Pregethwr 3:1-11
Pregethwr 3:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef: amser i eni, ac amser i farw, amser i blannu, ac amser i ddiwreiddio'r hyn a blannwyd; amser i ladd, ac amser i iacháu, amser i dynnu i lawr, ac amser i adeiladu; amser i wylo, ac amser i chwerthin, amser i alaru, ac amser i ddawnsio; amser i daflu cerrig, ac amser i'w casglu, amser i gofleidio, ac amser i ymatal; amser i geisio, ac amser i golli, amser i gadw, ac amser i daflu ymaith; amser i rwygo, ac amser i drwsio, amser i dewi, ac amser i siarad; amser i garu, ac amser i gasáu, amser i ryfel, ac amser i heddwch. Pa elw a gaiff y gweithiwr wrth lafurio? Gwelais y dasg a roddodd Duw i bobl i'w chyflawni. Gwnaeth bopeth yn hyfryd yn ei amser, a hefyd rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl; eto ni all neb ddirnad yr hyn a wnaeth Duw o'r dechrau i'r diwedd.
Pregethwr 3:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd: Amser i eni, ac amser i farw; amser i blannu, ac amser i dynnu y peth a blannwyd; Amser i ladd, ac amser i iacháu; amser i fwrw i lawr, ac amser i adeiladu; Amser i wylo, ac amser i chwerthin; amser i alaru, ac amser i ddawnsio; Amser i daflu cerrig ymaith, ac amser i gasglu cerrig ynghyd; amser i ymgofleidio, ac amser i ochel ymgofleidio; Amser i geisio, ac amser i golli; amser i gadw, ac amser i fwrw ymaith; Amser i rwygo, ac amser i wnïo; amser i dewi, ac amser i ddywedyd; Amser i garu, ac amser i gasáu; amser i ryfel, ac amser i heddwch. Pa fudd sydd i’r gweithydd yn yr hyn y mae yn llafurio? Mi a welais y blinder a roddes DUW ar feibion dynion, i ymflino ynddo. Efe a wnaeth bob peth yn deg yn ei amser: efe a osododd y byd hefyd yn eu calonnau hwy, fel na allo dyn gael allan y gwaith a wnaeth DUW o’r dechreuad hyd y diwedd.