Daniel 1:1-8
Daniel 1:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon i Jerwsalem a gwarchae arni. A rhoddodd yr Arglwydd Jehoiacim brenin Jwda yn ei law, a rhai o lestri tŷ Dduw, ac aeth yntau â hwy i wlad Sinar a'u cadw yn nhrysordy ei dduw. Yna gorchmynnodd y brenin i Aspenas, ei brif swyddog, ddewis, o blith teulu brenhinol Israel a'r penaethiaid, rai bechgyn golygus heb unrhyw nam corfforol arnynt, yn hyddysg ym mhob gwyddor, yn ddeallus a gwybodus, ac yn gymwys i wasanaethu llys y brenin, ac iddo'u trwytho yn llên ac iaith y Caldeaid. Trefnodd y brenin iddynt dderbyn bwyd a gwin bob dydd o'i fwrdd ei hun, a chael eu hyfforddi am dair blynedd cyn mynd yn weision i'r llys. Yn eu mysg yr oedd Jwdeaid, o'r enwau Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia; ond galwodd y prif swyddog Daniel yn Beltesassar, Hananeia yn Sadrach, Misael yn Mesach, ac Asareia yn Abednego. Penderfynodd Daniel beidio â'i halogi ei hun â bwyd a gwin o fwrdd y brenin, ac erfyniodd ar y prif swyddog i'w arbed rhag cael ei halogi.
Daniel 1:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn y drydedd flwyddyn pan oedd y Brenin Jehoiacim yn teyrnasu ar Jwda, dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ymosod ar Jerwsalem a gwarchae arni. A dyma Duw yn gadael iddo ddal Jehoiacim, brenin Jwda. Cymerodd nifer o bethau o’r deml hefyd. Aeth â nhw yn ôl i wlad Babilon, a’u cadw yn y trysordy yn nheml ei dduw. Dyma’r brenin yn gorchymyn i Ashpenas, prif swyddog ei balas, chwilio am Israeliaid ifanc oedd yn perthyn i’r teulu brenhinol a theuluoedd bonedd eraill – dynion ifanc cryfion, iach a golygus. Rhai galluog, wedi cael addysg dda, ac yn fechgyn doeth, cymwys i weithio yn y palas. Roedden nhw i ddysgu iaith Babilon, a hefyd dysgu am lenyddiaeth y wlad. A dyma’r brenin yn gorchymyn eu bod i gael bwyta’r bwyd a’r gwin gorau, wedi’i baratoi yn y gegin frenhinol. Ac roedd rhaid iddyn nhw gael eu hyfforddi am dair blynedd cyn dechrau gweithio i’r brenin. Roedd pedwar o’r rhai gafodd eu dewis yn dod o Jwda – Daniel, Hananeia, Mishael, ac Asareia. Ond dyma’r prif swyddog yn rhoi enwau newydd iddyn nhw. Galwodd Daniel yn Belteshasar, Hananeia yn Shadrach, Mishael yn Meshach, ac Asareia yn Abednego. Dyma Daniel yn penderfynu nad oedd e am wneud ei hun yn aflan drwy fwyta’r bwyd a’r gwin oedd y brenin am ei roi iddo. Gofynnodd i’r prif swyddog am ganiatâd i beidio bwyta’r bwyd brenhinol.
Daniel 1:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i Jerwsalem, ac a warchaeodd arni. A’r ARGLWYDD a roddes i’w law ef Jehoiacim brenin Jwda, a rhan o lestri tŷ DDUW; yntau a’u dug hwynt i wlad Sinar, i dŷ ei dduw ef; ac i drysordy ei dduw y dug efe y llestri. A dywedodd y brenin wrth Aspenas ei ben-ystafellydd, am ddwyn o feibion Israel, ac o’r had brenhinol, ac o’r tywysogion, Fechgyn y rhai ni byddai ynddynt ddim gwrthuni, eithr yn dda yr olwg, a deallgar ym mhob doethineb, ac yn gwybod gwybodaeth, ac yn deall cyfarwyddyd, a’r rhai y byddai grym ynddynt i sefyll yn llys y brenin, i’w dysgu ar lyfr ac yn iaith y Caldeaid. A’r brenin a ddognodd iddynt ran beunydd o fwyd y brenin, ac o’r gwin a yfai efe; felly i’w maethu hwynt dair blynedd, fel y safent ar ôl hynny gerbron y brenin. Ac yr ydoedd yn eu plith hwynt o feibion Jwda, Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: A’r pen-ystafellydd a osododd arnynt enwau: canys ar Daniel y gosododd efe Beltesassar; ac ar Hananeia, Sadrach; ac ar Misael, Mesach; ac ar Asareia, Abednego. A Daniel a roddes ei fryd nad ymhalogai efe trwy ran o fwyd y brenin, na thrwy y gwin a yfai efe: am hynny efe a ddymunodd ar y pen-ystafellydd, na byddai raid iddo ymhalogi.