Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 17

17
1“Peidiwch aberthu anifail sydd â rhywbeth o’i le arno. Mae gwneud peth felly yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
Sut i farnu rhywun sy’n addoli duwiau eraill
2“Os ydych chi’n clywed fod dyn neu ddynes yn un o’ch trefi yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw drwy dorri amodau’r ymrwymiad 3– gwneud pethau dw i wedi dweud wrthoch chi am beidio’u gwneud, fel addoli duwiau eraill, neu addoli’r haul, y lleuad neu’r sêr – 4rhaid i chi ymchwilio’n fanwl i’r mater. Wedyn, os ydy e’n troi allan i fod yn wir fod peth erchyll fel yna yn bendant wedi digwydd yn Israel, 5rhaid i’r person sydd wedi gwneud y drwg gael ei ddedfrydu gan y llys wrth giatiau’r dref. Yna bydd yn cael ei ladd drwy daflu cerrig ato. 6Ond rhaid cael dau neu dri o bobl i roi tystiolaeth yn ei erbyn. Dydy gair un tyst ddim yn ddigon i’w brofi’n euog. 7A’r tystion sydd i ddechrau’r dienyddiad, a phawb arall yn eu dilyn. Rhaid cael gwared â’r drwg o’ch plith.
Achosion anodd
8“Os ydy rhyw achos yn y dref yn rhy anodd i’w farnu – achos o ladd, unrhyw achos cyfreithiol neu ymosodiad – yna ewch â’r achos i’r lle mae’r ARGLWYDD wedi’i ddewis. 9Ewch i weld yr offeiriaid o lwyth Lefi a’r un sy’n farnwr bryd hynny, a byddan nhw’n penderfynu beth ydy’r ddedfryd. 10-12A rhaid i chi wneud yn union fel maen nhw’n dweud. Os na wnewch chi fel maen nhw’n dweud, bydd rhaid i chi farw. Rhaid cael gwared â’r drwg o’ch plith. 13Wedyn bydd pobl yn clywed beth ddigwyddodd ac yn dychryn, a fydd neb yn meiddio gwrthryfela felly eto.
Brenin yn cael ei ddewis gan Dduw
14“Ar ôl i chi goncro’r tir mae’r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi, a setlo i lawr i fyw yno, byddwch yn penderfynu eich bod eisiau brenin, yr un fath â’r gwledydd o’ch cwmpas chi. 15Dim ond yr un mae’r ARGLWYDD yn ei ddewis sydd i fod yn frenin. A rhaid iddo fod yn un o bobl Israel – peidiwch dewis rhywun o’r tu allan, sydd ddim yn Israeliad. 16Rhaid iddo beidio casglu lot o geffylau rhyfel iddo’i hun, na gadael i bobl fynd i’r Aifft i nôl rhai. Mae’r ARGLWYDD wedi dweud wrthoch chi am beidio mynd yn ôl yno. 17Rhaid i’r brenin beidio cymryd lot o wragedd iddo’i hun, rhag iddyn nhw ei demtio i droi cefn arna i. A rhaid iddo beidio hel cyfoeth iddo’i hun – arian ac aur.
18“Yna, pan fydd e’n cael ei orseddu, bydd yn derbyn sgrôl, copi o’r Gyfraith, gan yr offeiriaid o lwyth Lefi. 19Mae’n bwysig ei fod yn cadw’r sgrôl wrth law bob amser, ac yn ei darllen yn rheolaidd ar hyd ei fywyd. Wedyn bydd yn parchu’r ARGLWYDD ei Dduw, ac yn gwneud popeth mae’r gyfraith yn ei ddweud, a dilyn ei chanllawiau. 20Wrth wneud hynny, fydd e ddim yn meddwl ei fod yn well na’i gyd-Israeliaid, nac yn crwydro oddi wrth y cyfarwyddiadau dw i wedi’u rhoi. A bydd e a’i ddisgynyddion yn cael teyrnasu am hir dros wlad Israel.

Dewis Presennol:

Deuteronomium 17: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda