Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 12

12
1Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses ac Aaron yn nhir yr Aifft, gan ddywedyd, 2Y mis hwn fydd i chwi yn ddechreuad y misoedd: cyntaf fydd i chwi o fisoedd y flwyddyn.
3Lleferwch wrth holl gynulleidfa Israel, gan ddywedyd, Ar y degfed dydd o’r mis hwn cymerant iddynt bob un oen, yn ôl teulu eu tadau, sef oen dros bob teulu. 4Ond os y teulu fydd ry fychan i’r oen, efe a’i gymydog nesaf i’w dŷ a’i cymer, wrth y rhifedi o ddynion; pob un yn ôl ei fwyta a gyfrifwch at yr oen. 5Bydded yr oen gennych yn berffaith-gwbl, yn wryw, ac yn llwdn blwydd: o’r defaid, neu o’r geifr, y cymerwch ef. 6A bydded yng nghadw gennych hyd y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn: a lladded holl dyrfa cynulleidfa Israel ef yn y cyfnos. 7A chymerant o’r gwaed, a rhoddant ar y ddau ystlysbost, ac ar gapan drws y tai y bwytânt ef ynddynt. 8A’r cig a fwytânt y nos honno, wedi ei rostio wrth dân, a bara croyw; gyda dail surion y bwytânt ef. 9Na fwytewch ohono yn amrwd, na chwaith wedi ei ferwi mewn dwfr, eithr wedi ei rostio wrth dân; ei ben gyda’i draed a’i ymysgaroedd. 10Ac na weddillwch ddim ohono hyd y bore: a’r hyn fydd yng ngweddill ohono erbyn y bore, llosgwch yn tân.
11Ac fel hyn y bwytewch ef; wedi gwregysu eich lwynau, a’ch esgidiau am eich traed, a’ch ffyn yn eich dwylo: a bwytewch ef ar ffrwst; Pasg yr Arglwydd ydyw efe. 12Oherwydd mi a dramwyaf trwy wlad yr Aifft y nos hon, ac a drawaf bob cyntaf-anedig o fewn tir yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail; a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau yr Aifft: myfi yw yr Arglwydd. 13A’r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi; a phan welwyf y gwaed, yna yr af heibio i chwi, ac ni bydd pla dinistriol arnoch chwi, pan drawyf dir yr Aifft. 14A’r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth i chwi; a chwi a’i cedwch ef yn ŵyl i’r Arglwydd trwy eich cenedlaethau: cedwch ef yn ŵyl trwy ddeddf dragwyddol. 15Saith niwrnod y bwytewch fara croyw; y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o’ch tai: oherwydd pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd o’r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel. 16Ar y dydd cyntaf hefyd y bydd i chwi gymanfa sanctaidd, a chymanfa sanctaidd ar y seithfed dydd: dim gwaith ni wneir ynddynt, onid yr hyn a fwyty pob dyn, hynny yn unig a ellwch ei wneuthur. 17Cedwch hefyd ŵyl y bara croyw; oherwydd o fewn corff y dydd hwn y dygaf eich lluoedd chwi allan o wlad yr Aifft: am hynny cedwch y dydd hwn yn eich cenedlaethau, trwy ddeddf dragwyddol.
18Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis yn yr hwyr, y bwytewch fara croyw, hyd yr unfed dydd ar hugain o’r mis yn yr hwyr. 19Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod: canys pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynulleidfa Israel, yn gystal y dieithr a’r priodor. 20Na fwytewch ddim lefeinllyd: bwytewch fara croyw yn eich holl drigfannau.
21A galwodd Moses am holl henuriaid Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Tynnwch a chymerwch i chwi oen yn ôl eich teuluoedd, a lleddwch y Pasg. 22A chymerwch dusw o isop, a throchwch ef yn y gwaed a fyddo yn y cawg, a rhoddwch ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, o’r gwaed a fyddo yn y cawg; ac nac aed neb ohonoch allan o ddrws ei dŷ hyd y bore. 23Oherwydd yr Arglwydd a dramwya i daro’r Eifftiaid: a phan welo efe y gwaed ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, yna yr Arglwydd a â heibio i’r drws, ac ni ad i’r dinistrydd ddyfod i mewn i’ch tai chwi i ddinistrio. 24A chwi a gedwch y peth hyn yn ddeddf i ti, ac i’th feibion yn dragywydd. 25A phan ddeloch i’r wlad a rydd yr Arglwydd i chwi, megis yr addawodd, yna cedwch y gwasanaeth hwn. 26A bydd, pan ddywedo eich meibion wrthych, Pa wasanaeth yw hwn gennych? 27Yna y dywedwch, Aberth Pasg yr Arglwydd ydyw, yr hwn a aeth heibio i dai meibion Israel yn yr Aifft, pan drawodd efe yr Eifftiaid, ac yr achubodd ein tai ni. Yna yr ymgrymodd y bobl, ac yr addolasant. 28A meibion Israel a aethant ymaith, ac a wnaethant megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron; felly y gwnaethant.
29Ac ar hanner nos y trawodd yr Arglwydd bob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntaf-anedig Pharo yr hwn a eisteddai ar ei frenhinfainc, hyd gyntaf-anedig y gaethes oedd yn y carchardy; a phob cyntaf-anedig i anifail. 30A Pharo a gyfododd liw nos, efe a’i holl weision, a’r holl Eifftiaid; ac yr oedd gweiddi mawr yn yr Aifft: oblegid nid oedd dŷ a’r nad ydoedd un marw ynddo.
31Ac efe a alwodd ar Moses ac Aaron liw nos, ac a ddywedodd, Codwch, ewch allan o fysg fy mhobl, chwi a meibion Israel hefyd; ac ewch, a gwasanaethwch yr Arglwydd, fel y dywedasoch. 32Cymerwch eich defaid, a’ch gwartheg hefyd, fel y dywedasoch, ac ewch ymaith, a bendithiwch finnau. 33A’r Eifftiaid a fuant daerion ar y bobl, gan eu gyrru ar ffrwst allan o’r wlad; oblegid dywedasant, Dynion meirw ydym ni oll. 34A’r bobl a gymerodd eu toes cyn ei lefeinio, a’u toes oedd wedi ei rwymo yn eu dillad ar eu hysgwyddau. 35A meibion Israel a wnaethant yn ôl gair Moses; ac a fenthyciasant gan yr Eifftiaid dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd. 36A’r Arglwydd a roddasai i’r bobl hawddgarwch yng ngolwg yr Eifftiaid, fel yr echwynasant iddynt: a hwy a ysbeiliasant yr Eifftiaid.
37A meibion Israel a aethant o Rameses i Succoth, ynghylch chwe chan mil o wŷr traed, heblaw plant. 38A phobl gymysg lawer a aethant i fyny hefyd gyda hwynt; defaid hefyd a gwartheg, sef da lawer iawn. 39A hwy a bobasant y toes a ddygasant allan o’r Aifft yn deisennau croyw; oherwydd yr oedd heb ei lefeinio: canys gwthiasid hwynt o’r Aifft, ac ni allasant aros, ac ni pharatoesent iddynt eu hun luniaeth.
40A phreswyliad meibion Israel, tra y trigasant yn yr Aifft, oedd ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd. 41Ac ymhen y deng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd, ie, o fewn corff y dydd hwnnw, yr aeth holl luoedd yr Arglwydd allan o wlad yr Aifft. 42Nos yw hon i’w chadw i’r Arglwydd, ar yr hon y dygwyd hwynt allan o wlad yr Aifft: nos yr Arglwydd yw hon, i holl feibion Israel i’w chadw trwy eu hoesoedd.
43Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses ac Aaron, Dyma ddeddf y Pasg: na fwytaed neb dieithr ohono. 44Ond pob gwasanaethwr wedi ei brynu am arian, gwedi yr enwaedych ef, a fwyty ohono. 45Yr alltud, a’r gwas cyflog, ni chaiff fwyta ohono. 46Mewn un tŷ y bwyteir ef: na ddwg ddim o’r cig allan o’r tŷ; ac na thorrwch asgwrn ohono. 47Holl gynulleidfa Israel a wnânt hynny. 48A phan arhoso dieithr gyda thi, ac ewyllysio cadw Pasg i’r Arglwydd, enwaeder ei holl wrywiaid ef, ac yna nesaed i wneuthur hynny; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwytaed neb dienwaededig ohono. 49Yr un gyfraith fydd i’r priodor, ac i’r dieithr a arhoso yn eich mysg. 50Yna holl feibion Israel a wnaethant fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron; felly y gwnaethant. 51Ac o fewn corff y dydd hwnnw y dug yr Arglwydd feibion Israel o wlad yr Aifft, yn ôl eu lluoedd.

Dewis Presennol:

Exodus 12: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda