Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Daniel 1

1
1Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i Jerwsalem, ac a warchaeodd arni. 2A’r Arglwydd a roddes i’w law ef Jehoiacim brenin Jwda, a rhan o lestri tŷ Dduw; yntau a’u dug hwynt i wlad Sinar, i dŷ ei dduw ef; ac i drysordy ei dduw y dug efe y llestri.
3A dywedodd y brenin wrth Aspenas ei ben-ystafellydd, am ddwyn o feibion Israel, ac o’r had brenhinol, ac o’r tywysogion, 4Fechgyn y rhai ni byddai ynddynt ddim gwrthuni, eithr yn dda yr olwg, a deallgar ym mhob doethineb, ac yn gwybod gwybodaeth, ac yn deall cyfarwyddyd, a’r rhai y byddai grym ynddynt i sefyll yn llys y brenin, i’w dysgu ar lyfr ac yn iaith y Caldeaid. 5A’r brenin a ddognodd iddynt ran beunydd o fwyd y brenin, ac o’r gwin a yfai efe; felly i’w maethu hwynt dair blynedd, fel y safent ar ôl hynny gerbron y brenin. 6Ac yr ydoedd yn eu plith hwynt o feibion Jwda, Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: 7A’r pen-ystafellydd a osododd arnynt enwau: canys ar Daniel y gosododd efe Beltesassar; ac ar Hananeia, Sadrach; ac ar Misael, Mesach; ac ar Asareia, Abednego.
8A Daniel a roddes ei fryd nad ymhalogai efe trwy ran o fwyd y brenin, na thrwy y gwin a yfai efe: am hynny efe a ddymunodd ar y pen-ystafellydd, na byddai raid iddo ymhalogi. 9A Duw a roddes Daniel mewn ffafr a thiriondeb gyda’r pen-ystafellydd. 10A’r pen-ystafellydd a ddywedodd wrth Daniel, Ofni yr ydwyf fi fy arglwydd y brenin, yr hwn a osododd eich bwyd chwi a’ch diod chwi: oherwydd paham y gwelai efe eich wynebau yn gulach na’r bechgyn sydd fel chwithau? felly y parech fy mhen yn ddyledus i’r brenin. 11Yna y dywedodd Daniel wrth Melsar, yr hwn a osodasai y pen-ystafellydd ar Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia, 12Prawf, atolwg, dy weision ddeg diwrnod, a rhoddant i ni ffa i’w bwyta, a dwfr i’w yfed. 13Yna edrycher ger dy fron di ein gwedd ni, a gwedd y bechgyn sydd yn bwyta rhan o fwyd y brenin: ac fel y gwelych, gwna â’th weision. 14Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn, ac a’u profodd hwynt ddeg o ddyddiau. 15Ac ymhen y deng niwrnod y gwelid eu gwedd hwynt yn decach, ac yn dewach o gnawd, na’r holl fechgyn oedd yn bwyta rhan o fwyd y brenin. 16Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt, a’r gwin a yfent; ac a roddes iddynt ffa.
17A’r bechgyn hynny ill pedwar, Duw a roddes iddynt wybodaeth a deall ym mhob dysg a doethineb: a Daniel a hyfforddiodd efe ym mhob gweledigaeth a breuddwydion. 18Ac ymhen y dyddiau y dywedasai y brenin am eu dwyn hwynt i mewn, yna y pen-ystafellydd a’u dug hwynt gerbron Nebuchodonosor. 19A’r brenin a chwedleuodd â hwynt; ac ni chafwyd ohonynt oll un fel Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: am hynny y safasant hwy gerbron y brenin. 20Ac ym mhob rhyw ddoethineb a deall a’r a ofynnai y brenin iddynt, efe a’u cafodd hwynt yn ddeg gwell na’r holl ddewiniaid a’r astronomyddion oedd o fewn ei holl frenhiniaeth ef. 21A bu Daniel hyd y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus.

Dewis Presennol:

Daniel 1: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd