Esther 4:1-3
Esther 4:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan glywodd Mordecai am y peth, dyma fe’n rhwygo’i ddillad, gwisgo sachliain a rhoi lludw ar ei ben. Yna dyma fe’n mynd drwy’r ddinas yn gweiddi’n uchel mewn llais chwerw. Ond aeth e ddim pellach na giât y palas – doedd neb yn cael mynd drwy’r giât honno yn gwisgo sachliain. Drwy’r taleithiau i gyd, ble bynnag roedd datganiad a chyfraith y brenin yn cael ei chyhoeddi, roedd yr Iddewon yn galaru, yn ymprydio ac yn udo wylo. Roedd y rhan fwya ohonyn nhw’n gorwedd i gysgu ar sachliain a lludw.
Esther 4:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan glywodd Mordecai am bopeth a ddigwyddodd, rhwygodd ei ddillad a gwisgo sachliain a lludw, a mynd allan i ganol y ddinas a gweiddi'n groch a chwerw. Daeth i ymyl porth y brenin, oherwydd ni châi neb oedd yn gwisgo sachliain fynd i mewn i'r porth. Ym mhob talaith lle y cyrhaeddodd gair a gorchymyn y brenin, yr oedd galar mawr ymysg yr Iddewon, ac yr oeddent yn ymprydio, yn wylo ac yn llefain; a gorweddodd llawer ohonynt mewn sachliain a lludw.
Esther 4:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan wybu Mordecai yr hyn oll a wnaethid, Mordecai a rwygodd ei ddillad, ac a wisgodd sachliain a lludw, ac a aeth allan i ganol y ddinas, ac a waeddodd â chwerw lef uchel. Ac efe a ddaeth hyd o flaen porth y brenin: ond ni cheid dyfod i borth y brenin mewn gwisg o sach. Ac ym mhob talaith a lle a’r y daethai gair y brenin a’i orchymyn iddo, yr oedd galar mawr gan yr Iddewon, ac ympryd, ac wylofain, ac oernad; a llawer a orweddent mewn sachliain a lludw.