Daniel 1:17-20
Daniel 1:17-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Rhoddodd Duw allu anarferol i’r pedwar ohonyn nhw i ddysgu am lenyddiaeth a phopeth arall. Roedd gan Daniel yn arbennig y ddawn i ddehongli gweledigaethau a breuddwydion. Ar ddiwedd y cyfnod o hyfforddiant dyma’r prif swyddog yn mynd â nhw o flaen y Brenin Nebwchadnesar. Dyma’r brenin yn eu cyfweld nhw, a doedd dim un ohonyn nhw cystal â Daniel, Hananeia, Mishael ac Asareia. Felly dyma’r pedwar ohonyn nhw’n cael eu penodi i weithio i’r brenin. Beth bynnag oedd y brenin yn eu holi nhw amdano, roedd eu gwybodaeth a’u cyngor doeth ddeg gwaith gwell nag unrhyw ddewin neu swynwr doeth drwy’r Ymerodraeth gyfan.
Daniel 1:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Rhoddodd Duw i'r pedwar bachgen wybod a deall pob math o lenyddiaeth a gwyddor; a chafodd Daniel y gallu i ddatrys pob gweledigaeth a breuddwyd. Pan ddaeth yr amser a benodwyd gan y brenin i'w dwyn i'r llys, cyflwynodd y prif swyddog hwy i Nebuchadnesar. Ar ôl i'r brenin siarad â hwy, ni chafwyd neb yn eu mysg fel Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia; felly daethant hwy yn weision i'r brenin. A phan fyddai'r brenin yn eu holi ar unrhyw fater o ddoethineb a deall, byddai'n eu cael ddengwaith yn well na holl ddewiniaid a swynwyr ei deyrnas.
Daniel 1:17-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r bechgyn hynny ill pedwar, DUW a roddes iddynt wybodaeth a deall ym mhob dysg a doethineb: a Daniel a hyfforddiodd efe ym mhob gweledigaeth a breuddwydion. Ac ymhen y dyddiau y dywedasai y brenin am eu dwyn hwynt i mewn, yna y pen-ystafellydd a’u dug hwynt gerbron Nebuchodonosor. A’r brenin a chwedleuodd â hwynt; ac ni chafwyd ohonynt oll un fel Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: am hynny y safasant hwy gerbron y brenin. Ac ym mhob rhyw ddoethineb a deall a’r a ofynnai y brenin iddynt, efe a’u cafodd hwynt yn ddeg gwell na’r holl ddewiniaid a’r astronomyddion oedd o fewn ei holl frenhiniaeth ef.