Daniel 1:1-21
Daniel 1:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn y drydedd flwyddyn pan oedd y Brenin Jehoiacim yn teyrnasu ar Jwda, dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ymosod ar Jerwsalem a gwarchae arni. A dyma Duw yn gadael iddo ddal Jehoiacim, brenin Jwda. Cymerodd nifer o bethau o’r deml hefyd. Aeth â nhw yn ôl i wlad Babilon, a’u cadw yn y trysordy yn nheml ei dduw. Dyma’r brenin yn gorchymyn i Ashpenas, prif swyddog ei balas, chwilio am Israeliaid ifanc oedd yn perthyn i’r teulu brenhinol a theuluoedd bonedd eraill – dynion ifanc cryfion, iach a golygus. Rhai galluog, wedi cael addysg dda, ac yn fechgyn doeth, cymwys i weithio yn y palas. Roedden nhw i ddysgu iaith Babilon, a hefyd dysgu am lenyddiaeth y wlad. A dyma’r brenin yn gorchymyn eu bod i gael bwyta’r bwyd a’r gwin gorau, wedi’i baratoi yn y gegin frenhinol. Ac roedd rhaid iddyn nhw gael eu hyfforddi am dair blynedd cyn dechrau gweithio i’r brenin. Roedd pedwar o’r rhai gafodd eu dewis yn dod o Jwda – Daniel, Hananeia, Mishael, ac Asareia. Ond dyma’r prif swyddog yn rhoi enwau newydd iddyn nhw. Galwodd Daniel yn Belteshasar, Hananeia yn Shadrach, Mishael yn Meshach, ac Asareia yn Abednego. Dyma Daniel yn penderfynu nad oedd e am wneud ei hun yn aflan drwy fwyta’r bwyd a’r gwin oedd y brenin am ei roi iddo. Gofynnodd i’r prif swyddog am ganiatâd i beidio bwyta’r bwyd brenhinol. Roedd Duw wedi gwneud i’r swyddog hoffi Daniel a bod yn garedig ato, ond meddai wrtho, “Mae fy meistr y brenin wedi dweud beth dych chi i’w fwyta a’i yfed. Mae arna i ofn beth fyddai’n wneud petaech chi’n edrych yn fwy gwelw a gwan na’r bechgyn eraill yr un oed â chi. Byddech chi’n rhoi fy mywyd i ar y lein!” Ond wedyn dyma Daniel yn siarad â’r swyddog oedd wedi cael ei benodi i ofalu amdano fe, Hananeia, Mishael ac Asareia. “Pam wnei di ddim profi ni am ddeg diwrnod? Gad i ni fwyta dim ond llysiau a dŵr, ac wedyn cei weld sut fyddwn ni’n cymharu gyda’r bechgyn eraill sy’n bwyta’r bwyd brenhinol. Cei benderfynu gwneud beth bynnag wyt ti eisiau wedyn.” Felly dyma’r gwas oedd yn gofalu amdanyn nhw yn cytuno, ac yn eu profi nhw am ddeg diwrnod. Ar ddiwedd y deg diwrnod roedd Daniel a’i ffrindiau yn edrych yn well ac yn iachach na’r bechgyn eraill i gyd, er bod y rheiny wedi bod yn bwyta’r bwydydd gorau o gegin y palas. Felly dyma’r gwas oedd yn gofalu amdanyn nhw yn dal ati i roi llysiau iddyn nhw yn lle’r bwydydd cyfoethog a’r gwin roedden nhw i fod i’w gael. Rhoddodd Duw allu anarferol i’r pedwar ohonyn nhw i ddysgu am lenyddiaeth a phopeth arall. Roedd gan Daniel yn arbennig y ddawn i ddehongli gweledigaethau a breuddwydion. Ar ddiwedd y cyfnod o hyfforddiant dyma’r prif swyddog yn mynd â nhw o flaen y Brenin Nebwchadnesar. Dyma’r brenin yn eu cyfweld nhw, a doedd dim un ohonyn nhw cystal â Daniel, Hananeia, Mishael ac Asareia. Felly dyma’r pedwar ohonyn nhw’n cael eu penodi i weithio i’r brenin. Beth bynnag oedd y brenin yn eu holi nhw amdano, roedd eu gwybodaeth a’u cyngor doeth ddeg gwaith gwell nag unrhyw ddewin neu swynwr doeth drwy’r Ymerodraeth gyfan. Roedd Daniel yn dal yno y flwyddyn y daeth Cyrus yn frenin.
