Effesiaid 5:22-33
Effesiaid 5:22-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr fel i'r Arglwydd; oherwydd y gŵr yw pen y wraig, fel y mae Crist hefyd yn ben yr eglwys; ac ef yw Gwaredwr y corff. Ond fel y mae'r eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly y mae'n rhaid i'r gwragedd fod i'w gwŷr ym mhob peth. Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, fel y carodd Crist yntau'r eglwys a'i roi ei hun drosti, i'w sancteiddio a'i glanhau â'r golchiad dŵr a'r gair, er mwyn iddo ef ei hun ei chyflwyno iddo'i hun yn ei llawn ogoniant, heb fod arni frycheuyn na chrychni na dim byd o'r fath, iddi fod yn sanctaidd a di-fai. Yn yr un modd, dylai'r gwŷr garu eu gwragedd fel eu cyrff eu hunain. Y mae'r gŵr sy'n caru ei wraig yn ei garu ei hun. Ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun; yn hytrach y mae'n ei feithrin a'i ymgeleddu. Felly y gwna Crist hefyd â'r eglwys; oherwydd yr ydym ni'n aelodau o'i gorff ef. Yng ngeiriau'r Ysgrythur: “Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig; a bydd y ddau yn un cnawd.” Y mae'r dirgelwch hwn yn fawr. Cyfeirio yr wyf at Grist ac at yr eglwys. Ond yr ydych chwithau bob un i garu ei wraig fel ef ei hun; ac y mae'r wraig hithau i barchu ei gŵr.
Effesiaid 5:22-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr priod, megis i’r Arglwydd. Oblegid y gŵr yw pen y wraig, megis ag y mae Crist yn ben i’r eglwys; ac efe yw Iachawdwr y corff. Ond fel y mae’r eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly hefyd bydded y gwragedd i’w gwŷr priod ym mhob peth. Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, megis ag y carodd Crist yr eglwys, ac a’i rhoddes ei hun drosti; Fel y sancteiddiai efe hi, a’i glanhau â’r olchfa ddwfr trwy y gair; Fel y gosodai efe hi yn ogoneddus iddo ei hun, yn eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o’r cyfryw; ond fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius. Felly y dylai’r gwŷr garu eu gwragedd, megis eu cyrff eu hunain. Yr hwn a garo ei wraig, sydd yn ei garu ei hun. Canys ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun; eithr ei fagu a’i feithrin y mae, megis ag y mae’r Arglwydd am yr eglwys: Oblegid aelodau ydym o’i gorff ef, o’i gnawd ef, ac o’i esgyrn ef. Am hynny y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd. Y dirgelwch hwn sydd fawr: eithr am Grist ac am yr eglwys yr wyf fi yn dywedyd. Ond chwithau hefyd cymain un, felly cared pob un ohonoch ei wraig, fel ef ei hunan; a’r wraig edryched ar iddi berchi ei gŵr.