Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 9:1-15

Amos 9:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwelais yr ARGLWYDD yn sefyll gerllaw'r allor, ac yn dweud, “Taro gapan y drws nes i'r rhiniogau ysgwyd, a maluria hwy ar eu pennau i gyd; y rhai a adewir, fe'u lladdaf â'r cleddyf; ni ffy yr un ohonynt ymaith, ni ddianc yr un ohonynt. Pe baent yn cloddio hyd at Sheol, fe dynnai fy llaw hwy oddi yno; pe baent yn dringo i'r nefoedd, fe'u dygwn i lawr oddi yno. Pe baent yn ymguddio ar ben Carmel, fe chwiliwn amdanynt, a'u cymryd oddi yno; pe baent yn cuddio o'm golwg yng ngwaelod y môr, byddwn yn gorchymyn i'r ddraig eu brathu yno. Pe bai eu gelynion yn eu dwyn ymaith i gaethglud, fe rown orchymyn i'm cleddyf eu lladd yno; cadwaf fy ngolwg arnynt, er drwg ac nid er da.” Yr Arglwydd, DUW y Lluoedd— ef sy'n cyffwrdd â'r ddaear, a hithau'n toddi, a'i holl drigolion yn galaru; bydd i gyd yn dygyfor fel y Neil, ac yn gostwng fel afon yr Aifft; ef sy'n codi ei breswylfeydd yn y nefoedd ac yn sylfaenu ei gromen ar y ddaear; ef sy'n galw ar ddyfroedd y môr ac yn eu tywallt dros y tir; yr ARGLWYDD yw ei enw. “Onid ydych chwi fel pobl Ethiopia i mi, O bobl Israel?” medd yr ARGLWYDD. “Oni ddygais Israel i fyny o'r Aifft, a'r Philistiaid o Cafftor a'r Syriaid o Cir? Wele, y mae llygaid yr Arglwydd DDUW ar y deyrnas bechadurus; fe'i dinistriaf oddi ar wyneb y ddaear; eto ni ddinistriaf dŷ Jacob yn llwyr,” medd yr ARGLWYDD. “Wele, yr wyf yn gorchymyn, ac ysgydwaf dŷ Israel ymhlith yr holl genhedloedd fel ysgwyd gogr, heb i'r un gronyn syrthio i'r ddaear. Lleddir holl bechaduriaid fy mhobl â'r cleddyf, y rhai sy'n dweud, ‘Ni chyffwrdd dinistr â ni, na dod yn agos atom.’ ” “Yn y dydd hwnnw, codaf furddun dadfeiliedig Dafydd; trwsiaf ei fylchau a chodaf ei adfeilion, a'i ailadeiladu fel yn y dyddiau gynt, fel y gallant goncro gweddill Edom a'r holl genhedloedd y galwyd fy enw arnynt,” medd yr ARGLWYDD. Ef a wna hyn. “Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD, “pan fydd yr un sy'n aredig yn goddiweddyd y sawl sy'n medi, a'r sawl sy'n sathru'r grawnwin yn goddiweddyd y sawl sy'n hau'r had; bydd y mynyddoedd yn diferu gwin newydd, a phob bryn yn llifo ohono. Adferaf lwyddiant fy mhobl Israel, ac adeiladant y dinasoedd adfeiliedig, a byw ynddynt; plannant winllannoedd ac yfed eu gwin, palant erddi a bwyta'u cynnyrch. Fe'u plannaf yn eu gwlad, ac ni ddiwreiddir hwy byth eto o'r tir a rois iddynt,” medd yr ARGLWYDD dy Dduw.

Amos 9:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Gwelais fy Meistr yn sefyll wrth yr allor, ac meddai fel hyn: “Taro ben y colofnau nes bydd y sylfeini’n ysgwyd! Bydd y cwbl yn syrthio ar ben yr addolwyr, A bydda i’n lladd pawb sydd ar ôl mewn rhyfel. Fydd neb o gwbl yn llwyddo i ddianc! Hyd yn oed tasen nhw’n cloddio i lawr i Fyd y Meirw, byddwn i’n dal i gael gafael ynddyn nhw! A thasen nhw’n dringo i fyny i’r nefoedd, byddwn i’n eu tynnu nhw i lawr oddi yno. Petaen nhw’n mynd i guddio ar ben Mynydd Carmel, byddwn i’n dod o hyd iddyn nhw, ac yn eu dal nhw. A thasen nhw’n cuddio o ngolwg i ar waelod y môr, byddwn i’n cael y Sarff sydd yno i’w brathu nhw. Petai eu gelynion nhw yn eu gyrru nhw i’r gaethglud, byddwn i’n gorchymyn i’r cleddyf eu lladd nhw yno. Dw i’n hollol benderfynol o wneud drwg iddyn nhw ac nid da.” Fy Meistr, yr ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, ydy’r un sy’n cyffwrdd y ddaear ac mae’n toddi; a bydd pawb sy’n byw arni yn galaru. Bydd y ddaear gyfan yn codi fel afon Nîl; yn chwyddo ac yna’n suddo fel yr afon yn yr Aifft. Mae e’n adeiladu cartref iddo’i hun yn y nefoedd ac yn gosod sylfeini ei stordy ar y ddaear. Mae’n galw’r dŵr o’r môr ac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir –yr ARGLWYDD ydy ei enw e! “I mi, bobl Israel, dych chi ddim gwahanol i bobl dwyrain Affrica.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Mae’n wir fy mod i wedi arwain Israel o wlad yr Aifft, ond fi hefyd ddaeth â’r Philistiaid o ynys Creta a’r Syriaid o Cir.” Gwyliwch chi! Mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, yn cadw golwg ar y wlad bechadurus. “Dw i’n mynd i’w dinistrio hi oddi ar wyneb y ddaear! Ond wna i ddim dinistrio pobl Jacob yn llwyr,” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Gwyliwch chi! Bydda i’n rhoi’r gorchymyn ac yn ysgwyd pobl Israel, sydd yng nghanol y cenhedloedd, fel mae rhywun yn ysgwyd ŷd mewn gogr, a fydd dim cerrig mân yn disgyn trwodd. Bydd fy mhobl sydd wedi pechu yn cael eu lladd yn y rhyfel, sef y rhai hynny sy’n dweud mor siŵr, ‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i ni, na hyd yn oed yn dod yn agos aton ni.’ Y diwrnod hwnnw, bydda i’n ailsefydlu teyrnas Dafydd sydd wedi syrthio. Bydda i’n trwsio’r bylchau ynddo ac yn adeiladu ei adfeilion. Bydda i’n ei adfer i fod fel roedd yn yr hen ddyddiau. Byddan nhw’n cymryd meddiant eto o’r hyn sydd ar ôl o wlad Edom, a’r holl wledydd eraill oedd yn perthyn i mi,” –meddai’r ARGLWYDD, sy’n mynd i wneud hyn i gyd. “Gwyliwch chi!” meddai’r ARGLWYDD, “Mae’r amser yn dod, pan fydd cymaint o gnwd, bydd hi’n amser aredig eto cyn i’r cynhaeaf i gyd gael ei gasglu! A bydd cymaint o rawnwin, byddan nhw’n dal i’w sathru pan fydd yr amser wedi dod i hau’r had eto. Bydd gwin melys yn diferu o’r mynyddoedd a bydd yn llifo i lawr y bryniau. Bydda i’n dod â’m pobl Israel yn ôl i’w gwlad. Byddan nhw’n ailadeiladu’r trefi sy’n adfeilion, ac yn cael byw ynddyn nhw unwaith eto. Byddan nhw’n plannu gwinllannoedd ac yn yfed y gwin. Byddan nhw’n trin eu gerddi ac yn bwyta’r ffrwythau. Bydda i’n plannu fy mhobl yn eu tir eu hunain, a fydd neb yn eu diwreiddio nhw o’r wlad dw i wedi’i rhoi iddyn nhw.” –yr ARGLWYDD, eich Duw chi, sy’n dweud hyn.

Amos 9:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwelais yr ARGLWYDD yn sefyll ar yr allor: ac efe a ddywedodd, Taro gapan y drws, fel y siglo y gorsingau; a thor hwynt oll yn y pen; minnau a laddaf y rhai olaf ohonynt â’r cleddyf: ni ffy ymaith ohonynt a ffo, ac ni ddianc ohonynt a ddihango. Pe cloddient hyd uffern, fy llaw a’u tynnai hwynt oddi yno; a phe dringent i’r nefoedd, mi a’u disgynnwn hwynt oddi yno: A phe llechent ar ben Carmel, chwiliwn, a chymerwn hwynt oddi yno; a phe ymguddient o’m golwg yng ngwaelod y môr, oddi yno y gorchmynnaf i’r sarff eu brathu hwynt: Ac os ânt i gaethiwed o flaen eu gelynion, oddi yno y gorchmynnaf i’r cleddyf, ac efe a’u lladd hwynt: a gosodaf fy ngolwg yn eu herbyn er drwg, ac nid er da iddynt. Ac ARGLWYDD DDUW y lluoedd a gyffwrdd â’r ddaear, a hi a dawdd; a galara pawb a’r a drig ynddi, a hi a gyfyd oll fel llifeiriant, ac a foddir megis gan afon yr Aifft. Yr hwn a adeilada ei esgynfeydd yn y nefoedd, ac a sylfaenodd ei fintai ar y ddaear, yr hwn a eilw ddyfroedd y môr, ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr ARGLWYDD yw ei enw. Onid ydych chwi, meibion Israel, i mi fel meibion yr Ethiopiaid? medd yr ARGLWYDD: oni ddygais i fyny feibion Israel allan o dir yr Aifft, a’r Philistiaid o Cafftor, a’r Syriaid o Cir? Wele lygaid yr ARGLWYDD ar y deyrnas bechadurus, a mi a’i difethaf oddi ar wyneb y ddaear: ond ni lwyr ddifethaf dŷ Jacob, medd yr ARGLWYDD. Canys wele, myfi a orchmynnaf, ac a ogrynaf dŷ Israel ymysg yr holl genhedloedd, fel y gogrynir ŷd mewn gogr; ac ni syrth y gronyn lleiaf i’r llawr. Holl bechaduriaid fy mhobl a fyddant feirw gan y cleddyf, y rhai a ddywedant, Ni oddiwedd drwg ni, ac ni achub ein blaen. Y dydd hwnnw y codaf babell Dafydd, yr hon a syrthiodd, ac a gaeaf ei bylchau, ac a godaf ei hadwyau, ac a’i hadeiladaf fel yn y dyddiau gynt: Fel y meddianno y rhai y gelwir fy enw arnynt, weddill Edom, a’r holl genhedloedd, medd yr ARGLWYDD, yr hwn a wna hyn. Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, y goddiwedd yr arddwr y medelwr, a sathrydd y grawnwin yr heuwr had; a’r mynyddoedd a ddefnynnant felyswin, a’r holl fryniau a doddant. A dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel; a hwy a adeiladant y dinasoedd anghyfannedd, ac a’u preswyliant; a hwy a blannant winllannoedd, ac a yfant o’u gwin; gwnânt hefyd erddi, a bwytânt eu ffrwyth hwynt. Ac mi a’u plannaf hwynt yn eu tir, ac nis diwreiddir hwynt mwyach o’u tir a roddais i iddynt, medd yr ARGLWYDD dy DDUW.