Dyma Moses yn galw pobl Israel at ei gilydd ac yn dweud wrthyn nhw: “Israel, gwrandwch ar y rheolau a’r canllawiau dw i’n eu rhoi i chi heddiw. Dw i eisiau i chi eu dysgu nhw, a’u cadw nhw.
“Roedd yr ARGLWYDD ein Duw wedi gwneud ymrwymiad gyda ni wrth fynydd Sinai. Gwnaeth hynny nid yn unig gyda’n rhieni, ond gyda ni sy’n fyw yma heddiw. Siaradodd Duw gyda ni wyneb yn wyneb, o ganol y tân ar y mynydd. (Fi oedd yn sefyll yn y canol rhyngoch chi a’r ARGLWYDD, am fod gynnoch chi ofn, a ddim eisiau mynd yn agos at y mynydd. Fi oedd yn dweud wrthoch chi beth oedd neges yr ARGLWYDD.) A dyma ddwedodd e:
‘Fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi.
Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft,
lle roeddech chi’n gaethweision.
Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi.
Paid cerfio eilun i’w addoli –
dim byd sy’n edrych fel unrhyw aderyn, anifail na physgodyn.
Paid plygu i lawr a’u haddoli nhw.
Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus.
Dw i’n cosbi pechodau’r rhieni sy’n fy nghasáu i,
ac mae’r canlyniadau’n gadael eu hôl ar y plant am dair i bedair cenhedlaeth.
Ond dw i’n dangos cariad di-droi’n-ôl, am fil o genedlaethau,
at y rhai sy’n fy ngharu i ac yn gwneud beth dw i’n ddweud.
Paid camddefnyddio enw’r ARGLWYDD dy Dduw.
Fydda i ddim yn gadael i rywun sy’n camddefnyddio fy enw ddianc rhag cael ei gosbi.
Cadw’r dydd Saboth yn sbesial,
yn ddiwrnod cysegredig, gwahanol i’r lleill,
fel mae’r ARGLWYDD dy Dduw wedi gorchymyn i ti.
Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall, a gwneud popeth sydd angen ei wneud.
Mae’r seithfed diwrnod i’w gadw yn Saboth i’r ARGLWYDD.
Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma –
ti na dy feibion a dy ferched, dy weision na dy forynion chwaith;
dim hyd yn oed dy ych a dy asyn, nac unrhyw anifail arall;
nac unrhyw fewnfudwr sy’n aros gyda ti.
Mae’r gwas a’r forwyn i gael gorffwys fel ti dy hun.
Cofia dy fod ti wedi bod yn gaethwas yn yr Aifft,
a bod yr ARGLWYDD dy Dduw wedi defnyddio’i nerth rhyfeddol i dy achub di oddi yno;
Dyna pam mae’r ARGLWYDD dy Dduw wedi gorchymyn i ti gadw’r dydd Saboth yn sbesial.
Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam,
a byddi’n byw yn hir yn y wlad mae’r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti.
Paid llofruddio.
Paid godinebu.
Paid dwyn.
Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun.
Paid chwennych gwraig rhywun arall.
Paid chwennych ei dŷ na’i dir,
na’i was, na’i forwyn, na’i darw, na’i asyn,
na dim byd sydd gan rywun arall.’