Effesiaid 4:14-21
Effesiaid 4:14-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid ydym i fod yn fabanod mwyach, yn cael ein lluchio gan donnau a'n gyrru yma a thraw gan bob rhyw awel o athrawiaeth, wedi ein dal gan ystryw y rhai sy'n ddyfeisgar i gynllwynio twyll. Na, gadewch i ni ddilyn y gwir mewn cariad, a thyfu ym mhob peth i Grist. Ef yw'r pen, ac wrtho ef y mae'r holl gorff yn cael ei ddal wrth ei gilydd a'i gysylltu drwy bob cymal sy'n rhan ohono. Felly, trwy weithgarwch cyfaddas pob un rhan, ceir prifiant yn y corff, ac y mae'n ei adeiladu ei hun mewn cariad. Hyn, felly, yr wyf yn ei ddweud ac yn ei argymell arnoch yn yr Arglwydd, eich bod chwi bellach i beidio â byw fel y mae'r Cenhedloedd yn byw, yn oferedd eu meddwl; oherwydd tywyllwch sydd yn eu deall, a dieithriaid ydynt i'r bywyd sydd o Dduw, o achos yr anwybodaeth y maent yn ei choleddu a'r ystyfnigrwydd sydd yn eu calon. Pobl ydynt sydd wedi colli pob teimlad ac wedi ymollwng i'r anlladrwydd sy'n peri iddynt gyflawni pob math o aflendid yn ddiymatal. Ond nid felly yr ydych chwi wedi dysgu Crist, chwi sydd, yn wir, wedi clywed amdano ac wedi eich hyfforddi ynddo, yn union fel y mae'r gwirionedd yn Iesu.
Effesiaid 4:14-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dim plantos bach fyddwn ni, yn cael ein taflu yn ôl ac ymlaen gan y tonnau, a’n chwythu yma ac acw gan bob awel sy’n dod heibio. Fyddwn ni ddim yn newid ein meddyliau bob tro mae rhywun yn dweud rhywbeth newydd, neu’n cael ein twyllo gan bobl slei sy’n gwneud i gelwydd swnio fel petai’n wir. Na, wrth gyhoeddi beth sy’n wir mewn cariad, byddwn ni’n tyfu’n debycach bob dydd i’r Pen, sef y Meseia. Y pen sy’n gwneud i’r corff weithio a thyfu. Fel mae pob rhan o’r corff wedi’i weu i’w gilydd, a’r gewynnau’n dal y cwbl gyda’i gilydd, mae’r eglwys yn tyfu ac yn cryfhau mewn cariad wrth i bob rhan wneud ei gwaith. Felly gyda’r awdurdod mae’r Arglwydd ei hun wedi’i roi i mi, dw i’n dweud wrthoch chi, ac yn mynnu hyn: peidiwch byw fel mae’r paganiaid di-gred yn byw. Dŷn nhw’n deall dim – maen nhw yn y tywyllwch! Maen nhw wedi’u gwahanu oddi wrth y bywyd sydd gan Dduw i’w gynnig am eu bod nhw’n gwrthod gwrando. Maen nhw’n ystyfnig! Does dim byd yn codi cywilydd arnyn nhw. Dŷn nhw’n gwneud dim byd ond byw’n anfoesol a gadael i’w chwantau mochaidd gael penrhyddid llwyr. Ac maen nhw eisiau mwy a mwy drwy’r adeg. Dim felly dych chi wedi dysgu byw wrth edrych ar y Meseia – os mai fe ydy’r un dych chi wedi’ch dysgu i’w ddilyn. Yn Iesu mae dod o hyd i’r gwir.
Effesiaid 4:14-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwman, ac yn ein cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hoced dynion, trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo: Eithr, gan fod yn gywir mewn cariad, cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth, yr hwn yw’r pen, sef Crist: O’r hwn y mae’r holl gorff wedi ei gydymgynnull a’i gydgysylltu, trwy bob cymal cynhaliaeth, yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corff, i’w adeiladu ei hun mewn cariad. Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae’r Cenhedloedd eraill yn rhodio, yn oferedd eu meddwl, Wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithrio oddi wrth fuchedd Dduw, trwy’r anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calon: Y rhai wedi diddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pob aflendid yn unchwant. Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist; Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae’r gwirionedd yn yr Iesu