Pregethwr 3:9-13
Pregethwr 3:9-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly, beth mae’r gweithiwr yn ei ennill ar ôl ei holl ymdrech? Dw i wedi ystyried yr holl bethau mae Duw wedi’u rhoi i bobl eu gwneud: Mae Duw’n gwneud i bopeth ddigwydd yn berffaith ar yr amser iawn. Mae hefyd wedi gwneud pobl yn ymwybodol o’r tragwyddol, ond dydy pobl ddim yn gallu darganfod popeth mae Duw’n bwriadu ei wneud yn ystod eu bywydau. Felly des i’r casgliad mai’r peth gorau all pobl ei wneud ydy bod yn hapus a mwynhau eu hunain tra byddan nhw byw. Rhodd Duw i bawb ydy iddyn nhw fwyta ac yfed a mwynhau eu holl weithgareddau.
Pregethwr 3:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pa elw a gaiff y gweithiwr wrth lafurio? Gwelais y dasg a roddodd Duw i bobl i'w chyflawni. Gwnaeth bopeth yn hyfryd yn ei amser, a hefyd rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl; eto ni all neb ddirnad yr hyn a wnaeth Duw o'r dechrau i'r diwedd. Yr wyf yn gwybod nad oes dim yn well i bobl mewn bywyd na bod yn llawen a gwneud da, a gwn mai rhodd Duw yw fod pob un yn bwyta ac yn yfed ac yn cael mwynhad o'i holl lafur.
Pregethwr 3:9-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pa fudd sydd i’r gweithydd yn yr hyn y mae yn llafurio? Mi a welais y blinder a roddes DUW ar feibion dynion, i ymflino ynddo. Efe a wnaeth bob peth yn deg yn ei amser: efe a osododd y byd hefyd yn eu calonnau hwy, fel na allo dyn gael allan y gwaith a wnaeth DUW o’r dechreuad hyd y diwedd. Mi a wn nad oes dim da ynddynt, ond bod i ddyn fod yn llawen, a gwneuthur daioni yn ei fywyd. A bod i bob dyn fwyta ac yfed, a mwynhau daioni o’i holl lafur; rhodd DUW yw hynny.