Exodus 33:8-11
Exodus 33:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan fyddai Moses yn mynd allan at y babell, byddai'r bobl i gyd yn codi a phob un yn sefyll wrth ddrws ei babell ei hun, ac yn gwylio Moses nes iddo fynd i mewn. Pan fyddai Moses yn mynd i mewn i'r babell, byddai colofn o gwmwl yn disgyn ac yn aros wrth y drws, a byddai'r ARGLWYDD yn siarad â Moses. Pan welai'r holl bobl y golofn o gwmwl yn aros wrth ddrws y babell, byddai pob un ohonynt yn codi ac yn addoli wrth ddrws ei babell ei hun. Byddai'r ARGLWYDD yn siarad â Moses wyneb yn wyneb, fel y bydd rhywun yn siarad â'i gyfaill. Pan ddychwelai Moses i'r gwersyll, ni fyddai ei was ifanc, Josua fab Nun, yn symud o'r babell.
Exodus 33:8-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan fyddai Moses yn mynd allan i’r babell, byddai’r bobl i gyd yn sefyll tu allan i’w pebyll eu hunain, ac yn gwylio Moses nes iddo fynd i mewn i’r babell. Bob tro y byddai Moses yn mynd i mewn iddi, byddai colofn o niwl yn dod i lawr ac yn sefyll tu allan i’r fynedfa tra oedd yr ARGLWYDD yn siarad â Moses. Pan oedd pawb yn gweld y golofn o niwl yn sefyll wrth y fynedfa, bydden nhw’n dod i sefyll wrth fynedfa eu pebyll eu hunain, ac yn addoli. Byddai’r ARGLWYDD yn siarad wyneb yn wyneb gyda Moses, fel byddai rhywun yn siarad â ffrind. Yna byddai Moses yn dod yn ôl i’r gwersyll. Ond roedd ei was, y bachgen ifanc Josua fab Nwn, yn aros yn y babell drwy’r amser.
Exodus 33:8-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan aeth Moses i’r babell, yr holl bobl a godasant, ac a safasant bob un ar ddrws ei babell; ac a edrychasant ar ôl Moses, nes ei ddyfod i’r babell. A phan aeth Moses i’r babell, y disgynnodd colofn y cwmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell: a’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses. A gwelodd yr holl bobl golofn y cwmwl yn sefyll wrth ddrws y babell: a’r holl bobl a gododd, ac a addolasant bob un wrth ddrws ei babell. A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses wyneb yn wyneb, fel y llefarai gŵr wrth ei gyfaill. Ac efe a ddychwelodd i’r gwersyll: ond y llanc Josua, mab Nun, ei weinidog ef, ni syflodd o’r babell.