Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 5:1-21

Deuteronomium 5:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma Moses yn galw pobl Israel at ei gilydd ac yn dweud wrthyn nhw: “Israel, gwrandwch ar y rheolau a’r canllawiau dw i’n eu rhoi i chi heddiw. Dw i eisiau i chi eu dysgu nhw, a’u cadw nhw. “Roedd yr ARGLWYDD ein Duw wedi gwneud ymrwymiad gyda ni wrth fynydd Sinai. Gwnaeth hynny nid yn unig gyda’n rhieni, ond gyda ni sy’n fyw yma heddiw. Siaradodd Duw gyda ni wyneb yn wyneb, o ganol y tân ar y mynydd. (Fi oedd yn sefyll yn y canol rhyngoch chi a’r ARGLWYDD, am fod gynnoch chi ofn, a ddim eisiau mynd yn agos at y mynydd. Fi oedd yn dweud wrthoch chi beth oedd neges yr ARGLWYDD.) A dyma ddwedodd e: ‘Fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi’n gaethweision. Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi. Paid cerfio eilun i’w addoli – dim byd sy’n edrych fel unrhyw aderyn, anifail na physgodyn. Paid plygu i lawr a’u haddoli nhw. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus. Dw i’n cosbi pechodau’r rhieni sy’n fy nghasáu i, ac mae’r canlyniadau’n gadael eu hôl ar y plant am dair i bedair cenhedlaeth. Ond dw i’n dangos cariad di-droi’n-ôl, am fil o genedlaethau, at y rhai sy’n fy ngharu i ac yn gwneud beth dw i’n ddweud. Paid camddefnyddio enw’r ARGLWYDD dy Dduw. Fydda i ddim yn gadael i rywun sy’n camddefnyddio fy enw ddianc rhag cael ei gosbi. Cadw’r dydd Saboth yn sbesial, yn ddiwrnod cysegredig, gwahanol i’r lleill, fel mae’r ARGLWYDD dy Dduw wedi gorchymyn i ti. Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall, a gwneud popeth sydd angen ei wneud. Mae’r seithfed diwrnod i’w gadw yn Saboth i’r ARGLWYDD. Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma – ti na dy feibion a dy ferched, dy weision na dy forynion chwaith; dim hyd yn oed dy ych a dy asyn, nac unrhyw anifail arall; nac unrhyw fewnfudwr sy’n aros gyda ti. Mae’r gwas a’r forwyn i gael gorffwys fel ti dy hun. Cofia dy fod ti wedi bod yn gaethwas yn yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD dy Dduw wedi defnyddio’i nerth rhyfeddol i dy achub di oddi yno; Dyna pam mae’r ARGLWYDD dy Dduw wedi gorchymyn i ti gadw’r dydd Saboth yn sbesial. Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam, a byddi’n byw yn hir yn y wlad mae’r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti. Paid llofruddio. Paid godinebu. Paid dwyn. Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun. Paid chwennych gwraig rhywun arall. Paid chwennych ei dŷ na’i dir, na’i was, na’i forwyn, na’i darw, na’i asyn, na dim byd sydd gan rywun arall.’

