Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Esther 4:1-17

Esther 4:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Pan glywodd Mordecai am y peth, dyma fe’n rhwygo’i ddillad, gwisgo sachliain a rhoi lludw ar ei ben. Yna dyma fe’n mynd drwy’r ddinas yn gweiddi’n uchel mewn llais chwerw. Ond aeth e ddim pellach na giât y palas – doedd neb yn cael mynd drwy’r giât honno yn gwisgo sachliain. Drwy’r taleithiau i gyd, ble bynnag roedd datganiad a chyfraith y brenin yn cael ei chyhoeddi, roedd yr Iddewon yn galaru, yn ymprydio ac yn udo wylo. Roedd y rhan fwya ohonyn nhw’n gorwedd i gysgu ar sachliain a lludw. Pan ddwedodd morynion ac ystafellyddion Esther wrthi am Mordecai, roedd hi wedi ypsetio’n ofnadwy. Dyma hi’n anfon dillad i Mordecai eu gwisgo yn lle’r sachliain, ond roedd yn gwrthod eu cymryd. Felly dyma Esther yn galw am Hathach, un o ystafellyddion y brenin oedd wedi’i benodi i ofalu amdani, a dweud wrtho am fynd i ddarganfod beth oedd yn bod ar Mordecai. Dyma Hathach yn mynd i weld Mordecai yn y sgwâr tu allan i giât y palas. A dyma Mordecai yn dweud wrtho am bopeth oedd wedi digwydd, a faint o arian oedd Haman wedi addo ei dalu i’r trysordy brenhinol petai’r Iddewon yn cael eu lladd. A dyma fe’n rhoi copi ysgrifenedig i Hathach o’r gorchymyn oedd wedi’i ddosbarthu yn Shwshan yn dweud fod yr Iddewon i gael eu lladd. Gofynnodd i Hathach ei ddangos i Esther ac esbonio iddi beth oedd yn digwydd, a dweud wrthi fod rhaid iddi fynd at y brenin i bledio ac apelio arno i arbed ei phobl. Felly dyma Hathach yn mynd yn ôl a rhannu gydag Esther beth oedd Mordecai eisiau iddi’i wneud. Yna dyma Esther yn anfon Hathach yn ôl at Mordecai i ddweud wrtho, “Mae swyddogion a gweision y brenin drwy’r taleithiau i gyd yn gwybod beth mae’r gyfraith yn ddweud fydd yn digwydd i unrhyw un sy’n mynd i weld y brenin heb gael gwahoddiad – mae’r person hwnnw i farw, oni bai fod y brenin yn arbed ei fywyd drwy estyn y deyrnwialen aur ato fe neu hi. Dw i ddim wedi cael gwahoddiad i fynd i weld y brenin ers mis cyfan!” Pan ddwedodd Hathach wrth Mordecai beth oedd Esther yn ei ddweud, dyma Mordecai yn anfon yr ateb yma yn ôl: “Paid meddwl am funud y byddi di’n osgoi cael dy ladd fel pob Iddew arall am dy fod ti’n byw yn y palas. Os byddi di’n gwrthod dweud dim yr adeg yma, bydd rhywbeth yn digwydd o gyfeiriad arall i achub ac amddiffyn yr Iddewon, ond byddi di a theulu dy dad yn marw. Pwy ŵyr? Falle mai dyma’n union pam wyt ti wedi dod yn rhan o’r teulu brenhinol ar yr adeg yma!” Yna dyma Esther yn anfon ateb yn ôl at Mordecai: “Wnei di gasglu’r Iddewon sy’n byw yn Shwshan at ei gilydd a’u cael nhw i ymprydio drosto i? Peidiwch bwyta nac yfed am dri diwrnod, ddydd na nos. Bydda i a’r morynion sydd gen i yn ymprydio hefyd. Wedyn gwna i fynd i weld y brenin, er fod hynny’n golygu torri’r gyfraith. Dw i’n barod i farw os oes rhaid.” Felly dyma Mordecai yn mynd ati i wneud popeth fel roedd Esther wedi dweud wrtho.

