Deuteronomium 17:18-20
Deuteronomium 17:18-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Yna, pan fydd e’n cael ei orseddu, bydd yn derbyn sgrôl, copi o’r Gyfraith, gan yr offeiriaid o lwyth Lefi. Mae’n bwysig ei fod yn cadw’r sgrôl wrth law bob amser, ac yn ei darllen yn rheolaidd ar hyd ei fywyd. Wedyn bydd yn parchu’r ARGLWYDD ei Dduw, ac yn gwneud popeth mae’r gyfraith yn ei ddweud, a dilyn ei chanllawiau. Wrth wneud hynny, fydd e ddim yn meddwl ei fod yn well na’i gyd-Israeliaid, nac yn crwydro oddi wrth y cyfarwyddiadau dw i wedi’u rhoi. A bydd e a’i ddisgynyddion yn cael teyrnasu am hir dros wlad Israel.
Deuteronomium 17:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaw i eistedd ar orsedd ei deyrnas, y mae i arwyddo copi iddo'i hun o'r gyfraith hon mewn llyfr yng ngŵydd yr offeiriaid o Lefiaid. A bydd hwnnw ganddo i'w ddarllen holl ddyddiau ei fywyd, er mwyn iddo ddysgu ofni'r ARGLWYDD ei Dduw a chadw holl eiriau'r gyfraith hon, a gwneud yn ôl y rheolau hyn, rhag iddo ei ystyried ei hun yn uwch na'i gymrodyr, neu rhag iddo wyro i'r dde nac i'r chwith oddi wrth y gorchymyn, ac er mwyn iddo estyn dyddiau ei frenhiniaeth yn Israel iddo'i hun a'i ddisgynyddion.
Deuteronomium 17:18-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan eisteddo ar deyrngadair ei frenhiniaeth, ysgrifenned iddo gopi o’r gyfraith hon mewn llyfr, allan o’r hwn sydd gerbron yr offeiriaid y Lefiaid. A bydded gydag ef, a darllened arno holl ddyddiau ei fywyd: fel y dysgo ofni yr ARGLWYDD ei DDUW, i gadw holl eiriau y gyfraith hon, a’r deddfau hyn, i’w gwneuthur hwynt: Fel na ddyrchafo ei galon uwchlaw ei frodyr, ac na chilio oddi wrth y gorchymyn, i’r tu deau nac i’r tu aswy: fel yr estynno ddyddiau yn ei frenhiniaeth efe a’i feibion yng nghanol Israel.