Daniel 1:12-16
Daniel 1:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Rho brawf ar dy weision am ddeg diwrnod: rhodder inni lysiau i'w bwyta a dŵr i'w yfed, ac wedyn cymharu'n gwedd ni a gwedd y bechgyn sy'n bwyta o fwyd y brenin. Yna gwna â'th weision fel y gweli'n dda.” Cydsyniodd yntau, a'u profi am ddeg diwrnod. Ac ymhen y deg diwrnod yr oeddent yn edrych yn well ac yn fwy graenus na'r holl fechgyn oedd yn bwyta o fwyd y brenin. Felly cadwodd y swyddog y bwyd a'r gwin, a rhoi llysiau iddynt.
Daniel 1:12-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Pam wnei di ddim profi ni am ddeg diwrnod? Gad i ni fwyta dim ond llysiau a dŵr, ac wedyn cei weld sut fyddwn ni’n cymharu gyda’r bechgyn eraill sy’n bwyta’r bwyd brenhinol. Cei benderfynu gwneud beth bynnag wyt ti eisiau wedyn.” Felly dyma’r gwas oedd yn gofalu amdanyn nhw yn cytuno, ac yn eu profi nhw am ddeg diwrnod. Ar ddiwedd y deg diwrnod roedd Daniel a’i ffrindiau yn edrych yn well ac yn iachach na’r bechgyn eraill i gyd, er bod y rheiny wedi bod yn bwyta’r bwydydd gorau o gegin y palas. Felly dyma’r gwas oedd yn gofalu amdanyn nhw yn dal ati i roi llysiau iddyn nhw yn lle’r bwydydd cyfoethog a’r gwin roedden nhw i fod i’w gael.
Daniel 1:12-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Prawf, atolwg, dy weision ddeg diwrnod, a rhoddant i ni ffa i’w bwyta, a dwfr i’w yfed. Yna edrycher ger dy fron di ein gwedd ni, a gwedd y bechgyn sydd yn bwyta rhan o fwyd y brenin: ac fel y gwelych, gwna â’th weision. Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn, ac a’u profodd hwynt ddeg o ddyddiau. Ac ymhen y deng niwrnod y gwelid eu gwedd hwynt yn decach, ac yn dewach o gnawd, na’r holl fechgyn oedd yn bwyta rhan o fwyd y brenin. Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt, a’r gwin a yfent; ac a roddes iddynt ffa.