Exodus 16:8
Exodus 16:8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Moses hefyd a ddywedodd, Hyn fydd pan roddo yr ARGLWYDD i chwi yn yr hwyr gig i’w fwyta, a’r bore fara eich gwala; am glywed o’r ARGLWYDD eich tuchan chwi, yr hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: oherwydd beth ydym ni? nid yn ein herbyn ni y mae eich tuchan, ond yn erbyn yr ARGLWYDD.
Exodus 16:8 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ac meddai Moses, “Byddwch chi’n deall yn iawn pan fydd yr ARGLWYDD yn rhoi cig i chi ei fwyta gyda’r nos, a digonedd o fara yn y bore. Mae’r ARGLWYDD wedi’ch clywed chi’n ymosod arno. Dŷn ni’n neb. Yr ARGLWYDD ydy’r un dych chi wedi bod yn ymosod arno, nid ni!”
Exodus 16:8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd Moses hefyd, “Fe rydd yr ARGLWYDD i chwi gig i'w fwyta yn yr hwyr, a'ch gwala o fara yn y bore, oherwydd y mae wedi clywed eich grwgnach yn ei erbyn. Felly, pwy ydym ni? Nid yn ein herbyn ni y mae eich grwgnach, ond yn erbyn yr ARGLWYDD.”