Pregethwr 2:1-11
Pregethwr 2:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedais wrthyf fy hun, “Tyrd yn awr, gad imi brofi pleser, a'm mwynhau fy hun,” ond yr oedd hyn hefyd yn wagedd. Dywedais fod chwerthin yn ynfydrwydd, ac nad oedd pleser yn dda i ddim. Ceisiais godi fy nghalon â gwin, gan ofalu fy mod yn ymddwyn yn ddoeth ac yn ffrwyno ffolineb, nes imi weld beth oedd yn dda i bobl ei wneud dan y nef yn ystod cyfnod byr eu hoes. Gwneuthum bethau mawr: adeiledais dai i mi fy hun, a phlannu gwinllannoedd; gwneuthum erddi a pherllannau, a phlannu pob math ar goed ffrwythau ynddynt; gwneuthum hefyd lynnoedd i ddyfrhau ohonynt y llwyni coed oedd yn tyfu; prynais gaethion, yn ddynion a merched, ac yr oedd gennyf weision wedi eu geni yn fy nhŷ; yr oedd gennyf fwy o wartheg a defaid nag unrhyw un a fu o'm blaen yn Jerwsalem; cesglais arian ac aur, trysorau brenhinoedd a thaleithiau; yr oedd gennyf hefyd gantorion a chantoresau, a digonedd o ferched gordderch i ddifyrru dynion. Deuthum yn enwog, ac yn fwy llwyddiannus nag unrhyw un a fu o'm blaen yn Jerwsalem; ac eto glynais wrth ddoethineb. Nid oeddwn yn cadw draw oddi wrth unrhyw beth a chwenychai fy llygaid, nac yn troi ymaith oddi wrth unrhyw bleser. Yn wir yr oeddwn yn cael llawenydd yn fy holl lafur, a hyn oedd fy nhâl am fy holl waith. Yna, pan drois i edrych ar y cyfan a wnaeth fy nwylo a'r llafur yr ymdrechais i'w gyflawni, gwelwn nad oedd y cyfan ond gwagedd ac ymlid gwynt, heb unrhyw elw dan yr haul.
Pregethwr 2:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Meddyliais, “Reit, dw i’n mynd i weld beth sydd gan bleser i’w gynnig!” Ond wedyn dod i’r casgliad mai nid dyna’r ateb chwaith. “Mae byw dim ond i gael hwyl a sbri yn hurt!” meddwn i. Ac am fyw i bleser, dwedais, “Beth ydy’r pwynt?” Dyma fi’n ceisio gweld fyddai codi’r galon gyda gwin, nes dechrau actio’r ffŵl, yn ateb. Ceisio bod yn ddoeth oeddwn i. Rôn i eisiau gweld a oedd hynny’n beth da i bobl ei wneud yn yr amser byr sydd ganddyn nhw ar y ddaear. Wedyn dyma fi’n casglu mwy a mwy o eiddo. Dyma fi’n adeiladu tai i mi fy hun, ac yn plannu gwinllannoedd. Dyma fi’n cynllunio gerddi a pharciau brenhinol i mi fy hun, ac yn plannu pob math o goed ffrwythau ynddyn nhw. Yna adeiladu pyllau dŵr – digon i ddyfrio’r holl goed oedd gen i’n tyfu. Prynais weithwyr i mi fy hun – dynion a merched, ac roedd gen i weision eraill oedd wedi’u geni yn y tŷ brenhinol. Roedd gen i fwy o wartheg a defaid nag unrhyw un oedd wedi bod yn Jerwsalem o mlaen i. Dyma fi’n casglu arian ac aur i mi fy hun hefyd, a thrysorau gwerthfawr brenhinoedd a thaleithiau eraill. Roedd gen i gantorion (dynion a merched) i’m difyrru, a digonedd o bleser rhywiol – harîm o ferched hardd. Oedd, roedd gen i fwy o gyfoeth nag unrhyw un oedd wedi bod o mlaen i yn Jerwsalem. Ond yn dal i geisio bod yn ddoeth. Rôn i’n cael beth bynnag oedd yn cymryd fy ffansi. Rôn i’n gallu profi pob pleser, fel y mynnwn i. Rôn i’n mwynhau’r gwaith caled, a dyna oedd fy ngwobr i am fy ymdrech. Ond yna dechreuais feddwl am y cwbl roeddwn i wedi’i gyflawni, a’r holl ymdrech oedd wedi mynd i mewn i gael popeth oedd gen i – a dod i’r casgliad ei fod yn gwneud dim sens, a bod y cwbl fel ceisio rheoli’r gwynt. Beth mae rhywun yn ei ennill yn y pen draw?
Pregethwr 2:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Mi a ddywedais yn fy nghalon, Iddo yn awr, mi a’th brofaf â llawenydd; am hynny cymer dy fyd yn ddifyr: ac wele, hyn hefyd sydd wagedd. Mi a ddywedais am chwerthin, Ynfyd yw: ac am lawenydd, Pa beth a wna? Mi a geisiais yn fy nghalon ymroddi i win, (eto yn arwain fy nghalon mewn doethineb,) ac i gofleidio ffolineb, hyd oni welwn beth oedd y da hwnnw i feibion dynion, yr hyn a wnânt hwy dan y nefoedd holl ddyddiau eu bywyd. Mi a wneuthum i mi waith mawr; mi a adeiledais i mi dai; mi a blennais i mi winllannoedd: Mi a wneuthum erddi a pherllannau, ac a blennais ynddynt brennau o bob ffrwyth: Mi a wneuthum lynnau dwfr, i ddyfrhau â hwynt y llwyni sydd yn dwyn coed: Mi a ddarperais weision a morynion; hefyd yr oedd i mi gaethweision tŷ; ie, yr oeddwn i yn berchen llawer o wartheg a defaid, tu hwnt i bawb a fuasai o’m blaen i yn Jerwsalem: Mi a bentyrrais i mi hefyd arian ac aur, a thrysor pennaf brenhinoedd a thaleithiau: mi a ddarperais i mi gantorion a chantoresau, a phob rhyw offer cerdd, difyrrwch meibion dynion. A mi a euthum yn fawr, ac a gynyddais yn fwy na neb a fuasai o’m blaen i yn Jerwsalem: a’m doethineb oedd yn sefyll gyda mi. A pha beth bynnag a ddeisyfai fy llygaid, ni omeddwn hwynt: ni ataliwn fy nghalon oddi wrth ddim hyfryd; canys fy nghalon a lawenychai yn fy holl lafur; a hyn oedd fy rhan i o’m holl lafur. Yna mi a edrychais ar fy holl weithredoedd a wnaethai fy nwylo, ac ar y llafur a lafuriais yn ei wneuthur: ac wele, hyn oll oedd wagedd a gorthrymder ysbryd, ac nid oedd dim budd dan yr haul.