Daniel 1:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon i Jerwsalem a gwarchae arni. A rhoddodd yr Arglwydd Jehoiacim brenin Jwda yn ei law, a rhai o lestri tŷ Dduw, ac aeth yntau â hwy i wlad Sinar a'u cadw yn nhrysordy ei dduw. Yna gorchmynnodd y brenin i Aspenas, ei brif swyddog, ddewis, o blith teulu brenhinol Israel a'r penaethiaid, rai bechgyn golygus heb unrhyw nam corfforol arnynt, yn hyddysg ym mhob gwyddor, yn ddeallus a gwybodus, ac yn gymwys i wasanaethu llys y brenin, ac iddo'u trwytho yn llên ac iaith y Caldeaid. Trefnodd y brenin iddynt dderbyn bwyd a gwin bob dydd o'i fwrdd ei hun, a chael eu hyfforddi am dair blynedd cyn mynd yn weision i'r llys. Yn eu mysg yr oedd Jwdeaid, o'r enwau Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia; ond galwodd y prif swyddog Daniel yn Beltesassar, Hananeia yn Sadrach, Misael yn Mesach, ac Asareia yn Abednego. Penderfynodd Daniel beidio â'i halogi ei hun â bwyd a gwin o fwrdd y brenin, ac erfyniodd ar y prif swyddog i'w arbed rhag cael ei halogi. Parodd Duw i'r prif swyddog ymddwyn yn ffafriol a charedig at Daniel, ond dywedodd y prif swyddog wrth Daniel, “Rwy'n ofni f'arglwydd frenin; ef sydd wedi pennu'ch bwyd a'ch diod, a phe sylwai eich bod yn edrych yn fwy gwelw na'ch cyfeillion byddech yn peryglu fy mywyd.” Dywedodd Daniel wrth y swyddog a osododd y prif swyddog i ofalu am Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia, “Rho brawf ar dy weision am ddeg diwrnod: rhodder inni lysiau i'w bwyta a dŵr i'w yfed, ac wedyn cymharu'n gwedd ni a gwedd y bechgyn sy'n bwyta o fwyd y brenin. Yna gwna â'th weision fel y gweli'n dda.” Cydsyniodd yntau, a'u profi am ddeg diwrnod. Ac ymhen y deg diwrnod yr oeddent yn edrych yn well ac yn fwy graenus na'r holl fechgyn oedd yn bwyta o fwyd y brenin. Felly cadwodd y swyddog y bwyd a'r gwin, a rhoi llysiau iddynt. Rhoddodd Duw i'r pedwar bachgen wybod a deall pob math o lenyddiaeth a gwyddor; a chafodd Daniel y gallu i ddatrys pob gweledigaeth a breuddwyd. Pan ddaeth yr amser a benodwyd gan y brenin i'w dwyn i'r llys, cyflwynodd y prif swyddog hwy i Nebuchadnesar. Ar ôl i'r brenin siarad â hwy, ni chafwyd neb yn eu mysg fel Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia; felly daethant hwy yn weision i'r brenin. A phan fyddai'r brenin yn eu holi ar unrhyw fater o ddoethineb a deall, byddai'n eu cael ddengwaith yn well na holl ddewiniaid a swynwyr ei deyrnas. A bu Daniel yno hyd flwyddyn gyntaf y Brenin Cyrus.
Daniel 1:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i Jerwsalem, ac a warchaeodd arni. A’r ARGLWYDD a roddes i’w law ef Jehoiacim brenin Jwda, a rhan o lestri tŷ DDUW; yntau a’u dug hwynt i wlad Sinar, i dŷ ei dduw ef; ac i drysordy ei dduw y dug efe y llestri. A dywedodd y brenin wrth Aspenas ei ben-ystafellydd, am ddwyn o feibion Israel, ac o’r had brenhinol, ac o’r tywysogion, Fechgyn y rhai ni byddai ynddynt ddim gwrthuni, eithr yn dda yr olwg, a deallgar ym mhob doethineb, ac yn gwybod gwybodaeth, ac yn deall cyfarwyddyd, a’r rhai y byddai grym ynddynt i sefyll yn llys y brenin, i’w dysgu ar lyfr ac yn iaith y Caldeaid. A’r brenin a ddognodd iddynt ran beunydd o fwyd y brenin, ac o’r gwin a yfai efe; felly i’w maethu hwynt dair blynedd, fel y safent ar ôl hynny gerbron y brenin. Ac yr ydoedd yn eu plith hwynt o feibion Jwda, Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: A’r pen-ystafellydd a osododd arnynt enwau: canys ar Daniel y gosododd efe Beltesassar; ac ar Hananeia, Sadrach; ac ar Misael, Mesach; ac ar Asareia, Abednego. A Daniel a roddes ei fryd nad ymhalogai efe trwy ran o fwyd y brenin, na thrwy y gwin a yfai efe: am hynny efe a ddymunodd ar y pen-ystafellydd, na byddai raid iddo ymhalogi. A DUW a roddes Daniel mewn ffafr a thiriondeb gyda’r pen-ystafellydd. A’r pen-ystafellydd a ddywedodd wrth Daniel, Ofni yr ydwyf fi fy arglwydd y brenin, yr hwn a osododd eich bwyd chwi a’ch diod chwi: oherwydd paham y gwelai efe eich wynebau yn gulach na’r bechgyn sydd fel chwithau? felly y parech fy mhen yn ddyledus i’r brenin. Yna y dywedodd Daniel wrth Melsar, yr hwn a osodasai y pen-ystafellydd ar Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia, Prawf, atolwg, dy weision ddeg diwrnod, a rhoddant i ni ffa i’w bwyta, a dwfr i’w yfed. Yna edrycher ger dy fron di ein gwedd ni, a gwedd y bechgyn sydd yn bwyta rhan o fwyd y brenin: ac fel y gwelych, gwna â’th weision. Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn, ac a’u profodd hwynt ddeg o ddyddiau. Ac ymhen y deng niwrnod y gwelid eu gwedd hwynt yn decach, ac yn dewach o gnawd, na’r holl fechgyn oedd yn bwyta rhan o fwyd y brenin. Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt, a’r gwin a yfent; ac a roddes iddynt ffa. A’r bechgyn hynny ill pedwar, DUW a roddes iddynt wybodaeth a deall ym mhob dysg a doethineb: a Daniel a hyfforddiodd efe ym mhob gweledigaeth a breuddwydion. Ac ymhen y dyddiau y dywedasai y brenin am eu dwyn hwynt i mewn, yna y pen-ystafellydd a’u dug hwynt gerbron Nebuchodonosor. A’r brenin a chwedleuodd â hwynt; ac ni chafwyd ohonynt oll un fel Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: am hynny y safasant hwy gerbron y brenin. Ac ym mhob rhyw ddoethineb a deall a’r a ofynnai y brenin iddynt, efe a’u cafodd hwynt yn ddeg gwell na’r holl ddewiniaid a’r astronomyddion oedd o fewn ei holl frenhiniaeth ef. A bu Daniel hyd y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus.