Pregethwr 6:1-12
Pregethwr 6:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Rhywbeth ofnadwy arall dw i wedi sylwi arno yn y byd, ac mae’n effeithio ar lot o bobl: Mae Duw weithiau’n rhoi cymaint o arian, eiddo a chyfoeth i berson nes bod ganddo bopeth mae arno ei angen a’i eisiau. Ond wedyn dydy Duw ddim yn rhoi’r gallu iddo fwynhau’r cwbl! Yn lle hynny mae rhywun arall yn cael ei fwynhau. Does dim sens i’r peth! Mae’n ofnadwy! Hyd yn oed petai rhywun yn cael cant o blant ac yn byw i oedran mawr – sdim ots faint o flynyddoedd! Gallai fyw am byth! Os nad ydy e’n cael mwynhau ei lwyddiant, mae babi sy’n cael ei eni’n farw yn well ei fyd na rhywun felly! Ac i beth mae hwnnw’n cael ei eni? Mae’n ddiystyr! Mae’n diflannu i’r tywyllwch, a does neb yn gwybod ei enw na dim arall amdano. Dydy e ddim wedi profi gwres yr haul. Ond o leia mae’n cael gorffwys, felly’n well ei fyd na’r person arall! Neu cymrwch fod rhywun yn cael byw am ddwy fil o flynyddoedd ond heb brofi unrhyw lwyddiant materol. Onid i’r un lle maen nhw i gyd yn mynd yn y pen draw? “Mae pawb yn gweithio’n galed i gael bwyd i’w fwyta, ond dydy’r stumog byth yn fodlon.” Felly, pa fantais sydd gan rhywun doeth dros y ffŵl? Pa fantais sydd gan rywun tlawd sy’n gwybod sut i fyw mewn perthynas ag eraill? “Mae bod yn fodlon gyda’r hyn sydd gynnoch chi yn well na breuddwydio am gael mwy o hyd.” Dydy’r pethau yma i gyd yn gwneud dim sens – mae fel ceisio rheoli’r gwynt. Mae popeth sy’n digwydd wedi’i drefnu ymlaen llaw. Mae pobl yn gwybod mai creaduriaid dynol ydyn nhw. All pobl ddim dadlau gyda Duw am eu tynged, gan ei fod e’n llawer cryfach. Dydy dadlau diddiwedd yn helpu dim. Beth sy’n cael ei ennill? Pwy sy’n gwybod beth ydy’r peth gorau i rywun ei wneud gyda’i fywyd? Dim ond am gyfnod byr mae’n cael byw, ac mae ei fywyd llawn cwestiynau yn mynd heibio mewn chwinciad. Oes yna unrhyw un yn rhywle sy’n gallu dweud beth fydd yn digwydd yn y dyfodol?
Pregethwr 6:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma ddrwg a welais dan yr haul, ac y mae'n flinder ar bobl: un wedi cael cyfoeth, meddiannau ac anrhydedd gan Dduw, heb fod yn brin o ddim a ddymunai, ac eto heb gael gan Dduw y gallu i'w mwynhau, ond dieithryn yn hytrach yn cael mwynhad ohonynt. Y mae hyn yn wagedd ac yn gystudd blin. Pe byddai rhywun yn rhiant i gant o blant, yn byw am flynyddoedd lawer ac yn cael oes hir, ond heb allu mwynhau daioni bywyd na chael ei gladdu, yna dywedaf ei bod yn well ar yr erthyl nag arno ef. Oherwydd y mae'r erthyl yn dod mewn gwagedd ac yn mynd ymaith mewn tywyllwch, lle cuddir ei enw; eto caiff hwn, er na welodd yr haul na gwybod am ddim, fwy o lonyddwch na'r llall, hyd yn oed pe byddai hwnnw'n byw am fil o flynyddoedd ddwywaith drosodd, ond heb brofi daioni. Onid ydynt i gyd yn mynd i'r un lle? Y mae holl lafur pobl ar gyfer eu genau, ond eto ni ddiwellir eu chwant. Pa fantais sydd gan y doeth ar y ffôl, neu gan y tlawd a ŵyr sut i ymddwyn yng ngŵydd pobl? Gwell gweld â'r llygaid na blys anniwall. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt. Y mae'r hyn sydd eisoes yn bod yn hysbys, ac fe wyddys beth yw pobl; ni allant ddadlau ag un cryfach na hwy. Y mae amlhau geiriau yn amlhau gwagedd; a pha fantais sydd i neb? Pwy a ŵyr beth sydd dda i neb yng nghyfnod byr ei fywyd gwag, a dreulia fel cysgod? Pwy all ddweud wrtho beth dan yr haul a ddaw ar ei ôl?
Pregethwr 6:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y mae drwg a welais dan haul, a hwnnw yn fawr ymysg dynion: Gŵr y rhoddodd DUW iddo gyfoeth, a golud, ac anrhydedd, heb arno eisiau dim i’w enaid a’r a ddymunai; a DUW heb roi gallu iddo i fwyta ohoni, ond estron a’i bwyty. Dyma wagedd, ac y mae yn ofid blin. Os ennill gŵr gant o blant, ac a fydd byw lawer o flynyddoedd, fel y bo dyddiau ei flynyddoedd yn llawer, os ei enaid ni ddiwellir â daioni, ac oni bydd iddo gladdedigaeth; mi a ddywedaf, mai gwell yw erthyl nag ef. Canys mewn oferedd y daeth, ac yn y tywyllwch yr ymedy, a’i enw a guddir â thywyllwch. Yntau ni welodd mo’r haul, ac ni wybu ddim: mwy o lonyddwch sydd i hwn nag i’r llall. Pe byddai efe fyw ddwy fil o flynyddoedd, eto ni welodd efe ddaioni: onid i’r un lle yr â pawb? Holl lafur dyn sydd dros ei enau, ac eto ni ddiwellir ei enaid ef. Canys pa ragoriaeth sydd i’r doeth mwy nag i’r annoeth? beth sydd i’r tlawd a fedr rodio gerbron y rhai byw? Gwell yw golwg y llygaid nag ymdaith yr enaid. Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd. Beth bynnag fu, y mae enw arno; ac y mae yn hysbys mai dyn yw efe: ac ni ddichon efe ymryson â’r neb sydd drech nag ef. Gan fod llawer o bethau yn amlhau gwagedd, beth yw dyn well? Canys pwy a ŵyr beth sydd dda i ddyn yn y bywyd hwn holl ddyddiau ei fywyd ofer, y rhai a dreulia efe fel cysgod? canys pwy a ddengys i ddyn beth a ddigwydd ar ei ôl ef dan yr haul?