Deuteronomium 5:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Galwodd Moses ar Israel gyfan, a dywedodd wrthynt: O Israel, gwrandewch ar y deddfau a'r cyfreithiau yr wyf yn eu llefaru yn eich clyw heddiw. Dysgwch hwy, a gofalwch eu gweithredu. Gwnaeth yr ARGLWYDD ein Duw gyfamod â ni yn Horeb. Nid â'n hynafiaid y gwnaeth yr ARGLWYDD y cyfamod hwn, ond â ni i gyd sy'n fyw yma heddiw. Llefarodd yr ARGLWYDD wyneb yn wyneb â chwi ar y mynydd o ganol y tân. Yr adeg honno yr oeddwn i yn sefyll rhwng yr ARGLWYDD a chwi i fynegi i chwi air yr ARGLWYDD, oherwydd yr oeddech chwi yn ofni'r tân, ac nid aethoch i fyny i'r mynydd. Dyma a ddywedodd: “Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th arweiniodd allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed. “Na chymer dduwiau eraill ar wahân i mi. “Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na'r ddaear isod nac yn y dŵr o dan y ddaear; nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu, ond yn dangos trugaredd i filoedd o'r rhai sy'n fy ngharu ac yn cadw fy ngorchmynion. “Na chymer enw'r ARGLWYDD dy Dduw yn ofer, oherwydd ni fydd yr ARGLWYDD yn ystyried yn ddieuog y sawl sy'n cymryd ei enw'n ofer. “Cadw'r dydd Saboth yn gysegredig, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti. Chwe diwrnod yr wyt i weithio a gwneud dy holl waith, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth yr ARGLWYDD dy Dduw; na wna ddim gwaith y dydd hwnnw, ti na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th ych, na'th asyn, nac un o'th anifeiliaid, na'r estron sydd o fewn dy byrth, er mwyn i'th was a'th forwyn gael gorffwys fel ti dy hun. Cofia iti fod yn gaethwas yng ngwlad yr Aifft, ac i'r ARGLWYDD dy Dduw dy arwain allan oddi yno â llaw gadarn a braich estynedig; am hyn y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti gadw'r dydd Saboth. “Anrhydedda dy dad a'th fam, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti, er mwyn amlhau dy ddyddiau ac fel y bydd yn dda arnat yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti. “Na ladd. “Na odineba. “Na ladrata. “Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gymydog. “Na chwennych wraig dy gymydog, na dymuno cael tŷ dy gymydog, na'i dir, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i asyn, na dim sy'n eiddo i'th gymydog.”

Deuteronomium 5:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A Moses a alwodd holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Clyw, O Israel, y deddfau a’r barnedigaethau yr ydwyf yn eu llefaru lle y clywoch heddiw; fel y byddo i chwi eu dysgu, a’u cadw, a’u gwneuthur. Yr ARGLWYDD ein DUW a wnaeth gyfamod â ni yn Horeb. Nid â’n tadau ni y gwnaeth yr ARGLWYDD y cyfamod hwn, ond â nyni; nyni, y rhai ydym yn fyw bob un yma heddiw. Wyneb yn wyneb yr ymddiddanodd yr ARGLWYDD â chwi yn y mynydd, o ganol y tân, (Myfi oeddwn yr amser hwnnw yn sefyll rhwng yr ARGLWYDD a chwi, i fynegi i chwi air yr ARGLWYDD: canys ofni a wnaethoch rhag y tân, ac nid esgynnech i’r mynydd,) gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD dy DDUW ydwyf fi, yr hwn a’th ddug allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed. Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i. Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd oddi uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear oddi isod, nac a’r y sydd yn y dyfroedd oddi tan y ddaear: Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr ARGLWYDD dy DDUW ydwyf DDUW eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt; Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchmynion. Na chymer enw yr ARGLWYDD dy DDUW yn ofer: canys nid dieuog gan yr ARGLWYDD yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer. Cadw y dydd Saboth i’w sancteiddio ef, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: Ond y seithfed dydd yw Saboth yr ARGLWYDD dy DDUW: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th was, na’th forwyn, na’th ych, na’th asyn, nac yr un o’th anifeiliaid, na’th ddieithr-ddyn yr hwn fyddo o fewn dy byrth; fel y gorffwyso dy was a’th forwyn, fel ti dy hun. A chofia mai gwas a fuost ti yng ngwlad yr Aifft, a’th ddwyn o’r ARGLWYDD dy DDUW allan oddi yno â llaw gadarn, ac â braich estynedig: am hynny y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti gadw dydd y Saboth. Anrhydedda dy dad a’th fam, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti; fel yr estynner dy ddyddiau, ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaear yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti. Na ladd. Ac na wna odineb. Ac na ladrata. Ac na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog. Ac na chwennych wraig dy gymydog ac na chwennych dŷ dy gymydog, na’i faes, na’i was, na’i forwyn, na’i ych, na’i asyn, na dim a’r y sydd eiddo dy gymydog.