Exodus 12:12-13
Exodus 12:12-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n mynd i fynd drwy wlad yr Aifft y noson honno, a tharo pob mab hynaf, a phob anifail gwryw oedd yn gyntaf i gael ei eni. Dw i’n mynd i farnu ‘duwiau’ yr Aifft i gyd! Fi ydy’r ARGLWYDD. Mae’r gwaed fydd ar ffrâm drysau eich tai chi yn arwydd i chi. Pan fydda i’n gweld y gwaed, bydda i’n pasio heibio i chi. Fydd y pla yma ddim yn eich lladd chi pan fydda i’n taro gwlad yr Aifft.
Exodus 12:12-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y noson honno, byddaf yn tramwyo trwy wlad yr Aifft ac yn lladd pob cyntafanedig sydd ynddi, yn ddyn ac anifail, a byddaf yn dod â barn ar dduwiau'r Aifft; myfi yw'r ARGLWYDD. Bydd y gwaed yn arwydd ar y tai y byddwch chwi ynddynt; pan welaf y gwaed byddaf yn mynd heibio i chwi, ac ni fydd y pla yn eich difetha pan drawaf wlad yr Aifft.
Exodus 12:12-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oherwydd mi a dramwyaf trwy wlad yr Aifft y nos hon, ac a drawaf bob cyntaf-anedig o fewn tir yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail; a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau yr Aifft: myfi yw yr ARGLWYDD. A’r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi; a phan welwyf y gwaed, yna yr af heibio i chwi, ac ni bydd pla dinistriol arnoch chwi, pan drawyf dir yr Aifft.