Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 33

33
Duw yn gorchymyn i’r bobl adael Mynydd Sinai
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dos di yn dy flaen – ti a’r bobl wnest ti eu harwain allan o wlad yr Aifft. Ewch i’r wlad wnes i addo i Abraham, Isaac a Jacob, ‘Dw i’n mynd i’w rhoi hi i’ch disgynyddion chi.’ 2Dw i’n mynd i anfon angel o’ch blaen chi, a gyrru allan y Canaaneaid, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid. 3Mae’n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Ond dw i ddim am fynd gyda chi. Dych chi’n bobl ystyfnig, a falle y bydda i’n eich dinistrio chi ar y ffordd.”
4Dyna oedd newyddion drwg! Pan glywodd y bobl hynny, dyma nhw’n dechrau galaru. Doedd neb yn gwisgo tlysau, 5am fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, “Dwed wrth bobl Israel, ‘Dych chi’n bobl ystyfnig. Petawn i’n mynd gyda chi dim ond am foment, falle y byddwn i’n eich dinistrio chi. Felly tynnwch eich tlysau i ffwrdd, i mi benderfynu beth i’w wneud gyda chi.’” 6Felly dyma bobl Israel yn tynnu eu tlysau i gyd i ffwrdd pan oedden nhw wrth Fynydd Sinai.#33:6 Sinai Hebraeg, “Horeb”, sef enw arall ar Fynydd Sinai.
Y babell tu allan i’r gwersyll
7Byddai Moses yn cymryd y babell, ac yn ei chodi tu allan i’r gwersyll, gryn bellter i ffwrdd. Galwodd hi yn babell cyfarfod Duw. Os oedd rhywun eisiau gwybod rhywbeth gan yr ARGLWYDD, byddai’n mynd at y babell yma tu allan i’r gwersyll.
8Pan fyddai Moses yn mynd allan i’r babell, byddai’r bobl i gyd yn sefyll tu allan i’w pebyll eu hunain, ac yn gwylio Moses nes iddo fynd i mewn i’r babell. 9Bob tro y byddai Moses yn mynd i mewn iddi, byddai colofn o niwl yn dod i lawr ac yn sefyll tu allan i’r fynedfa tra oedd yr ARGLWYDD yn siarad â Moses. 10Pan oedd pawb yn gweld y golofn o niwl yn sefyll wrth y fynedfa, bydden nhw’n dod i sefyll wrth fynedfa eu pebyll eu hunain, ac yn addoli. 11Byddai’r ARGLWYDD yn siarad wyneb yn wyneb gyda Moses, fel byddai rhywun yn siarad â ffrind. Yna byddai Moses yn dod yn ôl i’r gwersyll. Ond roedd ei was, y bachgen ifanc Josua fab Nwn, yn aros yn y babell drwy’r amser.
Duw yn addo bod gyda’i bobl
12Dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Ti wedi bod yn dweud wrtho i, ‘Tyrd â’r bobl yma allan,’ ond ti ddim wedi gadael i mi wybod pwy fydd yn mynd hefo fi. Rwyt ti hefyd wedi dweud, ‘Dw i wedi dy ddewis di, ac wedi bod yn garedig atat ti.’ 13Os ydy hynny’n wir, dangos i mi beth rwyt ti am ei wneud, i mi ddeall yn well a dal ati i dy blesio di. A cofia mai dy bobl di ydy’r rhain.” 14Atebodd yr ARGLWYDD e, “Bydda i fy hun yn mynd, ac yn gwneud yn siŵr y byddi di’n iawn.” 15A dyma Moses yn dweud, “Wnawn ni ddim symud cam os na ddoi di gyda ni. 16Sut arall mae pobl yn mynd i wybod mor garedig rwyt ti wedi bod ata i a dy bobl? Sut arall maen nhw i wybod ein bod ni’n sbesial ac yn wahanol i bawb arall drwy’r byd i gyd?”
17Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Iawn, bydda i’n gwneud beth rwyt ti’n ei ofyn. Ti wedi fy mhlesio i, a dw i wedi dy ddewis di.” 18“Dangos dy ysblander i mi,” meddai Moses. 19A dyma’r ARGLWYDD yn ateb, “Dw i am adael i ti gael cipolwg bach o mor dda ydw i. A dw i’n mynd i gyhoeddi fy enw, ‘yr ARGLWYDD’ o dy flaen di. Fi sy’n dewis pwy i drugarhau wrthyn nhw, a phwy dw i’n mynd i dosturio wrthyn nhw. 20Ond gei di ddim gweld fy wyneb i. Does neb yn edrych arna i ac yn byw wedyn.”
21Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Edrych, mae yna le i ti sefyll ar y graig yn y fan yma. 22Pan fydd fy ysblander i’n mynd heibio, bydda i’n dy guddio di mewn hollt yn y graig, a rhoi fy llaw drosot ti wrth i mi fynd heibio. 23Wedyn bydda i’n cymryd fy llaw i ffwrdd, a gadael i ti edrych ar fy nghefn i. Does neb yn cael gweld fy wyneb i.”

Dewis Presennol:

Exodus 33: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda