Deuteronomium 22:20-24
Deuteronomium 22:20-24 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“Ond os ydy’r cyhuddiad yn cael ei brofi’n wir, a’r ferch ifanc ddim yn wyryf, rhaid i ddynion y dref fynd â’r ferch at ddrws tŷ ei thad, a’i lladd drwy daflu cerrig ati. Roedd hi wedi actio fel putain pan oedd hi’n dal i fyw gyda’i rhieni – peth gwarthus i’w wneud yn Israel! Rhaid i chi gael gwared â’r drwg o’ch plith. “Os ydy dyn yn cael ei ddal yn cael rhyw gyda gwraig rhywun arall, rhaid i’r ddau ohonyn nhw farw. Rhaid cael gwared â’r drwg o Israel. “Os ydy merch, sy’n wyryf ac wedi’i dyweddïo, yn cyfarfod dyn arall yn y dref ac yn cael rhyw gydag e, rhaid mynd â’r ddau ohonyn nhw i’r llys wrth giât y dref a’u lladd nhw drwy daflu cerrig atyn nhw. Mae’r ferch ifanc yn euog am ei bod hi heb weiddi am help, er fod y peth wedi digwydd yn y dref. Ac mae’r dyn i gael ei gosbi am dreisio dyweddi dyn arall. Rhaid cael gwared â’r drwg o’ch plith!
Deuteronomium 22:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond os yw'r cyhuddiad yn wir, ac os na chafwyd prawf o wyryfdod yr eneth, yna dônt â hi i ddrws tŷ ei thad; ac y mae gwŷr ei thref i'w llabyddio'n gelain â cherrig, am iddi weithredu'n ysgeler yn Israel, trwy buteinio yn nhŷ ei thad. Felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg. Os ceir dyn yn gorwedd gyda gwraig briod, y mae'r ddau i farw, sef y dyn oedd yn gorwedd gyda'r wraig yn ogystal â'r wraig. Felly y byddi'n dileu'r drwg allan o Israel. Os bydd dyn yn taro ar eneth sy'n wyryf ac wedi ei dyweddïo i ŵr, ac yn gorwedd gyda hi o fewn y dref, yna dewch â'r ddau allan at borth y dref a'u llabyddio'n gelain â cherrig—yr eneth am na waeddodd, a hithau yn y dref, a'r dyn am iddo dreisio gwraig ei gymydog. Felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg.
Deuteronomium 22:20-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond os gwir fydd y peth, ac na chafwyd arwyddion morwyndod yn y llances: Yna y dygant y llances at ddrws tŷ ei thad, a dynion ei dinas a’i llabyddiant hi â meini, oni byddo farw; am iddi wneuthur ffolineb yn Israel, gan buteinio yn nhŷ ei thad: a thi a dynni ymaith y drwg o’th fysg. O cheffir gŵr yn gorwedd gyda gwraig briodol â gŵr; byddant feirw ill dau, sef y gŵr a orweddodd gyda’r wraig, a’r wraig hefyd: felly y tynni ymaith ddrwg o Israel. O bydd llances o forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr, a chael o ŵr hi mewn dinas, a gorwedd gyda hi; Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno, ac a’u llabyddiwch hwynt â meini, fel y byddont feirw: y llances, oblegid na waeddodd, a hithau yn y ddinas; a’r gŵr, oherwydd iddo ddarostwng gwraig ei gymydog: felly ti a dynni ymaith y drygioni o’th fysg.