb, fel y bydd rhywun yn siarad â'i gyfaill. Pan ddychwelai Moses i'r gwersyll, ni fyddai ei was ifanc, Josua fab Nun, yn symud o'r babell. ARGLWYDD Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “Edrych, yr wyt yn dweud wrthyf am ddod â'r bobl hyn i fyny, ond nid wyt wedi rhoi gwybod i mi pwy yr wyt am ei anfon gyda mi. Dywedaist, ‘Yr wyf yn dy ddewis di, a chefaist ffafr yn fy ngolwg.’ Yn awr, os cefais ffafr yn dy olwg, dangos i mi dy ffyrdd, er mwyn i mi dy adnabod ac aros yn dy ffafr; oherwydd dy bobl di yw'r genedl hon.” Atebodd yntau, “Byddaf fi fy hun gyda thi, a rhoddaf iti orffwysfa.” Dywedodd Moses wrtho, “Os na fyddi di dy hun gyda mi, paid â'n harwain ni ymaith oddi yma. Oherwydd sut y bydd neb yn gwybod fy mod i a'th bobl wedi cael ffafr yn dy olwg, os na fyddi'n mynd gyda ni? Dyna sy'n fy ngwneud i a'th bobl yn wahanol i bawb arall ar wyneb y ddaear.” Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Fe wnaf yr hyn a ofynnaist, oherwydd cefaist ffafr yn fy ngolwg, ac yr wyf wedi dy ddewis.” Meddai Moses, “Dangos i mi dy ogoniant.” Dywedodd yntau, “Gwnaf i'm holl ddaioni fynd heibio o'th flaen, a chyhoeddaf fy enw, ARGLWYDD, yn dy glyw; a dangosaf drugaredd a thosturi tuag at y rhai yr wyf am drugarhau a thosturio wrthynt. Ond,” meddai, “ni chei weld fy wyneb, oherwydd ni chaiff neb fy ngweld a byw.” Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd, “Bydd lle yn fy ymyl; saf ar y graig, a phan fydd fy ngogoniant yn mynd heibio, fe'th roddaf mewn hollt yn y graig a'th orchuddio â'm llaw nes imi fynd heibio; yna tynnaf ymaith fy llaw, a chei weld fy nghefn, ond ni welir fy wyneb.”

Exodus 33:8-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A phan aeth Moses i’r babell, yr holl bobl a godasant, ac a safasant bob un ar ddrws ei babell; ac a edrychasant ar ôl Moses, nes ei ddyfod i’r babell. A phan aeth Moses i’r babell, y disgynnodd colofn y cwmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell: a’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses. A gwelodd yr holl bobl golofn y cwmwl yn sefyll wrth ddrws y babell: a’r holl bobl a gododd, ac a addolasant bob un wrth ddrws ei babell. A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses wyneb yn wyneb, fel y llefarai gŵr wrth ei gyfaill. Ac efe a ddychwelodd i’r gwersyll: ond y llanc Josua, mab Nun, ei weinidog ef, ni syflodd o’r babell. A Moses a ddywedodd wrth yr ARGLWYDD, Gwêl, ti a ddywedi wrthyf, Dwg y bobl yma i fyny; ac ni ddangosaist i mi yr hwn a anfoni gyda mi: a thi a ddywedaist, Mi a’th adwaen wrth dy enw, a chefaist hefyd ffafr yn fy ngolwg. Yn awr gan hynny, o chefais ffafr yn dy olwg, hysbysa i mi dy ffordd, atolwg, fel y’th adwaenwyf, ac fel y caffwyf ffafr yn dy olwg: gwêl hefyd mai dy bobl di yw y genedl hon. Yntau a ddywedodd, Fy wyneb a gaiff fyned gyda thi, a rhoddaf orffwystra i ti. Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid â dy wyneb gyda ni, nac arwain ni i fyny oddi yma. Canys pa fodd y gwyddir yma gael ohonof fi ffafr yn dy olwg, mi a’th bobl? onid trwy fyned ohonot ti gyda ni? Felly myfi a’th bobl a ragorwn ar yr holl bobl sydd ar wyneb y ddaear. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Gwnaf hefyd y peth hyn a leferaist: oblegid ti a gefaist ffafr yn fy ngolwg, a mi a’th adwaen wrth dy enw. Yntau a ddywedodd, Dangos i mi, atolwg, dy ogoniant. Ac efe a ddywedodd, Gwnaf i’m holl ddaioni fyned heibio o flaen dy wyneb, a chyhoeddaf enw yr ARGLWYDD o’th flaen di: a mi a drugarhaf wrth yr hwn y cymerwyf drugaredd arno, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf. Ac efe a ddywedodd, Ni elli weled fy wyneb: canys ni’m gwêl dyn, a byw. Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd, Wele fan yn fy ymyl, lle y cei sefyll ar graig. A thra yr elo fy ngogoniant heibio, mi a’th osodaf o fewn agen yn y graig; a mi a’th orchuddiaf â’m llaw, nes i mi fyned heibio. Yna y tynnaf ymaith fy llaw, a’m tu cefn a gei di ei weled: ond ni welir fy wyneb.