Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Daniel 4:1-37

Daniel 4:1-37 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Y brenin Nebwchadnesar, at y bobl i gyd, o bob gwlad ac iaith – pawb drwy’r byd: Heddwch a llwyddiant i chi i gyd! Dw i eisiau dweud wrthoch chi am y ffordd wyrthiol mae’r Duw Goruchaf wedi dangos ei hun i mi. Mae’r arwyddion mae’n eu rhoi yn rhyfeddol! Mae ei wyrthiau yn syfrdanol! Fe ydy’r un sy’n teyrnasu am byth, ac yn rheoli popeth o un genhedlaeth i’r llall! Roeddwn i, Nebwchadnesar, yn byw’n foethus ac yn ymlacio adre yn y palas. Ond un noson ces i freuddwyd wnaeth fy nychryn i go iawn. Roedd beth welais i yn hunllef ddychrynllyd. Felly dyma fi’n gorchymyn fod dynion doeth Babilon i gyd i gael eu galw, er mwyn iddyn nhw ddweud wrtho i beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd. Dyma’r dewiniaid, y swynwyr, y dynion doeth a’r consurwyr i gyd yn dod, a dyma fi’n dweud wrthyn nhw beth oedd y freuddwyd. Ond doedden nhw ddim yn gallu dweud wrtho i beth oedd hi’n ei olygu. Ond wedyn dyma Daniel yn dod (yr un gafodd ei alw’n Belteshasar, ar ôl y duw roeddwn i’n ei addoli) – mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo fe. A dyma fi’n dweud wrtho yntau beth oedd y freuddwyd. “Belteshasar. Ti ydy’r prif swynwr. Dw i’n gwybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, a does run dirgelwch yn peri penbleth i ti. Dw i eisiau i ti ddweud beth ydy ystyr y freuddwyd yma. Dyma beth welais i yn y freuddwyd: Rôn i’n gweld coeden fawr yng nghanol y ddaear – roedd hi’n anhygoel o dal. Roedd y goeden yn tyfu’n fawr ac yn gref. Roedd y goeden yn ymestyn mor uchel i’r awyr roedd i’w gweld o bobman drwy’r byd i gyd. Roedd ei dail yn hardd, ac roedd digonedd o ffrwyth arni – digon o fwyd i bawb! Roedd anifeiliaid gwyllt yn cysgodi dani, ac adar yn nythu yn ei brigau. Roedd popeth byw yn cael eu bwyd oddi arni. “Tra rôn i’n gweld hyn yn y freuddwyd, dyma angel sanctaidd yn dod i lawr o’r nefoedd. Dyma fe’n gweiddi’n uchel, ‘Torrwch y goeden i lawr, a thorri ei changhennau i ffwrdd! Tynnwch ei dail a chwalu ei ffrwyth! Gyrrwch yr anifeiliaid i ffwrdd, a heliwch yr adar o’i brigau! Ond gadewch y boncyff a’r gwreiddiau yn y ddaear, gyda rhwymyn o haearn a phres amdano. Bydd y gwlith yn ei wlychu gyda’r glaswellt o’i gwmpas; a bydd yn bwyta planhigion gwyllt gyda’r anifeiliaid. Bydd yn sâl yn feddyliol ac yn meddwl ei fod yn anifail. Bydd yn aros felly am amser hir. Mae’r angylion wedi cyhoeddi hyn, a’r rhai sanctaidd wedi rhoi’r ddedfryd! “‘Y bwriad ydy fod pob person byw i ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau’r byd. Mae’n gallu eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau, hyd yn oed y person mwyaf di-nod.’ Dyna’r freuddwyd ges i,” meddai Nebwchadnesar. “Dw i eisiau i ti, Belteshasar, ddweud beth mae’n ei olygu. Does neb arall o ddynion doeth y deyrnas wedi gallu esbonio’r ystyr i mi. Ond dw i’n siŵr y byddi di’n gallu, am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti.” Roedd Daniel (oedd hefyd yn cael ei alw’n Belteshasar) dan deimlad am beth amser. Roedd beth oedd yn mynd drwy ei feddwl yn ei ddychryn. Ond dyma’r brenin yn dweud wrtho, “Belteshasar, paid poeni. Paid gadael i’r freuddwyd dy ddychryn di.” Ac meddai Belteshasar, “Meistr, o na fyddai’r freuddwyd wedi’i rhoi i’ch gelynion chi, a’i hystyr ar gyfer y rhai sy’n eich casáu chi! Y goeden welsoch chi’n tyfu’n fawr ac yn gref, yn ymestyn mor uchel i’r awyr nes ei bod i’w gweld o bobman drwy’r byd i gyd – yr un gyda dail hardd a digonedd o ffrwyth arni, a’r anifeiliaid gwyllt yn cysgodi dani, a’r adar yn nythu yn ei brigau – chi ydy’r goeden yna, eich mawrhydi. Dych chi’n frenin mawr a chryf. Dych chi mor fawr, mae’ch awdurdod chi dros y byd i gyd. Ond wedyn dyma chi’n gweld angel yn dod i lawr o’r nefoedd, ac yn dweud, ‘Torrwch y goeden i lawr, a’i dinistrio, ond gadewch y boncyff yn y ddaear gyda rhwymyn o haearn a phres amdano. Fel y glaswellt o’i gwmpas, bydd y gwlith yn ei wlychu, a bydd yn byw gyda’r anifeiliaid gwyllt am amser hir.’ Dyma ystyr y freuddwyd, eich mawrhydi: Mae’r Duw Goruchaf wedi penderfynu mai dyma sy’n mynd i ddigwydd i’m meistr, y brenin. Byddwch chi’n cael eich cymryd allan o gymdeithas, ac yn byw gyda’r anifeiliaid gwyllt. Byddwch chi’n bwyta glaswellt fel ychen, ac allan yn yr awyr agored yn cael eich gwlychu gan wlith. Bydd amser hir yn mynd heibio, nes i chi ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau’r byd, ac yn eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau. Ond fel y boncyff a’r gwreiddiau yn cael eu gadael, byddwch chi’n cael eich teyrnas yn ôl pan fyddwch chi’n cydnabod fod yr Un nefol yn rheoli’r cwbl. Felly plîs ga i roi cyngor i chi, eich mawrhydi. Trowch gefn ar eich pechod, a gwneud y peth iawn. Stopiwch wneud pethau drwg, a dechrau bod yn garedig at bobl dlawd. Falle, wedyn, y cewch chi ddal i fod yn llwyddiannus.” Ond digwyddodd y cwbl i Nebwchadnesar. Flwyddyn yn ddiweddarach pan oedd yn cerdded ar do ei balas brenhinol yn Babilon, dwedodd fel yma: “Edrychwch ar Babilon, y ddinas wych yma! Fi sydd wedi adeiladu’r cwbl, yn ganolfan frenhinol i ddangos mor bwerus ac mor fawr ydw i.” Doedd y brenin ddim wedi gorffen ei frawddeg pan glywodd lais o’r nefoedd yn dweud: “Dyma sy’n cael ei ddweud wrthot ti, y Brenin Nebwchadnesar: mae dy deyrnas wedi’i chymryd oddi arnat ti! Byddi’n cael dy gymryd allan o gymdeithas, yn byw gyda’r anifeiliaid gwyllt, ac yn bwyta glaswellt fel ychen. Bydd amser hir yn mynd heibio cyn i ti ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau’r byd, ac yn eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau.” A dyna ddigwyddodd yn syth wedyn. Daeth beth gafodd ei ddweud am Nebwchadnesar yn wir. Cafodd ei gymryd allan o gymdeithas. Dechreuodd fwyta glaswellt, fel ychen. Roedd ei gorff yn cael ei wlychu gan wlith yn yr awyr agored, nes bod ei wallt wedi tyfu fel plu eryr, a’i ewinedd fel crafangau aderyn. “Ond yn y diwedd, dyma fi, Nebwchadnesar, yn troi at yr Un nefol, a ches fy iacháu yn feddyliol. Dechreuais foli y Duw Goruchaf, ac addoli’r Un sy’n byw am byth. Mae ei awdurdod yn para am byth, ac mae’n teyrnasu o un genhedlaeth i’r llall. Dydy pobl y byd i gyd yn ddim o’i gymharu ag e. Mae’n gwneud beth mae ei eisiau gyda’r grymoedd nefol, a phobl ar y ddaear. Does neb yn gallu ei stopio na’i herio drwy ddweud, ‘Beth wyt ti’n wneud?’ “Pan ges i fy iacháu, ces fynd yn ôl i fod yn frenin, gydag anrhydedd ac ysblander. Daeth gweinidogion y llywodraeth a’r uchel-swyddogion i gyd i’m gwneud yn frenin unwaith eto. Roedd gen i fwy o awdurdod nag erioed! A dyna pam dw i’n addoli, ac yn rhoi’r clod a’r anrhydedd i gyd i Frenin y nefoedd, sydd bob amser yn gwneud beth sy’n iawn ac yn deg. Mae’n rhoi’r rhai balch yn eu lle!”

Daniel 4:1-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

“Y Brenin Nebuchadnesar at yr holl bobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd trwy'r byd i gyd. Bydded heddwch i chwi! Dewisais ddadlennu'r arwyddion a'r rhyfeddodau a wnaeth y Duw Goruchaf â mi. Mor fawr yw ei arwyddion ef, mor nerthol ei ryfeddodau! Y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol, a'i arglwyddiaeth o genhedlaeth i genhedlaeth. “Yr oeddwn i, Nebuchadnesar, yn mwynhau bywyd braf yn fy nhŷ a moethusrwydd yn fy llys. Tra oeddwn ar fy ngwely, cefais freuddwyd a'm dychrynodd, a chynhyrfwyd fi gan fy nychmygion, a chododd fy ngweledigaethau arswyd arnaf. Gorchmynnais ddwyn ataf holl ddoethion Babilon i ddehongli fy mreuddwyd. Pan ddaeth y dewiniaid, y swynwyr, y Caldeaid, a'r hudolwyr, adroddais y freuddwyd wrthynt, ond ni fedrent ei dehongli. Yna daeth un arall ataf, sef Daniel, a elwir Beltesassar ar ôl fy nuw i, dyn yn llawn o ysbryd y duwiau sanctaidd; ac adroddais fy mreuddwyd wrtho: ‘Beltesassar fy mhrif ddewin, gwn fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ac nad oes dirgelwch sy'n rhy anodd i ti; gwrando ar y freuddwyd a welais, a mynega'i dehongliad.’ Dyma fy ngweledigaethau ar fy ngwely: Tra oeddwn yn edrych, gwelais goeden uchel iawn yng nghanol y ddaear. Tyfodd y goeden yn fawr a chryf, a'i huchder yn cyrraedd i'r entrychion; yr oedd i'w gweld o bellteroedd byd. Yr oedd ei dail yn brydferth a'i ffrwyth yn niferus, ac ymborth arni i bopeth byw. Oddi tani câi anifeiliaid loches, a thrigai adar yr awyr yn ei changhennau, a châi pob creadur byw fwyd ohoni. “Tra oeddwn ar fy ngwely, yn edrych ar fy ngweledigaethau, gwelwn wyliwr sanctaidd yn dod i lawr o'r nefoedd, ac yn gweiddi'n uchel, ‘Torrwch y goeden, llifiwch ei changhennau; tynnwch ei dail a gwasgarwch ei ffrwyth. Gwnewch i'r anifeiliaid ffoi o'i chysgod a'r adar o'i changhennau. Ond gadewch y boncyff a'i wraidd yn y ddaear, a chadwyn o haearn a phres amdano yng nghanol y maes. Bydd gwlith y nefoedd yn ei wlychu, a bydd ei le gyda'r anifeiliaid sy'n pori'r ddaear. Newidir y galon ddynol sydd ganddo a rhoir calon anifail iddo yn ei lle. Bydd hyn dros saith cyfnod. Dedfryd y gwylwyr yw hyn, a dyma ddatganiad y rhai sanctaidd, er mwyn i bawb byw wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn, ac yn gosod yr isaf yn ben arnynt.’ “Dyma'r freuddwyd a welais i, y Brenin Nebuchadnesar. Dywed tithau, Beltesassar, beth yw'r dehongliad, oherwydd ni fedr yr un o ddoethion fy nheyrnas ei dehongli imi, ond medri di, am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot.” Aeth Daniel, a enwyd Beltesassar, yn fud am funud, a'i feddwl mewn penbleth. Dywedodd y brenin, “Paid â gadael i'r freuddwyd a'r dehongliad dy boeni, Beltesassar.” Atebodd yntau, “Boed hon yn freuddwyd i'th gaseion, a'i dehongliad i'th elynion. Y goeden a welaist yn tyfu'n fawr a chryf, a'i huchder yn cyrraedd i'r entrychion ac i'w gweld o bellteroedd byd, a'i dail yn brydferth, a'i ffrwyth yn niferus, ac ymborth arni i bopeth, a lloches i anifeiliaid oddi tani, a chartref i adar yr awyr yn ei changhennau— ti, O frenin, yw'r goeden honno. Yr wyt wedi tyfu'n fawr a chryf, a'th fawredd wedi cynyddu ac wedi cyrraedd i'r entrychion, a'th frenhiniaeth yn ymestyn i bellteroedd byd. Fe welaist hefyd, O frenin, wyliwr sanctaidd yn dod i lawr ac yn dweud, ‘Torrwch y goeden a difethwch hi, ond gadewch y boncyff a'i wraidd yn y ddaear, a chadwyn o haearn a phres amdano yng nghanol y maes; bydd gwlith y nefoedd yn ei wlychu, a bydd ei le gyda'r anifeiliaid, hyd nes i saith cyfnod fynd heibio.’ Dyma'r dehongliad, O frenin: Datganiad y Goruchaf ynglŷn â'm harglwydd frenin yw hwn. Cei dy yrru o ŵydd pobl, a bydd dy gartref gyda'r anifeiliaid; byddi'n bwyta gwellt fel ych, a bydd gwlith y nefoedd yn dy wlychu. Bydd saith cyfnod yn mynd heibio, nes iti wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn. Am y gorchymyn i adael boncyff y pren a'i wraidd, bydd dy frenhiniaeth yn sefydlog wedi iti ddeall mai'r nefoedd sy'n teyrnasu. Derbyn fy nghyngor, O frenin: tro oddi wrth dy bechodau trwy wneud cyfiawnder, a'th droseddau trwy wneud trugaredd â'r tlodion, iti gael dyddiau hir o heddwch.” Digwyddodd hyn i gyd i'r Brenin Nebuchadnesar. Ym mhen deuddeng mis, yr oedd y brenin yn cerdded ar do ei balas ym Mabilon, ac meddai, “Onid hon yw Babilon fawr, a godais trwy rym fy nerth yn gartref i'r brenin ac er clod i'm mawrhydi?” Cyn i'r brenin orffen siarad, daeth llais o'r nefoedd, “Dyma neges i ti, O Frenin Nebuchadnesar: Cymerwyd y frenhiniaeth oddi arnat. Cei dy yrru o ŵydd pobl, a bydd dy gartref gyda'r anifeiliaid. Byddi'n bwyta gwellt fel ych, a bydd saith cyfnod yn mynd heibio, nes iti wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn.” Digwyddodd hyn ar unwaith i Nebuchadnesar. Cafodd ei yrru o ŵydd pobl; yr oedd yn bwyta gwellt fel ych, ei gorff yn wlyb gan wlith y nefoedd, ei wallt yn hir fel plu eryr, a'i ewinedd yn hir fel crafangau aderyn. “Ymhen amser, codais i, Nebuchadnesar, fy llygaid i'r nefoedd, ac adferwyd fy synnwyr. Yna bendithiais y Goruchaf, a moli a mawrhau'r un sy'n byw yn dragywydd. Y mae ei arglwyddiaeth yn arglwyddiaeth dragwyddol, a'i frenhiniaeth o genhedlaeth i genhedlaeth. Nid yw neb o drigolion y ddaear yn cyfrif dim; y mae'n gwneud fel y mynno â llu'r nefoedd ac â thrigolion y ddaear. Ni fedr neb ei atal, a gofyn iddo, ‘Beth wyt yn ei wneud?’ Y pryd hwnnw adferwyd fy synnwyr a dychwelodd fy mawrhydi a'm clod, er gogoniant fy mrenhiniaeth. Daeth fy nghynghorwyr a'm tywysogion ataf. Cadarnhawyd fi yn fy nheyrnas, a rhoddwyd llawer mwy o rym i mi. Ac yn awr yr wyf fi, Nebuchadnesar, yn moli, yn mawrhau ac yn clodfori Brenin y Nefoedd, sydd â'i weithredoedd yn gywir a'i ffyrdd yn gyfiawn, ac yn gallu darostwng y balch.”

