Daniel 1:1-2
Daniel 1:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon i Jerwsalem a gwarchae arni. A rhoddodd yr Arglwydd Jehoiacim brenin Jwda yn ei law, a rhai o lestri tŷ Dduw, ac aeth yntau â hwy i wlad Sinar a'u cadw yn nhrysordy ei dduw.
Daniel 1:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn y drydedd flwyddyn pan oedd y Brenin Jehoiacim yn teyrnasu ar Jwda, dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ymosod ar Jerwsalem a gwarchae arni. A dyma Duw yn gadael iddo ddal Jehoiacim, brenin Jwda. Cymerodd nifer o bethau o’r deml hefyd. Aeth â nhw yn ôl i wlad Babilon, a’u cadw yn y trysordy yn nheml ei dduw.
Daniel 1:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i Jerwsalem, ac a warchaeodd arni. A’r ARGLWYDD a roddes i’w law ef Jehoiacim brenin Jwda, a rhan o lestri tŷ DDUW; yntau a’u dug hwynt i wlad Sinar, i dŷ ei dduw ef; ac i drysordy ei dduw y dug efe y llestri.