Exodus 12:26-27
Exodus 12:26-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Pam dych chi’n gwneud hyn?’ dwedwch wrthyn nhw, ‘Aberth y Pasg i’r ARGLWYDD ydy e, i gofio sut wnaeth e basio heibio tai pobl Israel ac achub ein teuluoedd pan wnaeth e daro gwlad yr Aifft.’” A dyma’r bobl oedd yn gwrando ar Moses yn plygu i lawr yn isel i addoli.
Exodus 12:26-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan fydd eich plant yn gofyn i chwi, ‘Beth yw'r ddefod hon sydd gennych?’ yr ydych i ateb, ‘Aberth Pasg yr ARGLWYDD ydyw, oherwydd pan drawodd ef yr Eifftiaid, aeth heibio i dai'r Israeliaid oedd yn yr Aifft a'u harbed.’ ” Ymgrymodd y bobl mewn addoliad.
Exodus 12:26-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bydd, pan ddywedo eich meibion wrthych, Pa wasanaeth yw hwn gennych? Yna y dywedwch, Aberth Pasg yr ARGLWYDD ydyw, yr hwn a aeth heibio i dai meibion Israel yn yr Aifft, pan drawodd efe yr Eifftiaid, ac yr achubodd ein tai ni. Yna yr ymgrymodd y bobl, ac yr addolasant.