Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Daniel 4

4
Ail Freuddwyd Nebuchadnesar
1 # 4:1 Aramaeg, 3:31. “Y Brenin Nebuchadnesar at yr holl bobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd trwy'r byd i gyd. Bydded heddwch i chwi! 2Dewisais ddadlennu'r arwyddion a'r rhyfeddodau a wnaeth y Duw Goruchaf â mi.
3Mor fawr yw ei arwyddion ef,
mor nerthol ei ryfeddodau!
Y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol,
a'i arglwyddiaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.
4 # 4:4 Aramaeg, 4:1. “Yr oeddwn i, Nebuchadnesar, yn mwynhau bywyd braf yn fy nhŷ a moethusrwydd yn fy llys. 5Tra oeddwn ar fy ngwely, cefais freuddwyd a'm dychrynodd, a chynhyrfwyd fi gan fy nychmygion, a chododd fy ngweledigaethau arswyd arnaf. 6Gorchmynnais ddwyn ataf holl ddoethion Babilon i ddehongli fy mreuddwyd. 7Pan ddaeth y dewiniaid, y swynwyr, y Caldeaid, a'r hudolwyr, adroddais y freuddwyd wrthynt, ond ni fedrent ei dehongli. 8Yna daeth un arall ataf, sef Daniel, a elwir Beltesassar ar ôl fy nuw i, dyn yn llawn o ysbryd y duwiau sanctaidd; ac adroddais fy mreuddwyd wrtho: 9‘Beltesassar fy mhrif ddewin, gwn fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ac nad oes dirgelwch sy'n rhy anodd i ti; gwrando ar y freuddwyd a welais, a mynega'i dehongliad.’ 10Dyma fy ngweledigaethau ar fy ngwely:
Tra oeddwn yn edrych, gwelais goeden uchel iawn yng nghanol y ddaear.
11Tyfodd y goeden yn fawr a chryf, a'i huchder yn cyrraedd i'r entrychion;
yr oedd i'w gweld o bellteroedd byd.
12Yr oedd ei dail yn brydferth a'i ffrwyth yn niferus,
ac ymborth arni i bopeth byw.
Oddi tani câi anifeiliaid loches,
a thrigai adar yr awyr yn ei changhennau,
a châi pob creadur byw fwyd ohoni.
13“Tra oeddwn ar fy ngwely, yn edrych ar fy ngweledigaethau, gwelwn wyliwr sanctaidd yn dod i lawr o'r nefoedd, 14ac yn gweiddi'n uchel,
‘Torrwch y goeden, llifiwch ei changhennau;
tynnwch ei dail a gwasgarwch ei ffrwyth.
Gwnewch i'r anifeiliaid ffoi o'i chysgod a'r adar o'i changhennau.
15Ond gadewch y boncyff a'i wraidd yn y ddaear,
a chadwyn o haearn a phres amdano yng nghanol y maes.
Bydd gwlith y nefoedd yn ei wlychu,
a bydd ei le gyda'r anifeiliaid sy'n pori'r ddaear.
16Newidir y galon ddynol sydd ganddo
a rhoir calon anifail iddo yn ei lle.
Bydd hyn dros saith cyfnod.
17Dedfryd y gwylwyr yw hyn,
a dyma ddatganiad y rhai sanctaidd,
er mwyn i bawb byw wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn, ac yn gosod yr isaf yn ben arnynt.’
Daniel yn Dehongli'r Freuddwyd
18“Dyma'r freuddwyd a welais i, y Brenin Nebuchadnesar. Dywed tithau, Beltesassar, beth yw'r dehongliad, oherwydd ni fedr yr un o ddoethion fy nheyrnas ei dehongli imi, ond medri di, am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot.” 19Aeth Daniel, a enwyd Beltesassar, yn fud am funud, a'i feddwl mewn penbleth. Dywedodd y brenin, “Paid â gadael i'r freuddwyd a'r dehongliad dy boeni, Beltesassar.” Atebodd yntau, “Boed hon yn freuddwyd i'th gaseion, a'i dehongliad i'th elynion. 20Y goeden a welaist yn tyfu'n fawr a chryf, a'i huchder yn cyrraedd i'r entrychion ac i'w gweld o bellteroedd byd, 21a'i dail yn brydferth, a'i ffrwyth yn niferus, ac ymborth arni i bopeth, a lloches i anifeiliaid oddi tani, a chartref i adar yr awyr yn ei changhennau— 22ti, O frenin, yw'r goeden honno. Yr wyt wedi tyfu'n fawr a chryf, a'th fawredd wedi cynyddu ac wedi cyrraedd i'r entrychion, a'th frenhiniaeth yn ymestyn i bellteroedd byd. 23Fe welaist hefyd, O frenin, wyliwr sanctaidd yn dod i lawr ac yn dweud, ‘Torrwch y goeden a difethwch hi, ond gadewch y boncyff a'i wraidd yn y ddaear, a chadwyn o haearn a phres amdano yng nghanol y maes; bydd gwlith y nefoedd yn ei wlychu, a bydd ei le gyda'r anifeiliaid, hyd nes i saith cyfnod fynd heibio.’ 24Dyma'r dehongliad, O frenin: Datganiad y Goruchaf ynglŷn â'm harglwydd frenin yw hwn. 25Cei dy yrru o ŵydd pobl, a bydd dy gartref gyda'r anifeiliaid; byddi'n bwyta gwellt fel ych, a bydd gwlith y nefoedd yn dy wlychu. Bydd saith cyfnod yn mynd heibio, nes iti wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn. 26Am y gorchymyn i adael boncyff y pren a'i wraidd, bydd dy frenhiniaeth yn sefydlog wedi iti ddeall mai'r nefoedd sy'n teyrnasu. 27Derbyn fy nghyngor, O frenin: tro oddi wrth dy bechodau trwy wneud cyfiawnder, a'th droseddau trwy wneud trugaredd â'r tlodion, iti gael dyddiau hir o heddwch.”
28Digwyddodd hyn i gyd i'r Brenin Nebuchadnesar. 29Ym mhen deuddeng mis, yr oedd y brenin yn cerdded ar do ei balas ym Mabilon, 30ac meddai, “Onid hon yw Babilon fawr, a godais trwy rym fy nerth yn gartref i'r brenin ac er clod i'm mawrhydi?” 31Cyn i'r brenin orffen siarad, daeth llais o'r nefoedd, “Dyma neges i ti, O Frenin Nebuchadnesar: Cymerwyd y frenhiniaeth oddi arnat. 32Cei dy yrru o ŵydd pobl, a bydd dy gartref gyda'r anifeiliaid. Byddi'n bwyta gwellt fel ych, a bydd saith cyfnod yn mynd heibio, nes iti wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn.” 33Digwyddodd hyn ar unwaith i Nebuchadnesar. Cafodd ei yrru o ŵydd pobl; yr oedd yn bwyta gwellt fel ych, ei gorff yn wlyb gan wlith y nefoedd, ei wallt yn hir fel plu eryr, a'i ewinedd yn hir fel crafangau aderyn.
Nebuchadnesar yn Moli Duw
34“Ymhen amser, codais i, Nebuchadnesar, fy llygaid i'r nefoedd, ac adferwyd fy synnwyr. Yna bendithiais y Goruchaf, a moli a mawrhau'r un sy'n byw yn dragywydd.
Y mae ei arglwyddiaeth yn arglwyddiaeth dragwyddol,
a'i frenhiniaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.
35Nid yw neb o drigolion y ddaear yn cyfrif dim;
y mae'n gwneud fel y mynno â llu'r nefoedd
ac â thrigolion y ddaear.
Ni fedr neb ei atal, a gofyn iddo,
‘Beth wyt yn ei wneud?’
36Y pryd hwnnw adferwyd fy synnwyr a dychwelodd fy mawrhydi a'm clod, er gogoniant fy mrenhiniaeth. Daeth fy nghynghorwyr a'm tywysogion ataf. Cadarnhawyd fi yn fy nheyrnas, a rhoddwyd llawer mwy o rym i mi. 37Ac yn awr yr wyf fi, Nebuchadnesar, yn moli, yn mawrhau ac yn clodfori Brenin y Nefoedd, sydd â'i weithredoedd yn gywir a'i ffyrdd yn gyfiawn, ac yn gallu darostwng y balch.”

Dewis Presennol:

Daniel 4: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd