Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Esther 4

4
Esther yn mentro’i bywyd i achub ei phobl
1Pan glywodd Mordecai am y peth, dyma fe’n rhwygo’i ddillad, gwisgo sachliain a rhoi lludw ar ei ben. Yna dyma fe’n mynd drwy’r ddinas yn gweiddi’n uchel mewn llais chwerw. 2Ond aeth e ddim pellach na giât y palas – doedd neb yn cael mynd drwy’r giât honno yn gwisgo sachliain. 3Drwy’r taleithiau i gyd, ble bynnag roedd datganiad a chyfraith y brenin yn cael ei chyhoeddi, roedd yr Iddewon yn galaru, yn ymprydio ac yn udo wylo. Roedd y rhan fwya ohonyn nhw’n gorwedd i gysgu ar sachliain a lludw.#Eseia 58:5
4Pan ddwedodd morynion ac ystafellyddion Esther wrthi am Mordecai, roedd hi wedi ypsetio’n ofnadwy. Dyma hi’n anfon dillad i Mordecai eu gwisgo yn lle’r sachliain, ond roedd yn gwrthod eu cymryd. 5Felly dyma Esther yn galw am Hathach, un o ystafellyddion y brenin oedd wedi’i benodi i ofalu amdani, a dweud wrtho am fynd i ddarganfod beth oedd yn bod ar Mordecai. 6Dyma Hathach yn mynd i weld Mordecai yn y sgwâr tu allan i giât y palas. 7A dyma Mordecai yn dweud wrtho am bopeth oedd wedi digwydd, a faint o arian oedd Haman wedi addo ei dalu i’r trysordy brenhinol petai’r Iddewon yn cael eu lladd. 8A dyma fe’n rhoi copi ysgrifenedig i Hathach o’r gorchymyn oedd wedi’i ddosbarthu yn Shwshan yn dweud fod yr Iddewon i gael eu lladd. Gofynnodd i Hathach ei ddangos i Esther ac esbonio iddi beth oedd yn digwydd, a dweud wrthi fod rhaid iddi fynd at y brenin i bledio ac apelio arno i arbed ei phobl. 9Felly dyma Hathach yn mynd yn ôl a rhannu gydag Esther beth oedd Mordecai eisiau iddi’i wneud.
10Yna dyma Esther yn anfon Hathach yn ôl at Mordecai i ddweud wrtho, 11“Mae swyddogion a gweision y brenin drwy’r taleithiau i gyd yn gwybod beth mae’r gyfraith yn ddweud fydd yn digwydd i unrhyw un sy’n mynd i weld y brenin heb gael gwahoddiad – mae’r person hwnnw i farw, oni bai fod y brenin yn arbed ei fywyd drwy estyn y deyrnwialen aur ato fe neu hi. Dw i ddim wedi cael gwahoddiad i fynd i weld y brenin ers mis cyfan!”
12Pan ddwedodd Hathach wrth Mordecai beth oedd Esther yn ei ddweud, 13dyma Mordecai yn anfon yr ateb yma yn ôl: “Paid meddwl am funud y byddi di’n osgoi cael dy ladd fel pob Iddew arall am dy fod ti’n byw yn y palas. 14Os byddi di’n gwrthod dweud dim yr adeg yma, bydd rhywbeth yn digwydd o gyfeiriad arall i achub ac amddiffyn yr Iddewon, ond byddi di a theulu dy dad yn marw. Pwy ŵyr? Falle mai dyma’n union pam wyt ti wedi dod yn rhan o’r teulu brenhinol ar yr adeg yma!”
15Yna dyma Esther yn anfon ateb yn ôl at Mordecai: 16“Wnei di gasglu’r Iddewon sy’n byw yn Shwshan at ei gilydd a’u cael nhw i ymprydio drosto i? Peidiwch bwyta nac yfed am dri diwrnod, ddydd na nos. Bydda i a’r morynion sydd gen i yn ymprydio hefyd. Wedyn gwna i fynd i weld y brenin, er fod hynny’n golygu torri’r gyfraith. Dw i’n barod i farw os oes rhaid.”
17Felly dyma Mordecai yn mynd ati i wneud popeth fel roedd Esther wedi dweud wrtho.

Dewis Presennol:

Esther 4: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda