Esther 4:14-16
Esther 4:14-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os byddi di’n gwrthod dweud dim yr adeg yma, bydd rhywbeth yn digwydd o gyfeiriad arall i achub ac amddiffyn yr Iddewon, ond byddi di a theulu dy dad yn marw. Pwy ŵyr? Falle mai dyma’n union pam wyt ti wedi dod yn rhan o’r teulu brenhinol ar yr adeg yma!” Yna dyma Esther yn anfon ateb yn ôl at Mordecai: “Wnei di gasglu’r Iddewon sy’n byw yn Shwshan at ei gilydd a’u cael nhw i ymprydio drosto i? Peidiwch bwyta nac yfed am dri diwrnod, ddydd na nos. Bydda i a’r morynion sydd gen i yn ymprydio hefyd. Wedyn gwna i fynd i weld y brenin, er fod hynny’n golygu torri’r gyfraith. Dw i’n barod i farw os oes rhaid.”
Esther 4:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os byddi'n gwrthod siarad yn awr, daw ymwared a chymorth i'r Iddewon o le arall, ond byddi di a thŷ dy dad yn trengi. Pwy a ŵyr nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost i'r frenhiniaeth?” Dywedodd Esther wrthynt am roi'r ateb hwn i Mordecai: “Dos i gasglu ynghyd yr holl Iddewon sy'n byw yn Susan, ac ymprydiwch drosof; peidiwch â bwyta nac yfed, ddydd na nos, am dridiau, ac fe wnaf finnau a'm morynion yr un fath. Yna af at y brenin, er fy mod yn torri'r gyfraith; ac os trengaf, mi drengaf.”
Esther 4:14-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oherwydd os tewi â sôn a wnei di y pryd hwn, esmwythdra ac ymwared a gyfyd i’r Iddewon o le arall, tithau a thŷ dy dad a gyfrgollir: a phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser â hwn y daethost ti i’r frenhiniaeth? Yna Esther a ddywedodd am ateb Mordecai fel hyn: Dos, a chasgl yr holl Iddewon a gaffer yn Susan, ac ymprydiwch drosof fi, na fwytewch hefyd ac nac yfwch dros dridiau, nos na dydd: a minnau a’m llancesau a ymprydiaf felly: ac felly yr af i mewn at y brenin, yr hwn beth nid yw gyfreithlon: ac o derfydd amdanaf, darfydded.