Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pregethwr 6

6
Mwy o sylwadau ar fywyd
1Rhywbeth ofnadwy arall dw i wedi sylwi arno yn y byd, ac mae’n effeithio ar lot o bobl: 2Mae Duw weithiau’n rhoi cymaint o arian, eiddo a chyfoeth i berson nes bod ganddo bopeth mae arno ei angen a’i eisiau. Ond wedyn dydy Duw ddim yn rhoi’r gallu iddo fwynhau’r cwbl! Yn lle hynny mae rhywun arall yn cael ei fwynhau. Does dim sens i’r peth! Mae’n ofnadwy!
3Hyd yn oed petai rhywun yn cael cant o blant ac yn byw i oedran mawr – sdim ots faint o flynyddoedd! Gallai fyw am byth!#6:3 Gallai … byth! Hebraeg, “os nad ydy e’n cael ei gladdu”.#Salm 49:9; 89:48 Os nad ydy e’n cael mwynhau ei lwyddiant, mae babi sy’n cael ei eni’n farw yn well ei fyd na rhywun felly! 4Ac i beth mae hwnnw’n cael ei eni? Mae’n ddiystyr! Mae’n diflannu i’r tywyllwch, a does neb yn gwybod ei enw na dim arall amdano. 5Dydy e ddim wedi profi gwres yr haul. Ond o leia mae’n cael gorffwys, felly’n well ei fyd na’r person arall!
6Neu cymrwch fod rhywun yn cael byw am ddwy fil o flynyddoedd ond heb brofi unrhyw lwyddiant materol. Onid i’r un lle maen nhw i gyd yn mynd yn y pen draw?
7“Mae pawb yn gweithio’n galed i gael bwyd i’w fwyta,
ond dydy’r stumog byth yn fodlon.”
8Felly, pa fantais sydd gan rhywun doeth dros y ffŵl? Pa fantais sydd gan rywun tlawd sy’n gwybod sut i fyw mewn perthynas ag eraill?
9“Mae bod yn fodlon gyda’r hyn sydd gynnoch chi
yn well na breuddwydio am gael mwy o hyd.”
Dydy’r pethau yma i gyd yn gwneud dim sens – mae fel ceisio rheoli’r gwynt.
10Mae popeth sy’n digwydd wedi’i drefnu ymlaen llaw. Mae pobl yn gwybod mai creaduriaid dynol ydyn nhw. All pobl ddim dadlau gyda Duw am eu tynged, gan ei fod e’n llawer cryfach. 11Dydy dadlau diddiwedd yn helpu dim. Beth sy’n cael ei ennill? 12Pwy sy’n gwybod beth ydy’r peth gorau i rywun ei wneud gyda’i fywyd? Dim ond am gyfnod byr mae’n cael byw, ac mae ei fywyd llawn cwestiynau yn mynd heibio mewn chwinciad. Oes yna unrhyw un yn rhywle sy’n gallu dweud beth fydd yn digwydd yn y dyfodol?

Dewis Presennol:

Pregethwr 6: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd