Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 9:1-15

Amos 9:1-15 BNET

Gwelais fy Meistr yn sefyll wrth yr allor, ac meddai fel hyn: “Taro ben y colofnau nes bydd y sylfeini’n ysgwyd! Bydd y cwbl yn syrthio ar ben yr addolwyr, A bydda i’n lladd pawb sydd ar ôl mewn rhyfel. Fydd neb o gwbl yn llwyddo i ddianc! Hyd yn oed tasen nhw’n cloddio i lawr i Fyd y Meirw, byddwn i’n dal i gael gafael ynddyn nhw! A thasen nhw’n dringo i fyny i’r nefoedd, byddwn i’n eu tynnu nhw i lawr oddi yno. Petaen nhw’n mynd i guddio ar ben Mynydd Carmel, byddwn i’n dod o hyd iddyn nhw, ac yn eu dal nhw. A thasen nhw’n cuddio o ngolwg i ar waelod y môr, byddwn i’n cael y Sarff sydd yno i’w brathu nhw. Petai eu gelynion nhw yn eu gyrru nhw i’r gaethglud, byddwn i’n gorchymyn i’r cleddyf eu lladd nhw yno. Dw i’n hollol benderfynol o wneud drwg iddyn nhw ac nid da.” Fy Meistr, yr ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, ydy’r un sy’n cyffwrdd y ddaear ac mae’n toddi; a bydd pawb sy’n byw arni yn galaru. Bydd y ddaear gyfan yn codi fel afon Nîl; yn chwyddo ac yna’n suddo fel yr afon yn yr Aifft. Mae e’n adeiladu cartref iddo’i hun yn y nefoedd ac yn gosod sylfeini ei stordy ar y ddaear. Mae’n galw’r dŵr o’r môr ac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir –yr ARGLWYDD ydy ei enw e! “I mi, bobl Israel, dych chi ddim gwahanol i bobl dwyrain Affrica.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Mae’n wir fy mod i wedi arwain Israel o wlad yr Aifft, ond fi hefyd ddaeth â’r Philistiaid o ynys Creta a’r Syriaid o Cir.” Gwyliwch chi! Mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, yn cadw golwg ar y wlad bechadurus. “Dw i’n mynd i’w dinistrio hi oddi ar wyneb y ddaear! Ond wna i ddim dinistrio pobl Jacob yn llwyr,” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Gwyliwch chi! Bydda i’n rhoi’r gorchymyn ac yn ysgwyd pobl Israel, sydd yng nghanol y cenhedloedd, fel mae rhywun yn ysgwyd ŷd mewn gogr, a fydd dim cerrig mân yn disgyn trwodd. Bydd fy mhobl sydd wedi pechu yn cael eu lladd yn y rhyfel, sef y rhai hynny sy’n dweud mor siŵr, ‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i ni, na hyd yn oed yn dod yn agos aton ni.’ Y diwrnod hwnnw, bydda i’n ailsefydlu teyrnas Dafydd sydd wedi syrthio. Bydda i’n trwsio’r bylchau ynddo ac yn adeiladu ei adfeilion. Bydda i’n ei adfer i fod fel roedd yn yr hen ddyddiau. Byddan nhw’n cymryd meddiant eto o’r hyn sydd ar ôl o wlad Edom, a’r holl wledydd eraill oedd yn perthyn i mi,” –meddai’r ARGLWYDD, sy’n mynd i wneud hyn i gyd. “Gwyliwch chi!” meddai’r ARGLWYDD, “Mae’r amser yn dod, pan fydd cymaint o gnwd, bydd hi’n amser aredig eto cyn i’r cynhaeaf i gyd gael ei gasglu! A bydd cymaint o rawnwin, byddan nhw’n dal i’w sathru pan fydd yr amser wedi dod i hau’r had eto. Bydd gwin melys yn diferu o’r mynyddoedd a bydd yn llifo i lawr y bryniau. Bydda i’n dod â’m pobl Israel yn ôl i’w gwlad. Byddan nhw’n ailadeiladu’r trefi sy’n adfeilion, ac yn cael byw ynddyn nhw unwaith eto. Byddan nhw’n plannu gwinllannoedd ac yn yfed y gwin. Byddan nhw’n trin eu gerddi ac yn bwyta’r ffrwythau. Bydda i’n plannu fy mhobl yn eu tir eu hunain, a fydd neb yn eu diwreiddio nhw o’r wlad dw i wedi’i rhoi iddyn nhw.” –yr ARGLWYDD, eich Duw chi, sy’n dweud hyn.