Esther 4:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pan glywodd Mordecai am bopeth a ddigwyddodd, rhwygodd ei ddillad a gwisgo sachliain a lludw, a mynd allan i ganol y ddinas a gweiddi'n groch a chwerw. Daeth i ymyl porth y brenin, oherwydd ni châi neb oedd yn gwisgo sachliain fynd i mewn i'r porth. Ym mhob talaith lle y cyrhaeddodd gair a gorchymyn y brenin, yr oedd galar mawr ymysg yr Iddewon, ac yr oeddent yn ymprydio, yn wylo ac yn llefain; a gorweddodd llawer ohonynt mewn sachliain a lludw. Pan ddaeth morynion ac eunuchiaid y Frenhines Esther a dweud wrthi, yr oedd yn ofidus iawn. Anfonodd ddillad i Mordecai eu gwisgo yn lle'r sachliain oedd amdano, ond gwrthododd ef hwy. Yna galwodd Esther ar Hathach, un o eunuchiaid y brenin a ddewiswyd i weini arni, a'i orchymyn i fynd at Mordecai, i gael gwybod beth oedd ystyr hyn a pham y digwyddodd. Aeth Hathach allan at Mordecai i sgwâr y ddinas o flaen porth y brenin, a dywedodd Mordecai wrtho am y cwbl a ddigwyddodd iddo, ac am y swm o arian yr addawodd Haman ei dalu i drysorfa'r brenin er mwyn difa'r Iddewon. Rhoddodd iddo hefyd gopi o'r wŷs a gyhoeddwyd yn Susan, yn gorchymyn eu dinistrio, er mwyn iddo yntau ei dangos a'i hegluro i Esther, a dweud wrthi am fynd at y brenin i ymbil ag ef ac erfyn arno dros ei phobl. Aeth Hathach a dweud wrth Esther yr hyn a ddywedodd Mordecai, a rhoddodd hithau iddo'r neges hon i Mordecai, “Y mae holl weision y brenin a phobl ei daleithiau yn gwybod nad oes ond un ddedfryd yn aros unrhyw ŵr neu wraig sy'n mynd i'r cyntedd mewnol at y brenin heb wahoddiad, sef marwolaeth; ni chaiff fyw oni bai i'r brenin estyn ei deyrnwialen aur iddo. Nid wyf fi wedi fy ngalw at y brenin ers deg diwrnod ar hugain bellach.” Pan glywodd Mordecai neges Esther, dywedodd wrthynt am ei hateb fel hyn, “Paid â meddwl y cei di yn unig o'r holl Iddewon dy arbed, am dy fod yn byw yn nhŷ'r brenin. Os byddi'n gwrthod siarad yn awr, daw ymwared a chymorth i'r Iddewon o le arall, ond byddi di a thŷ dy dad yn trengi. Pwy a ŵyr nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost i'r frenhiniaeth?” Dywedodd Esther wrthynt am roi'r ateb hwn i Mordecai: “Dos i gasglu ynghyd yr holl Iddewon sy'n byw yn Susan, ac ymprydiwch drosof; peidiwch â bwyta nac yfed, ddydd na nos, am dridiau, ac fe wnaf finnau a'm morynion yr un fath. Yna af at y brenin, er fy mod yn torri'r gyfraith; ac os trengaf, mi drengaf.” Aeth Mordecai ymaith a gwneud popeth a orchmynnodd Esther iddo.

Esther 4:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Pan wybu Mordecai yr hyn oll a wnaethid, Mordecai a rwygodd ei ddillad, ac a wisgodd sachliain a lludw, ac a aeth allan i ganol y ddinas, ac a waeddodd â chwerw lef uchel. Ac efe a ddaeth hyd o flaen porth y brenin: ond ni cheid dyfod i borth y brenin mewn gwisg o sach. Ac ym mhob talaith a lle a’r y daethai gair y brenin a’i orchymyn iddo, yr oedd galar mawr gan yr Iddewon, ac ympryd, ac wylofain, ac oernad; a llawer a orweddent mewn sachliain a lludw. Yna llancesau Esther a’i hystafellyddion hi a ddaethant ac a fynegasant hynny iddi hi. A’r frenhines a dristaodd yn ddirfawr; a hi a ddanfonodd wisgoedd i ddilladu Mordecai, ac i dynnu ymaith ei sachliain ef oddi amdano; ond ni chymerai efe hwynt. Am hynny Esther a alwodd ar Hathach, un o ystafellyddion y brenin, yr hwn a osodasai efe i wasanaethu o’i blaen hi; a hi a orchmynnodd iddo am Mordecai, fynnu gwybod pa beth oedd hyn, ac am ba beth yr ydoedd hyn. Yna Hathach a aeth allan at Mordecai i heol y ddinas yr hon sydd o flaen porth y brenin. A Mordecai a fynegodd iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddo; a swm yr arian y rhai a adawsai Haman eu talu i drysorau y brenin am yr Iddewon, i’w difetha hwynt. Ac efe a roddodd iddo destun ysgrifen y gorchymyn a osodasid yn Susan i’w dinistrio hwynt, i’w ddangos i Esther, ac i’w fynegi iddi, ac i orchymyn iddi fyned i mewn at y brenin, i ymbil ag ef, ac i ymnhedd o’i flaen ef dros ei phobl. A Hathach a ddaeth ac a fynegodd i Esther eiriau Mordecai. Ac Esther a ddywedodd wrth Hathach, ac a orchmynnodd iddo ddywedyd wrth Mordecai; Holl weision y brenin, a phobl taleithiau y brenin, ydynt yn gwybod, mai pa ŵr bynnag, neu wraig, a ddelo i mewn at y brenin i’r cyntedd nesaf i mewn, heb ei alw, un o’i gyfreithiau ef yw ei farwolaethu ef, oddieithr yr hwn yr estynno y brenin y deyrnwialen aur iddo, fel y byddo byw: ac ni’m galwyd i ddyfod i mewn at y brenin, bellach er ys deng niwrnod ar hugain. A hwy a fynegasant i Mordecai eiriau Esther. Yna Mordecai a ddywedodd am iddynt ateb Esther, Na feddwl yn dy galon y dihengi yn nhŷ y brenin rhagor yr holl Iddewon. Oherwydd os tewi â sôn a wnei di y pryd hwn, esmwythdra ac ymwared a gyfyd i’r Iddewon o le arall, tithau a thŷ dy dad a gyfrgollir: a phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser â hwn y daethost ti i’r frenhiniaeth? Yna Esther a ddywedodd am ateb Mordecai fel hyn: Dos, a chasgl yr holl Iddewon a gaffer yn Susan, ac ymprydiwch drosof fi, na fwytewch hefyd ac nac yfwch dros dridiau, nos na dydd: a minnau a’m llancesau a ymprydiaf felly: ac felly yr af i mewn at y brenin, yr hwn beth nid yw gyfreithlon: ac o derfydd amdanaf, darfydded. Felly Mordecai a aeth ymaith, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Esther iddo.