Pregethwr 6:1-2
Pregethwr 6:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Rhywbeth ofnadwy arall dw i wedi sylwi arno yn y byd, ac mae’n effeithio ar lot o bobl: Mae Duw weithiau’n rhoi cymaint o arian, eiddo a chyfoeth i berson nes bod ganddo bopeth mae arno ei angen a’i eisiau. Ond wedyn dydy Duw ddim yn rhoi’r gallu iddo fwynhau’r cwbl! Yn lle hynny mae rhywun arall yn cael ei fwynhau. Does dim sens i’r peth! Mae’n ofnadwy!
Pregethwr 6:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma ddrwg a welais dan yr haul, ac y mae'n flinder ar bobl: un wedi cael cyfoeth, meddiannau ac anrhydedd gan Dduw, heb fod yn brin o ddim a ddymunai, ac eto heb gael gan Dduw y gallu i'w mwynhau, ond dieithryn yn hytrach yn cael mwynhad ohonynt. Y mae hyn yn wagedd ac yn gystudd blin.
Pregethwr 6:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y mae drwg a welais dan haul, a hwnnw yn fawr ymysg dynion: Gŵr y rhoddodd DUW iddo gyfoeth, a golud, ac anrhydedd, heb arno eisiau dim i’w enaid a’r a ddymunai; a DUW heb roi gallu iddo i fwyta ohoni, ond estron a’i bwyty. Dyma wagedd, ac y mae yn ofid blin.