Deuteronomium 32:34-43
Deuteronomium 32:34-43 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“Onid ydw i’n cofio’r cwbl?” meddai’r ARGLWYDD, “Onid ydw i wedi’i gadw dan glo yn fy stordai? Fi sy’n dial, ac yn talu nôl. Byddan nhw’n llithro – mae trychineb ar fin digwydd iddyn nhw, a’r farn sydd i ddod yn rhuthro draw!” Bydd yr ARGLWYDD yn rhyddhau ei bobl, ac yn tosturio wrth ei weision, wrth weld eu bod nhw heb nerth, a bod neb ar ôl, yn gaeth nac yn rhydd. Bydd e’n gofyn, “Ble mae eu duwiau nhw nawr? Ble mae’r graig lle roedden nhw’n ceisio cysgodi – y duwiau wnaeth fwyta eu haberthau gorau, ac yfed gwin yr offrymau o ddiod? Gadewch iddyn nhw godi i’ch helpu chi; gadewch iddyn nhw edrych ar eich ôl chi! Dw i eisiau i chi ddeall mai fi, ie fi ydy e! Does dim duw arall ar wahân i mi. Mae gen i awdurdod i ladd ac i roi bywyd, awdurdod i anafu ac i iacháu, a does neb yn gallu fy stopio! Dw i’n addo ar fy llw, ‘Mor sicr â’m bod i yn byw am byth, dw i’n mynd i hogi fy nghleddyf disglair, a gafael ynddo i gosbi; Dw i’n mynd i ddial ar y gelynion, a thalu’n ôl i’r rhai sy’n fy nghasáu! Bydd fy saethau wedi meddwi ar waed, a’m cleddyf yn darnio cnawd – gwaed y rhai wedi’u lladd a’r caethion, prif arweinwyr y gelyn!’” Llawenhewch, genhedloedd, gyda’i bobl; bydd yn dial am ladd ei weision. Mae’n mynd i ddial ar y gelynion, a gwneud iawn am beth a wnaethon i’w dir ac i’w bobl.
Deuteronomium 32:34-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Onid yw hyn gennyf wrth gefn, wedi ei selio yn fy stôr, mai i mi y perthyn dial a thalu'r pwyth, pan fydd eu troed yn llithro? Yn wir, y mae dydd eu trychineb yn agos, a'u distryw yn brysio atynt. Rhydd yr ARGLWYDD gyfiawnder i'w bobl a bydd yn trugarhau wrth ei weision, pan wêl fod eu nerth wedi darfod, ac nad oes ar ôl na chaeth na rhydd. Yna fe ddywed, “Ble mae eu duwiau, y graig y buont yn ceisio lloches dani, y duwiau oedd yn bwyta braster eu hebyrth ac yn yfed gwin eu diodoffrwm? Bydded iddynt hwy godi a'ch helpu, a bod yn lloches ichwi! Gwelwch yn awr mai myfi, myfi yw Ef, ac nad oes Duw ond myfi. Myfi sy'n lladd, a gwneud yn fyw, myfi sy'n archolli, ac yn iacháu; ni all neb achub o'm gafael i. “Codaf fy llaw tua'r nef, a dweud: Cyn sicred â'm bod yn byw'n dragywydd, os hogaf fy nghleddyf disglair, a chydio ynddo â'm llaw mewn barn, byddaf yn dial ar fy ngwrthwynebwyr ac yn talu'r pwyth i'r rhai sy'n fy nghasáu. Gwnaf fy saethau yn feddw â gwaed, a bydd fy nghleddyf yn bwyta cnawd, sef gwaed y clwyfedig a'r carcharorion, a phennau arweinwyr y gelyn.” Bloeddiwch fawl ei bobl, O genhedloedd, oherwydd y mae'n dial gwaed ei weision! Daw â dial ar ei wrthwynebwyr, ac arbed ei dir a'i bobl ei hun.
Deuteronomium 32:34-43 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Onid yw hyn yng nghudd gyda myfi, wedi ei selio ymysg fy nhrysorau? I mi y perthyn dial, a thalu’r pwyth; mewn pryd y llithr eu troed hwynt: canys agos yw dydd eu trychineb, a phrysuro y mae yr hyn a baratowyd iddynt. Canys yr ARGLWYDD a farna ei bobl, ac a edifarha am ei weision; pan welo ymado o’u nerth, ac nad oes na gwarchaeëdig, na gweddilledig. Ac efe a ddywed, Pa le y mae eu duwiau hwynt, a’r graig yr ymddiriedasant ynddi, Y rhai a fwytasant fraster eu haberthau, ac a yfasant win eu diod-offrwm? codant a chynorthwyant chwi, a byddant loches i chwi. Gwelwch bellach mai myfi, myfi yw efe; ac nad oes duw ond myfi: myfi sydd yn lladd, ac yn bywhau; myfi a archollaf, ac mi a feddyginiaethaf: ac ni bydd a achubo o’m llaw. Canys codaf fy llaw i’r nefoedd, a dywedaf, Mi a fyddaf fyw byth. Os hogaf fy nghleddyf disglair, ac ymaflyd o’m llaw mewn barn; dychwelaf ddial ar fy ngelynion, a thalaf y pwyth i’m caseion. Meddwaf fy saethau â gwaed, (a’m cleddyf a fwyty gig,) â gwaed y lladdedig a’r caeth, o ddechrau dial ar y gelyn. Y cenhedloedd, llawenhewch gyda’i bobl ef: canys efe a ddial waed ei weision, ac a ddychwel ddial ar ei elynion, ac a drugarha wrth ei dir a’i bobl ei hun.