Daniel 4:1-37 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Nebuchodonosor frenin at yr holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd, y rhai a drigant yn yr holl ddaear; Aml fyddo heddwch i chwi. Mi a welais yn dda fynegi yr arwyddion a’r rhyfeddodau a wnaeth y goruchaf DDUW â mi. Mor fawr yw ei arwyddion ef! ac mor gedyrn yw ei ryfeddodau! ei deyrnas ef sydd deyrnas dragwyddol, a’i lywodraeth ef sydd o genhedlaeth i genhedlaeth. Myfi Nebuchodonosor oeddwn esmwyth arnaf yn fy nhŷ, ac yn hoyw yn fy llys. Gwelais freuddwyd yr hwn a’m hofnodd; meddyliau hefyd yn fy ngwely, a gweledigaethau fy mhen, a’m dychrynasant. Am hynny y gosodwyd gorchymyn gennyf fi, ar ddwyn ger fy mron holl ddoethion Babilon, fel yr hysbysent i mi ddehongliad y breuddwyd. Yna y dewiniaid, yr astronomyddion, y Caldeaid, a’r brudwyr, a ddaethant: a mi a ddywedais y breuddwyd o’u blaen hwynt; ond ei ddehongliad nid hysbysasant i mi. Ond o’r diwedd daeth Daniel o’m blaen i, (yr hwn yw ei enw Beltesassar, yn ôl enw fy nuw i, yr hwn hefyd y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo,) a’m breuddwyd a draethais o’i flaen ef, gan ddywedyd, Beltesassar, pennaeth y dewiniaid, oherwydd i mi wybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, ac nad oes un dirgelwch yn anodd i ti, dywed weledigaethau fy mreuddwyd yr hwn a welais, a’i ddehongliad. A dyma weledigaethau fy mhen ar fy ngwely; Edrych yr oeddwn, ac wele bren yng nghanol y ddaear, a’i uchder yn fawr. Mawr oedd y pren a chadarn, a’i uchder a gyrhaeddai hyd y nefoedd; yr ydoedd hefyd i’w weled hyd yn eithaf yr holl ddaear. Ei ganghennau oedd deg, a’i ffrwyth yn aml, ac ymborth arno i bob peth: dano yr ymgysgodai bwystfilod y maes, ac adar y nefoedd a drigent yn ei ganghennau ef, a phob cnawd a fwytâi ohono. Edrych yr oeddwn yng ngweledigaethau fy mhen ar fy ngwely, ac wele wyliedydd a sanct yn disgyn o’r nefoedd, Yn llefain yn groch, ac yn dywedyd fel hyn, Torrwch y pren, ac ysgythrwch ei wrysg ef, ysgydwch ei ddail ef, a gwasgerwch ei ffrwyth: cilied y bwystfil oddi tano, a’r adar o’i ganghennau. Er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes; gwlycher ef hefyd â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda’r bwystfilod yng ngwellt y ddaear. Newidier ei galon ef o fod yn galon dyn, a rhodder iddo galon bwystfil: a chyfnewidier saith amser arno. O ordinhad y gwyliedyddion y mae y peth hyn, a’r dymuniad wrth ymadrodd y rhai sanctaidd; fel y gwypo y rhai byw mai y Goruchaf a lywodraetha ym mrenhiniaeth dynion, ac a’i rhydd i’r neb y mynno efe, ac a esyd arni y gwaelaf o ddynion. Dyma y breuddwyd a welais i Nebuchodonosor y brenin. Tithau, Beltesassar, dywed ei ddehongliad ef, oherwydd nas gall holl ddoethion fy nheyrnas hysbysu y dehongliad i mi: eithr ti a elli; am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti. Yna Daniel, yr hwn ydoedd ei enw Beltesassar, a synnodd dros un awr, a’i feddyliau a’i dychrynasant ef. Atebodd y brenin, a dywedodd, Beltesassar, na ddychryned y breuddwyd di, na’i ddehongliad. Atebodd Beltesassar, a dywedodd, Fy arglwydd, deued y breuddwyd i’th gaseion, a’i ddehongliad i’th elynion. Y pren a welaist, yr hwn a dyfasai, ac a gryfhasai, ac a gyraeddasai ei uchder hyd