Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 22

22
1Os gweli ych neu ddafad sy'n eiddo i un o'th gymrodyr yn crwydro, paid â'i hanwybyddu, ond gofala ei dychwelyd iddo. 2Os nad yw'r perchennog yn byw yn d'ymyl, na thithau'n gwybod pwy yw, dos â'r anifail adref a chadw ef nes y daw ei berchennog i chwilio amdano; yna rho ef yn ei ôl. 3Gwna'r un modd os doi o hyd i'w asyn, neu ei glogyn neu unrhyw beth arall a gollir gan un o'th gymrodyr; ni elli ei anwybyddu.
4Os gweli asyn neu ych un o'th gymrodyr wedi cwympo ar y ffordd, nid wyt i'w anwybyddu; gofala roi help iddo i'w godi.
5Nid yw gwraig i wisgo dillad dyn, na dyn i wisgo dillad gwraig; oherwydd y mae pob un sy'n gwneud hyn yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy Dduw.
6Os digwydd iti ar dy ffordd daro ar nyth aderyn a chywion neu wyau ynddi, p'run ai mewn llwyn neu ar y llawr, a'r iâr yn gori ar y cywion neu'r wyau, nid wyt i gymryd yr iâr a'r rhai bach. 7Gad i'r iâr fynd, a chymer y rhai bach i ti dy hun, er mwyn iddi fod yn dda iti, ac iti estyn dy ddyddiau.
8Pan fyddi'n adeiladu tŷ newydd, gwna ganllaw o amgylch y to, rhag i'th dŷ fod yn achos marwolaeth, petai rhywun yn syrthio oddi arno.
9Nid wyt i hau hadau gwahanol yn dy winllan, rhag i'r cwbl gael ei fforffedu i'r cysegr, sef yr had a heuaist a chynnyrch y winllan hefyd.
10Nid wyt i aredig gydag ych ac asyn ynghyd.
11Nid wyt i wisgo dilledyn o frethyn cymysg o wlân a llin.
12Gwna iti blethau ar bedair congl y clogyn y byddi'n ei wisgo.
Deddfau ynglŷn â Phurdeb Rhywiol
13Bwriwch fod dyn yn cymryd gwraig, ac yna wedi iddo gael cyfathrach â hi, yn ei chasáu, 14yn rhoi gair drwg iddi, ac yn pardduo'i chymeriad a dweud, “Priodais y ddynes hon, ond pan euthum ati ni chefais brawf o'i gwyryfdod.” 15Os felly, fe gymer tad a mam yr eneth brawf gwyryfdod yr eneth a'i ddangos i'r henuriaid ym mhorth y dref; 16ac fe ddywed tad yr eneth wrth yr henuriaid, “Rhoddais fy merch i'r dyn hwn yn wraig, ond y mae'n ei chasáu, 17a dyma ef yn rhoi gair drwg iddi ac yn dweud na chafodd brawf o'i gwyryfdod. Dyma brawf o wyryfdod fy merch.” Yna lledant y dilledyn gerbron henuriaid y dref, 18a byddant hwythau yn cymryd y dyn ac yn ei gosbi. 19Rhoddant arno ddirwy o gan sicl arian, i'w rhoi i dad yr eneth, am iddo bardduo cymeriad gwyryf o Israel; a bydd hi'n wraig iddo, ac ni all ei hysgaru tra bydd byw. 20Ond os yw'r cyhuddiad yn wir, ac os na chafwyd prawf o wyryfdod yr eneth, 21yna dônt â hi i ddrws tŷ ei thad; ac y mae gwŷr ei thref i'w llabyddio'n gelain â cherrig, am iddi weithredu'n ysgeler yn Israel, trwy buteinio yn nhŷ ei thad. Felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg.
22Os ceir dyn yn gorwedd gyda gwraig briod, y mae'r ddau i farw, sef y dyn oedd yn gorwedd gyda'r wraig yn ogystal â'r wraig. Felly y byddi'n dileu'r drwg allan o Israel.
23Os bydd dyn yn taro ar eneth sy'n wyryf ac wedi ei dyweddïo i ŵr, ac yn gorwedd gyda hi o fewn y dref, 24yna dewch â'r ddau allan at borth y dref a'u llabyddio'n gelain â cherrig—yr eneth am na waeddodd, a hithau yn y dref, a'r dyn am iddo dreisio gwraig ei gymydog. Felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg. 25Ond os bydd y dyn wedi taro ar yr eneth a ddyweddïwyd allan yn y wlad, a'i threchu a gorwedd gyda hi, yna y dyn a orweddodd gyda hi yn unig sydd i farw. 26Nid wyt i wneud dim i'r eneth, oherwydd ni wnaeth hi ddim i haeddu marw; y mae'r achos yma yr un fath â rhywun yn codi yn erbyn un arall ac yn ei lofruddio. 27Allan yn y wlad y trawodd y dyn arni, ac er i'r eneth a ddyweddïwyd weiddi, nid oedd neb i'w harbed.
28Os bydd dyn yn taro ar wyryf nad yw wedi ei dyweddïo, ac yn gafael ynddi a gorwedd gyda hi, a hwythau'n cael eu dal, 29yna y mae'r dyn a orweddodd gyda hi i roi hanner can sicl o arian i dad yr eneth, a rhaid iddo'i phriodi am iddo ei threisio; ni all ei hysgaru tra bydd byw.
30 # 22:30 Hebraeg, 23:1. Nid yw dyn i briodi gwraig i'w dad, rhag iddo ddwyn gwarth ar ei dad.

Dewis Presennol:

Deuteronomium 22: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd