Effesiaid 5:5-18
Effesiaid 5:5-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dych chi’n gallu bod yn hollol siŵr o hyn: dim Duw a’i Feseia sy’n teyrnasu ym mywydau’r bobl hynny sy’n byw’n anfoesol, neu’n aflan, neu’n bod yn hunanol – addoli eilun-dduwiau ydy peth felly! Peidiwch gadael i neb eich twyllo gyda’u geiriau gwag. Mae’r bobl yma’n gwneud Duw yn ddig, a bydd yn dod i gosbi pawb sy’n anufudd iddo. Felly peidiwch ymuno gyda nhw. Ar un adeg roeddech chi yn y tywyllwch, ond bellach mae golau’r Arglwydd yn disgleirio ynoch chi. Dylech fyw mewn ffordd sy’n dangos eich bod chi yn y golau. Pethau da a chyfiawn a gwir ydy’r ffrwyth sy’n tyfu yn y golau. Gwnewch beth sy’n plesio’r Arglwydd. Peidiwch cael dim i’w wneud â’r math o ymddygiad sy’n perthyn i’r tywyllwch. Na, ewch ati i ddangos mor ddrwg ydyn nhw. Mae’n warthus hyd yn oed sôn am y pethau mae pobl yn eu gwneud o’r golwg. Ond pan mae’r golau’n disgleirio mae’r cwbl yn dod i’r golwg. Mae’r golau’n dangos pethau fel y maen nhw go iawn. Dyna pam mae’n cael ei ddweud: “Deffra, ti sydd yn cysgu tyrd yn ôl yn fyw! a bydd golau’r Meseia yn disgleirio arnat ti.” Felly, gwyliwch sut dych chi’n ymddwyn. Peidiwch bod yn ddwl – byddwch yn ddoeth. Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni, achos mae digon o ddrygioni o’n cwmpas ni ym mhobman. Peidiwch gwneud dim yn ddifeddwl; ceisiwch ddeall bob amser beth mae’r Arglwydd eisiau. Peidiwch meddwi ar win – dyna sut mae difetha’ch bywyd. Yn lle hynny, gadewch i’r Ysbryd Glân eich llenwi a’ch rheoli chi.
Effesiaid 5:5-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwyddoch hyn yn sicr, nad oes cyfran yn nheyrnas Crist a Duw i neb sy'n puteinio neu'n aflan, nac i neb sy'n drachwantus, hynny yw, yn addoli eilunod. Peidiwch â chymryd eich twyllo gan eiriau gwag neb; o achos y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dod ar y rhai sy'n anufudd iddo. Peidiwch felly â chyfathrachu â hwy; tywyllwch oeddech chwi gynt, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd. Byddwch fyw fel plant goleuni, oherwydd gwelir ffrwyth y goleuni ym mhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd. Gwnewch yn siŵr beth sy'n gymeradwy gan yr Arglwydd. Gwrthodwch ymgysylltu â gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni. Gwarthus yw hyd yn oed crybwyll y pethau a wneir ganddynt yn y dirgel. Ond y mae pob peth a ddadlennir gan y goleuni yn dod yn weladwy, oherwydd goleuni yw pob peth a wneir yn weladwy. Am hynny y dywedir: “Deffro, di sydd yn cysgu, a chod oddi wrth y meirw, ac fe dywynna Crist arnat.” Felly, gwyliwch eich ymddygiad yn ofalus, gan fyw, nid fel rhai annoeth ond fel rhai doeth. Daliwch ar eich cyfle, oherwydd y mae'r dyddiau'n ddrwg. Am hynny, peidiwch â bod yn ffôl, ond deallwch beth yw ewyllys yr Arglwydd. Peidiwch â meddwi ar win (afradlonedd yw hynny), ond llanwer chwi â'r Ysbryd.
Effesiaid 5:5-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys yr ydych chwi yn gwybod hyn, am bob puteiniwr, neu aflan, neu gybydd, yr hwn sydd ddelw-addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw. Na thwylled neb chwi â geiriau ofer: canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd-dod. Na fyddwch gan hynny gyfranogion â hwynt. Canys yr oeddech chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awron goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni; (Canys ffrwyth yr Ysbryd sydd ym mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd;) Gan brofi beth sydd gymeradwy gan yr Arglwydd. Ac na fydded i chwi gydgyfeillach â gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch, eithr yn hytrach argyhoeddwch hwynt. Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel. Eithr pob peth, wedi yr argyhoedder, a eglurir gan y goleuni: canys beth bynnag sydd yn egluro, goleuni yw. Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Deffro di yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod oddi wrth y meirw; a Christ a oleua i ti. Gwelwch gan hynny pa fodd y rhodioch yn ddiesgeulus, nid fel annoethion, ond fel doethion; Gan brynu’r amser, oblegid y dyddiau sydd ddrwg. Am hynny na fyddwch annoethion, eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd. Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae gormodedd; eithr llanwer chwi â’r Ysbryd