y nefoedd, ac oedd i’w weled ar hyd yr holl ddaear; A’i ddail yn deg, a’i ffrwyth yn aml, ac ymborth i bob peth ynddo; tan yr hwn y trigai bwystfilod y maes, ac y preswyliai adar y nefoedd yn ei ganghennau: Ti, frenin, yw efe; tydi a dyfaist, ac a gryfheaist: canys dy fawredd a gynyddodd, ac a gyrhaeddodd hyd y nefoedd, a’th lywodraeth hyd eithaf y ddaear. A lle y gwelodd y brenin wyliedydd a sanct yn disgyn o’r nefoedd, ac yn dywedyd, Torrwch y pren, a dinistriwch ef, er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes, a gwlycher ef â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda bwystfil y maes, hyd oni chyfnewidio saith amser arno ef: Dyma y dehongliad, O frenin, a dyma ordinhad y Goruchaf, yr hwn sydd yn dyfod ar fy arglwydd frenin. Canys gyrrant di oddi wrth ddynion, a chyda bwystfil y maes y bydd dy drigfa, â gwellt hefyd y’th borthant fel eidionau, ac a’th wlychant â gwlith y nefoedd, a saith amser a gyfnewidia arnat ti, hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i’r neb a fynno. A lle y dywedasant am adael boncyff gwraidd y pren; dy frenhiniaeth fydd sicr i ti, wedi i ti wybod mai y nefoedd sydd yn llywodraethu. Am hynny, frenin, bydded fodlon gennyt fy nghyngor, a thor ymaith dy bechodau trwy gyfiawnder, a’th anwireddau trwy drugarhau wrth drueiniaid, i edrych a fydd estyniad ar dy heddwch. Daeth hyn oll ar Nebuchodonosor y brenin. Ymhen deuddeng mis yr oedd efe yn rhodio yn llys brenhiniaeth Babilon. Llefarodd y brenin, a dywedodd, Onid hon yw Babilon fawr, yr hon a adeiledais i yn frenhindy yng nghryfder fy nerth, ac er gogoniant fy mawrhydi? A’r gair eto yng ngenau y brenin, syrthiodd llef o’r nefoedd, yn dywedyd, Wrthyt ti, frenin Nebuchodonosor, y dywedir, Aeth y frenhiniaeth oddi wrthyt. A thi a yrrir oddi wrth ddynion, a’th drigfa fydd gyda bwystfilod y maes; â gwellt y’th borthant fel eidionau; a chyfnewidir saith amser arnat; hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i’r neb y mynno. Yr awr honno y cyflawnwyd y gair ar Nebuchodonosor, ac y gyrrwyd ef oddi wrth ddynion, ac y porodd wellt fel eidionau, ac y gwlychwyd ei gorff ef gan wlith y nefoedd, hyd oni thyfodd ei flew ef fel plu eryrod, a’i ewinedd fel ewinedd adar. Ac yn niwedd y dyddiau, myfi Nebuchodonosor a ddyrchefais fy llygaid tua’r nefoedd, a’m gwybodaeth a ddychwelodd ataf, a bendithiais y Goruchaf, a moliennais a gogoneddais yr hwn sydd yn byw byth, am fod ei lywodraeth ef yn llywodraeth dragwyddol, a’i frenhiniaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth. A holl drigolion y ddaear a gyfrifir megis yn ddiddim: ac yn ôl ei ewyllys ei hun y mae yn gwneuthur â llu y nefoedd, ac â thrigolion y ddaear; ac nid oes a atalio ei law ef, neu a ddywedo wrtho, Beth yr wyt yn ei wneuthur? Yn yr amser hwnnw y dychwelodd fy synnwyr ataf fi, a deuthum i ogoniant fy mrenhiniaeth, fy harddwch a’m hoywder a ddychwelodd ataf fi, a’m cynghoriaid a’m tywysogion a’m ceisiasant; felly y’m sicrhawyd yn fy nheyrnas, a chwanegwyd i mi fawredd rhagorol. Yr awr hon myfi Nebuchodonosor ydwyf yn moliannu, ac yn mawrygu, ac yn gogoneddu Brenin y nefoedd, yr hwn y mae ei holl weithredoedd yn wirionedd, a’i lwybrau yn farn, ac a ddichon ddarostwng y rhai a rodiant mewn balchder.