Exodus 15:23-25
Exodus 15:23-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma nhw’n cyrraedd Mara, ond roedden nhw’n methu yfed y dŵr yno am ei fod mor chwerw. (Dyna pam roedd yn cael ei alw yn Mara – sef “Chwerw.”) Dyma’r bobl yn dechrau troi yn erbyn Moses. “Beth ydyn ni’n mynd i’w yfed?” medden nhw. Dyma Moses yn gweddïo’n daer am help, a dyma’r ARGLWYDD yn ei arwain at ddarn o bren. Ar ôl i Moses ei daflu i’r dŵr, roedd y dŵr yn iawn i’w yfed. Yn Mara, dyma’r ARGLWYDD yn rhoi rheol iddyn nhw, er mwyn profi pa mor ffyddlon oedden nhw
Exodus 15:23-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaethant i Mara, ni allent yfed y dŵr yno am ei fod yn chwerw; dyna pam y galwyd y lle yn Mara. Dechreuodd y bobl rwgnach yn erbyn Moses, a gofyn, “Beth ydym i'w yfed?” Galwodd yntau ar yr ARGLWYDD, a dangosodd yr ARGLWYDD iddo bren; pan daflodd Moses y pren i'r dŵr, trodd y dŵr yn felys. Yno y sefydlodd yr ARGLWYDD ddeddf a chyfraith, ac yno hefyd y profodd hwy
Exodus 15:23-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddaethant i Mara, ni allent yfed dyfroedd Mara, am eu bod yn chwerwon: oherwydd hynny y gelwir ei henw hi Mara. A’r bobl a duchanasant yn erbyn Moses, gan ddywedyd, Beth a yfwn ni? Ac efe a waeddodd ar yr ARGLWYDD: a’r ARGLWYDD a ddangosodd iddo ef bren; ac efe a’i bwriodd i’r dyfroedd, a’r dyfroedd a bereiddiasant: yno y gwnaeth efe ddeddf a chyfraith, ac yno y profodd efe hwynt