Exodus 33:14-16
Exodus 33:14-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Atebodd yr ARGLWYDD e, “Bydda i fy hun yn mynd, ac yn gwneud yn siŵr y byddi di’n iawn.” A dyma Moses yn dweud, “Wnawn ni ddim symud cam os na ddoi di gyda ni. Sut arall mae pobl yn mynd i wybod mor garedig rwyt ti wedi bod ata i a dy bobl? Sut arall maen nhw i wybod ein bod ni’n sbesial ac yn wahanol i bawb arall drwy’r byd i gyd?”
Exodus 33:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd yntau, “Byddaf fi fy hun gyda thi, a rhoddaf iti orffwysfa.” Dywedodd Moses wrtho, “Os na fyddi di dy hun gyda mi, paid â'n harwain ni ymaith oddi yma. Oherwydd sut y bydd neb yn gwybod fy mod i a'th bobl wedi cael ffafr yn dy olwg, os na fyddi'n mynd gyda ni? Dyna sy'n fy ngwneud i a'th bobl yn wahanol i bawb arall ar wyneb y ddaear.”
Exodus 33:14-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yntau a ddywedodd, Fy wyneb a gaiff fyned gyda thi, a rhoddaf orffwystra i ti. Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid â dy wyneb gyda ni, nac arwain ni i fyny oddi yma. Canys pa fodd y gwyddir yma gael ohonof fi ffafr yn dy olwg, mi a’th bobl? onid trwy fyned ohonot ti gyda ni? Felly myfi a’th bobl a ragorwn ar yr holl bobl sydd ar wyneb y ddaear.