Effesiaid 5:1-14
Effesiaid 5:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Byddwch, felly, yn efelychwyr Duw, fel plant annwyl iddo, gan fyw mewn cariad, yn union fel y carodd Crist ni, a'i roi ei hun trosom, yn offrwm ac aberth i Dduw, o arogl pêr. Anfoesoldeb rhywiol, a phob aflendid a thrachwant, peidiwch hyd yn oed â'u henwi yn eich plith, fel y mae'n briodol i saint; a'r un modd bryntni, a chleber ffôl, a siarad gwamal, pethau sy'n anweddus. Yn hytrach, geiriau diolch sy'n gweddu i chwi. Gwyddoch hyn yn sicr, nad oes cyfran yn nheyrnas Crist a Duw i neb sy'n puteinio neu'n aflan, nac i neb sy'n drachwantus, hynny yw, yn addoli eilunod. Peidiwch â chymryd eich twyllo gan eiriau gwag neb; o achos y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dod ar y rhai sy'n anufudd iddo. Peidiwch felly â chyfathrachu â hwy; tywyllwch oeddech chwi gynt, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd. Byddwch fyw fel plant goleuni, oherwydd gwelir ffrwyth y goleuni ym mhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd. Gwnewch yn siŵr beth sy'n gymeradwy gan yr Arglwydd. Gwrthodwch ymgysylltu â gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni. Gwarthus yw hyd yn oed crybwyll y pethau a wneir ganddynt yn y dirgel. Ond y mae pob peth a ddadlennir gan y goleuni yn dod yn weladwy, oherwydd goleuni yw pob peth a wneir yn weladwy. Am hynny y dywedir
Effesiaid 5:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly dilynwch esiampl Duw, gan eich bod yn blant annwyl iddo. Dylech fyw bywydau llawn cariad, yn union fel gwnaeth y Meseia ein caru ni a marw yn ein lle ni. Rhoddodd ei hun fel offrwm ac aberth oedd yn arogli’n hyfryd i Dduw. Ddylai bod dim awgrym o anfoesoldeb rhywiol yn agos atoch chi, nac unrhyw fochyndra, na chwant hunanol chwaith! Dydy pethau felly ddim yn iawn i bobl sydd wedi cysegru eu bywydau i Dduw. Dim iaith anweddus, siarad dwl a jôcs budron chwaith – does dim lle i bethau felly. Yn lle hynny dylech chi ddiolch i Dduw. Dych chi’n gallu bod yn hollol siŵr o hyn: dim Duw a’i Feseia sy’n teyrnasu ym mywydau’r bobl hynny sy’n byw’n anfoesol, neu’n aflan, neu’n bod yn hunanol – addoli eilun-dduwiau ydy peth felly! Peidiwch gadael i neb eich twyllo gyda’u geiriau gwag. Mae’r bobl yma’n gwneud Duw yn ddig, a bydd yn dod i gosbi pawb sy’n anufudd iddo. Felly peidiwch ymuno gyda nhw. Ar un adeg roeddech chi yn y tywyllwch, ond bellach mae golau’r Arglwydd yn disgleirio ynoch chi. Dylech fyw mewn ffordd sy’n dangos eich bod chi yn y golau. Pethau da a chyfiawn a gwir ydy’r ffrwyth sy’n tyfu yn y golau. Gwnewch beth sy’n plesio’r Arglwydd. Peidiwch cael dim i’w wneud â’r math o ymddygiad sy’n perthyn i’r tywyllwch. Na, ewch ati i ddangos mor ddrwg ydyn nhw. Mae’n warthus hyd yn oed sôn am y pethau mae pobl yn eu gwneud o’r golwg. Ond pan mae’r golau’n disgleirio mae’r cwbl yn dod i’r golwg. Mae’r golau’n dangos pethau fel y maen nhw go iawn. Dyna pam mae’n cael ei ddweud: “Deffra, ti sydd yn cysgu tyrd yn ôl yn fyw! a bydd golau’r Meseia yn disgleirio arnat ti.”
Effesiaid 5:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Byddwch gan hynny ddilynwyr Duw, fel plant annwyl; A rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Crist ninnau, ac a’i rhoddodd ei hun drosom ni, yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd. Eithr godineb, a phob aflendid, neu gybydd-dra, nac enwer chwaith yn eich plith, megis y gweddai i saint; Na serthedd, nac ymadrodd ffôl, na choeg ddigrifwch, pethau nid ydynt weddus: eithr yn hytrach rhoddi diolch. Canys yr ydych chwi yn gwybod hyn, am bob puteiniwr, neu aflan, neu gybydd, yr hwn sydd ddelw-addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw. Na thwylled neb chwi â geiriau ofer: canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd-dod. Na fyddwch gan hynny gyfranogion â hwynt. Canys yr oeddech chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awron goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni; (Canys ffrwyth yr Ysbryd sydd ym mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd;) Gan brofi beth sydd gymeradwy gan yr Arglwydd. Ac na fydded i chwi gydgyfeillach â gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch, eithr yn hytrach argyhoeddwch hwynt. Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel. Eithr pob peth, wedi yr argyhoedder, a eglurir gan y goleuni: canys beth bynnag sydd yn egluro, goleuni yw. Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Deffro di yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod oddi wrth y meirw; a Christ a oleua i ti.